methedoleg Flashcards
beth yw arbrawf?
dull ymchwil sy’n mesur achos ac effaith drwy reoli a thrin newidynnau allweddol, lle y caiff cyfranogwyr eu dyrannu ar hap i grwpiau arbrofol/rheoli
enghraifft o arbrawf lab
loftus a palmer (1974)
beth yw cryfderau arbrawf lab
lefel uchel o reolaeth – gallwn felly awgrymu bod y newidyn annibynnol wedi achosi’r newidyn dibynnol.
mae’n hawdd ei ailadrodd felly mae modd gwirio dibynadwyedd.
beth yw gwendidau arbrawf lab
nid yw dilysrwydd ecolegol isel yn adlewyrchu lleoliad bywyd go iawn felly mae’r canlyniadau’n llai dilys na dulliau eraill
problemau nodweddion galw – os ydy cyfranogwyr yn gwybod eu bod yn cael eu hastudio, gallent weithredu mewn ffordd benodol ac effeithio ar ddilysrwydd
enghraifft o arbrawf maes
Hofling (1966)
beth yw cryfderau arbrawf maes
dilysrwydd ecolegol uwch, cael ei cynnal mewn sefyllfa go iawn heb reolaeth yr arbrofwr
llai o nodweddion galw gan nad yw cyfranogwyr yn ymwybodol eu bod yn cymryd rhan fel arfer, felly mae’r canlyniadau’n fwy dilys.
beth yw gwendidau arbrawf maes
anfoesegol ac mae mwy o gyfle o newidynnau allanol sy’n effeithio ar y canlyniadau gan fod llai o reolaeth na’r hyn sydd mewn arbrawf labordy.
pam nad yw lled-arbrawf yn arbrawf gwirioneddol
nid yw’r ymchwilydd wedi trin a thrafod newidyn annibynnol yn fwriadol ac ni chaiff cyfranogwyr eu dyrannu ar hap i gyflwr arbrofol neu reolydd
beth yw arbrawf naturiol
dull ymchwil lle mae’r newidyn annibynnol yn digwydd yn naturiol
enghraifft o arbrawf naturiol
Becker (1995)
beth yw cryfderau arbrawf naturiol
caniatáu ymchwil lle na ellir trin a thrafod newidyn annibynnol am resymau ymarferol neu foesegol, felly gellir ymchwilio i ystod o ymddygiadau
caniatáu ymchwilwyr i ymchwilio i broblemau ‘go iawn’ fel effeithiau trychineb ar iechyd, a all helpu mwy o bobl mewn mwy o sefyllfaoedd
beth yw gwendidau arbrawf naturiol
nid yw’n gallu dangos perthnasoedd achosol oherwydd ni chaiff y newidyn annibynnol ei drin yn uniongyrchol
bygythiad i ddilysrwydd mewnol gan fod llai o reolaeth ar newidynnau allanol
beth yw arsylwadau cyfranogwyr
dull ymchwil lle mae’r ymchwilydd yn ymgymryd â rôl cyfranogwr ac yn arsylwi ar ymddygiad cyfranogwyr eraill o’i amgylch.
daw’r ymchwilydd yn rhan o’r grŵp ac nid yw’n datgelu pwy ydyw.
enghraifft o arsylwad cyfranogwyr
Rosenhan (1973)
beth yw cryfderau arsylwi cyfraanogwyr
llai o siawns am nodweddion galw gan nad yw’r cyfranogwyr yn gwybod eu bod yn cael eu harsylwi gan yr ymchwilydd sy’n rhan o’u grŵp
gall ymchwilio i bobl a fyddai’n anodd iawn eu harsylwi fel arall.
beth yw gwendidau arsylwi cyfranogwyr
duedd yr arsylwr
canfyddiadau annibynadwy gan ei bod hi’n anodd gwneud nodiadauwrth arsylwi, felly mae data’n dibynnu ar gof
beth yw arsylwadau pobl nad ydynt yn gyfranogwyr
dull ymchwil lle mae’r ymchwilydd yn gwylio ac yn cofnodi ymddygiad cyfranogwyr heb ymyrryd mewn unrhyw ffordd.
nid yw’r cyfranogwyr yn ymwybodol eu bod yn cael eu harsylwi.
mae categorïau wedi’u paratoi ymlaen llaw wedi’u penderfynu, a chofnodir ymddygiad dan y categorïau wrth a phan fydd yn digwydd.