Uned 1.4 - Ensymau Flashcards
Ensym yn syml
mae ensymau’n cyfuno a molecwilau swbstrad yn y safle actif i gynhyrchu cynnyrch
pob ensym yn protein trydyddol
Beth yw ensym
Catalyddion biolegol sy’n cyflymu cyfradd adweithiau metabolaidd
Nodweddion ensymau
> pob ensym yn adweithio a molecwilau swbstrad penodol
siap crwn 3D arbennig ei hun, cynnal gan fondio protein trydyddol
moleciwl swbstrad yn ffitio mewn safle actif i ffurfio cymhylygyn ensym-swbstrad
Rhagdybiaeth clo ac allwedd
- awgrymu bod y swbstrad yn ffitio’n union yn safle actif yr ensym
- astudiaethau diffrethiant pelydr-X o’r ensym lysosym yn ategu hyn
Dau Fath o Ensym
- Ensym Anabolig
- Ensym Catabolig
Ensymau Anabolig
adeiladu cynhyrchion mwy o foleciwlau swbstrad llai
Ensymau Catabolig
dadelfennu molecwilau swbstrad mawr i ffurfio cynhyrchion llai
Lysosym ensym
- bodoli mewn dagrau a secretidau eraill
- swyddogaeth yw dinistrio bacteria pathogenaidd drwy ddadelfennu eu cellfuriau
- mae’n dinistrio’r cellfur drwy dorri bondiau glycosidaidd rhwng y siwgrau amino
- diffreithiant pelydr-X dangos bod yna rigol ar un ochr i’r moleciwl lysosym
- darn o bolysacarid chw siwgr amino yn ffitio yn y rhigol
- swbstrd cael ei ddal yn ei le gan fondiau hydrogen ac ionig
- polysacarid cael ei dorri mewn safle penodol pob tro
- hyn yw adwaith catabolig
Rhagdybiaeth Ffit Anwythol
- moleciwl swbstrad yn newid siap y safle actif: safle actif yn newid i ffitio’r moleciwl swbstrad yn berffaith
- golygu bod llawer o wahanol swbstradau’n gallu adweithio a’r un ensym
- egluro penodolrwydd eang rhai ensymau e.e. lipas
- safle cyflenwol
Priodweddau ensymau
- ensymau’n penodol: dim ond un adwaith penodol wnaiff pob ensym ei gatalyddu
- effeithlon iawn ac ganddynt rhif trosiant uchel: golygu eu bod nhw’n gallu trasnewid llawer o folewcilwau swbstrad
Egni actfadu ensymau
- maen angen egni i ddechrau adweithiau cemegol: egni actifadu
- angen i’r egni torri bondiau cemegol
- mae ensymau yn gostwng egni actifadu adwaith: lleihau’r egni sydd ei hangen
Ffactorau sy’n effeithio ar actifedd ensymau
> tymheredd
pH
crynodiad y swbstrad
crynodiad yr ensym
Effaith tymheredd ar actifedd ensymau
- cynyddu tymheredd: mwy o egni cinetig: ensymau a swbstrad symud o gwmpas gyflymach: cynyddu siawns o gwrthdaro: ffurfio mwy o gymhylygyn ensym-swbstrad llwyddiannus
- arwain at cynnydd yng nghyfradd yr adwaith
- tymheredd optimwm: 40 gradd
- 25 gradd = dim llawer o egni cinetig: gwrthdaro llai aml: llai o gymhylygion ensym-swbstrad llwyddiannus: cynhyrchu’n araf: actifedd ensymau isel
- 37 gradd = mwy o egni cinetig: gwarthdaro amlach: mwy o gymhlygion ensym-swbstrad llwyddiannus: cynhyrchu’n gyflymach: actifedd yr ensym yn lefelau rhwng 20 a 60 munud: crynodiad swbstrad ddod yn ffactor gyfyngol
- 60 gradd = dechrau caiff cynnyrch ei ffurfio’n gyflym iawn: egni cinetig uchel iawn: ensymau’n dadnatureiddio gyflym wrth i ddirgyniadau dorri bondiau hydrogen yn safle actif yr ensym: siap safle actif yn newid: dim cynnyrch: dim cymhylygyn ensym-swbstrad
Effaith pH ar actifedd ensymau
- gan ensymau amrediad pH optimwm cul
- newidiadau pH bach gallu effeithio ar gyfradd adwaith heb effeithio ar adeiledd ensym
- newidiadau bach tu hwnt i’r amrediad optimwm yn gallu achosi newidiadau cildroadwy i adeiledd yr ensym: achosi anactifadu
- mae pH eithafol yn gallu dadnatureiddio ensym
Effaith chrynodiad y swbstrad ar actifedd ensymau
- i ffurfio cymhylygyn ensym-swbstrad rhaid i’r gwefrau ar gadwynau ochr asid amino y safle actif ddenu gwefrau ar y moleciwl swbstrad
- ionau H a OH rhydd yn effeithio ar y gwefrau yn safle actif yr ensym
- os oes gormod o ionau H gallai fod yr un wefr ar y safle actif a’r swbstrad
- crynodiad yr ensym yn aros yn gyson, bydd cyfradd yr adwaith yn cynyddu wrth i grynodiad y swbstrad gynyddu
- nifer y safleoedd actif sydd ar gael yn dod yn ffactor gyfyngol ar grynodiad swbstrad uwch