dibynadwyedd Flashcards
beth yw cysondeb
ba mor sefydlog, unffurf a dibynadwy yw rhywbeth
beth yw dibynadwyedd mewnol
i ba raddau y mae prawf neu fesur yn gyson ynddo’i hun fel y defnydd o gyfarwyddiadau a gweithdrefn safonol ar gyfer pob cyfranogwr
beth yw dibynadwyedd allanol
i ba raddau y mae prawf yn cynhyrchu canlyniadau cyson dros sawl achlysur
beth yw materion ddibynadwyedd
unrhyw broblemau gyda chysondeb yr ymchwil, megis sut y cafodd ei gynnal (dibynadwyedd mewnol) neu o ran y gallu i ailadrodd y canlyniadau (dibynadwyedd allanol)
sut gallwn trin materion ddibynadwyedd
gwrthbwyso
beth yw gwrthbwyso
rhannu’r boblogaeth neu’r sampl yn ddau hanner; yr hanner cyntaf yn cyflawni cyflwr un ac yna cyflwr dau, yr ail hanner yn cyflawni cyflwr dau ac yna cyflwr un sy’n negyddu effaith effeithiau trefn/ymarfer ac yn cynyddu dibynadwyedd mewnol.
beth yw safoni
y broses o sicrhau bod profiad yr ymchwil yn union yr un fath i bawb, trwy safoni’r gweithdrefnau, gall y seicolegydd geisio sefydlu achos ac effaith drwy gasglu data dibynadwy.
beth yw dibynadwyedd hollt dau hanner
rhannu atebion prawf cyfranogwr yn eu hanner a gweld a gafodd yr un sgorau neu sgorau tebyg ar y ddau hanner. os felly, mae dibynadwyedd mewnol yn uchel; os na, mae’n isel a byddai angen ailgynllunio cwestiynau
beth yw dibynadwyedd prawf-ailbrawf
profi ac ailbrofi’r un cyfranogwyr dros amser gyda’r un prawf a chymharu eu sgorau. os yw’r sgorau’r un fath, mae gan y prawf ddibynadwyedd allanol
beth yw rhyng-raddwyr
lle mae dau neu fwy o seicolegwyr yn cynhyrchu canlyniadau cyson drwy ddefnyddio gweithdrefn safonedig, system godio y cytunwyd arni neu gydberthyniad o’u data sy’n atal amrywiaeth o ran y broses o gasglu data gan nifer o seicolegwyr neu ymchwilwyr.
Rosenhan (1973)
sefydlu a oedd modd gwahaniaethu rhwng y call a’r gwallgof mewn sefydliadau seiciatrig.
grŵp o ymchwilwyr eraill
pob un yn adrodd yr un symptomau i wahanol gyfleusterau seiciatrig ar draws UDA.
gweithredu’n gwbl normal gyda’r bwriad o arsylwi sut y bydden nhw a chleifion eraill ar y wardiau seiciatrig yn cael eu trin ac a fyddai meddygon yn sylweddoli nad oeddent yn wallgof.