tuedd ddiwylliannol Flashcards
beth yw tuedd diwylliannol
y duedd i ddehongli a barnu ffenomena yn nhermau gwerthoedd, credoau a nodweddion nodedig y gymdeithas
beth yw’r ffordd o afael â’r mater o duedd ddiwylliannol
astudiaethau trawsddiwylliannol
beth yw astudiaethau trawsddiwylliannol
i weld a yw arferion diwylliannol yn effeithio ar ein hymddygiad
Buss (1989) - “sex differences in human mate preferences”
37 o samplau, 33 o wledydd, 10,047 o gyfranogwyr, 55 yn Iran i 1,491 yn UDA.
Holiadur a oedd yn cynnwys adrannau fel data bywgraffyddol a dewisiadau cymar.
Roedd angen newid holiaduron i adlewyrchu gwahaniaethau diwylliannol y gwahanol ddiwylliannau.
Cafodd y data ymchwil ei gasglu gan drigolion brodorol o bob gwlad a’i bostio i’r Unol Daleithiau i’w ddadansoddi.
canfyddiadau Buss
Dynion yn chwilio am ieuenctid a rhywun deniadol, tra bod menywod yn chwilio am adnoddau, uchelgais a rhywun gweithgar. Roedd hyn yn awgrymu bod dewis rhywiol yr un fath o un diwylliant i’r llall, gan awgrymu ei fod yn gynhenid.
beth yw ethnosentrigrwydd
gwerthuso diwylliannau neu grwpiau cymdeithasol eraill ar sail delfrydau eich diwylliant eich hun
pam yw ethnosentrigrwydd yn broblem?
arwain at duedd ddiwylliannol, gan wneud ymchwil yn llai dilys ac yn llai gwrthrychol.
beth yw is-ddiwylliannau?
myfyrwyr neu grwpiau crefyddol
Heinrich et al. (2010)
96% o gyfranogwyr ymchwil mewn cyfnodolion seicolegol blaenllaw yn dod o wledydd Gorllewinol. Mewn astudiaethau a oedd yn defnyddio cyfranogwyr o’r Unol Daleithiau, roedd 67% yn israddedigion oedd yn astudio seicoleg.