3.2 Flashcards
Mudiant harmonig syml (mhs)
Mae mhs yn digwydd pan fydd cyflymiad gwrthrych mewn cyfrannedd union â’i bellter o bwynt sefydlog ac wedi’i gyfeirio tuag at y pwynt sefydlog. (a = – ω 2x)
Cyfnod, T gwrthrych sy’n osgiliadu
Yr amser i gyflawni un cylchred cyflawn.
Osgled, A gwrthrych sy’n osgiliadu
Gwerth mwyaf dadleoliad y gwrthrych (o’i safle cydbwysedd).
Gwedd
Gwedd osgiliad yw’r ongl (ωt + ε) yn yr hafaliad x = Acos (ω t + ε). [ε yw’r cysonyn gwedd.]
UNED: rad
Amledd, f
Nifer yr osgiliadau bob eiliad. Uned: Hz
Osgiliadau rhydd
Mae osgiliadau rhydd yn digwydd pan fydd system osgiliadu (fel pendil, màs ar sbring) yn cael ei dadleoli a’i rhyddhau. [Enw amledd yr osgiliadau naturiol yw’r amledd naturiol.]
Gwanychiad
Gwanychiad yw diflaniad (lleihad) osgled osgiliadau rhydd oherwydd grymoedd gwrthiant.
Gwanychiad critigol
Y gwanychiad critigol yw’r gwanychiad lleiaf sy’n atal y system rhag osgiliadu o gwbl ar ôl cael ei dadleoli a’i rhyddhau.
Osgiliadau gorfod
Mae’r rhain yn digwydd pan fydd grym gyrru sinwsoidaidd amrywiol yn gweithredu ar system osgiliadu, gan achosi i’r system osgiliadu gydag amledd y grym gosod.
Cyseiniant
Mewn dirgryniadau gorfod, os yw amledd y grym gosod yn hafal i amledd naturiol y system (e.e. màs ar sbring), bydd osgled yr osgiliadau’n fawr iawn. Cyseiniant yw hyn.