Culhwch ac Olwen 4 - Y Brenin Arthur Flashcards
Beth sy’n rhan o beth sy’n gwneud C&O yn chwedl mor bwysig?
Rhan o beth sy’n gwneud C&O yn chwedl mor bwysig yw’r ffaith mai yma mae’r cofnod chwedlonol gyntaf am Arthur mewn unrhyw iaith.
Yn hanesyddol, pryd oedd Arthur yn arweinydd?
Yn hanesyddol, bu’n arweinydd ar ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched.
Beth oedd y llyfr dylanwadol iawn yn y cyfnod?
Llyfr dylanwadol iawn yn y cyfnod oedd Historia Regnum Britanniae o waith Sieffre o Fynwy.
Pa fath o gronicl oedd Historia Regnum Britanniae?
Roedd Historia Regum Britanniae yn gronicl ffug-hanesyddol a oedd yn honni disgrifio hanes brenhinoedd Prydain.
Yn Historia Regum Britanniae, beth ddisgrifr?
Disgrifir cyfnod disglair Arthur a oedd yn gyfnod llwyddiannus yn ôl Sieffre.
Beth gwyddwn heddiw am Historia Regum Britanniae?
Gwyddwn heddiw mai ffrwyth dychymyg Sieffre yw’r Historia.
Ond beth oedd y cronicl yn cael ei hystyried yn yr oesoedd canol?
Roedd y cronicl yn cael ei hystyried yn un ffeithiol yn y cyfnod.
O’r chwedl hon, beth cesglir am Arthur?
O’r chwedl hon, cesglir ei fod yn gymeriad lliwgar a’i hoff feddiannau fel Prydwen ei llong, Gwen ei fantell, Caledfwlch ei gleddyf a Gwenhwyfar ei wraig.
Beth gwyddom am Arthur o’r chwedl hon ynghyl a’i deulu?
O’r chwedl hon gwyddom ei fod yn gefnder i Culhwch a’i fod wedi cynorthwyo yn bersonol i gyflawni nifer o’r tasgau.
Beth ddatblygodd am Arthur o’r fan hon?
O’r fan hon, fe ddatblygodd y stori am Arthur, ac erbyn y chwedlau Arthuraidd fel ‘Iarlles y Ffynnon’, mae Arthur yn frenin balch a thrahaus.
Yn y chwedl ‘Breuddwyd Rhonabwy’, beth ddangosai Arthur?
Yn y chwedl ‘Breuddwyd Rhonabwy’, dangosai Arthur yr arwriaeth y mae’n ei dangos yn C&O.