Bioleg 2.4: Addasiadau ar gyfer Maeth Flashcards

(141 cards)

1
Q

Beth ydy pob organeb awtotroffig yn defnyddio?

A

Moleciwlau anorganig syml i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Ffototroffig?

A

Defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.
Adwaith yw ffotosynthesis, defnyddir CO2 a dwr i greu glwcos.
Enghraifft: Planhigion, rhai bacteria a rhai protoctista.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Cemoawtotroffig?

A

Defnyddio egni o adweithiau cemegol i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.
Enghraifft: Bacteria sy’n byw mewn agorfeydd hydrothermal a bacteria nitreiddio.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Beth ydy organebau heterotroffig yn wneud?

A

Bwyta ac yn hydrolysu moleciwlau organig cymhleth i ffurfio moleciwlau hydawdd sy’n cael eu hamsugno a’u cymathu.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Beth ydy organebau heterotroffig yn dibynnu ar?

A

Awtotroffau fel ffynhonnell bwyd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Holosoig?

A

Yn amlyncu bwyd ac yna’n ei dreulio’n fewnol.
Cynnwys amlyncu, treulio, amsugno, cymathu a charthu.
Enghraifft: Bron pob anifail e.e bodau dynol.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Saprotroffig?

A

Bwydo ar ddeunydd sy’n farw neu sy’n pydru.
Treulio eu bwyd yn allgellog drwy secretu ensymau treulio ar sylweddau bwyd tu allan i’r corff ac yna’n amsugno’r cynnyrch hydawdd ar draws y gellbilen trwy drylediad.
Enghraifft: Ffwng a bacteria.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Parasitig?

A

Byw ar organeb letyol.
Parasite yn bwydo ar yr organeb letyol ac yn achosi niwed iddi.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Beth gelwir Saproffytau a pam maent yn bwysig?

A

Ddadelfenyddion ac maent yn bwysig er mwyn pydru deunydd gwastraff ac ailgylchu maetholion gwerthfawr fel carbon a nitrogen.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Beth yw Detritysyddion?

A

Organebau sy’n bwydo ar ddeunydd marw.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Beth yw Parasitiaid?

A

Organebau hynod o arbenigol sy’n cael eu maeth ar draul organeb letyol.
Organeb letyol ddim yn elwa o hyn, ac mae’n aml yn cael ei niweidio.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Beth yw Ectoparasit ac Endoparasit?

A

Parasit sy’n byw ar organeb letyol.
Parasit sy’n byw y tu mewn i organeb letyol.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Enghraifft o ectoparasit - Sut ydy Lleuen y pen yn bwydo?

A

Bwydo drwy sugno gwaed o groen pen yr organeb letyol.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Enghraifft o ectoparasit - Sut ydy Lleue y pen wedi addasu?

A

I aros ar yr organeb letyol drwy ddatblygu crafangau sy’n gafael yng ngwallt yr organeb letyol a dodwy wyau sy’n gludo ar waelod y gwallt.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Pa fath o parasit yw ectoparasit?
Ble yn unig ydynt yn fyw?

A

Parasitiaid anorfod.
Dim ond mewn gwallt dynol y gallant fyw.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Enghraifft o endoparasit - ble ydy’r llyngyren lawn dwf yn byw a beth yw’r organeb letyol?

A

Byw yn y coludd dynol.
Y bod dynol yw organeb letyol gynradd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Beth yw organeb letyol eilaidd y llyngyren?

A

Moch - dyma lle mae’r ffurf larfa yn datblygu.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Sut caiff bodau dynol eu heintio?

A

Drwy fwyta porc sydd ddim wedi’i goginio’n iawn ac sy’n cynnwys larfau byw y llyngeren.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Beth sy’n digwydd yn yr organeb lletyol gynradd?

A

Lle mae ffurfiau llawn dwf y parasit yn datblygu.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

Beth sy’n digwydd yn yr organeb lletyol eilaidd?

A

Lle ceir ffurfiau larfaidd o’r parasit yn ddatblygu.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

Beth yw’r organeb lletyol eilaidd mewn rhai achosion?

A

Maent yn fectorau sy’n trosglwyddo’r parasit yn uniongyrchol o un prif letywr i brif letywr arall.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

Beth yw 6 problem mae’r llyngyren yn wynebu wrth oroesi yn y coludd?

A

> Byw mewn amodau gyda pH eithafol.
Suddion treulio sy’n cynnwys ensymau a mwcws.
Peristalsis yn ei gorddi a’i wthio yn gyson.
System imiwn yr organeb letyol yn ceisio ei ddinistrio.
Os bydd yr organeb lletyol yn marw bydd y parasit yn marw.
Rhaid ddarganfod ffordd o drosglwyddo o un organeb letyol i’r llall.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
23
Q

Beth yw 6 addasiad y llyngyr i fyw yn system dreulio anifail?

A

> Pen sgolecs - mae ganddo fachau a sugnolynau i gydio ym mur y coludd i atal gwthio allan gan peristalsis.
Pob proglotid wedi’i orchuddio mewn cwtigl drwchus sy’n amddiffyn rhag newidiadau pH eithafol.
Maent hefyd yn secretu mwcws ac atalwyr ensymau o’r cwtigl i leihau’r risg o dreulio.
Coluddyn bach iawn a dim ceg. Mae’n amsugno maetholion sydd eisoes wedi’u treulio drwy ei chwtigl.
Corff wastad yn denau iawn er mwyn cynyddu’r arwynebedd arwyneb ar gyfer amsugno maetholion o gynhwysion y coludd.
Pob proglotid yn cynnwys organau atgenhedlol gwrywaidd a benywaidd. Medru hunan ffrwythloni.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
24
Q

Beth ydy Protoctista fel yr Amoeba gyda?

A

Cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint mawr felly gallant cymryd maetholion i mewn ar draws eu pilen blasmaidd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
25
Ble ydy moleciwlau mawr yn mynd?
Mynd i mewn i wagolyn bwyd.
26
Beth ydy'r lysosymau yn wneud?
Asio a'r gwagolyn ac yn rhyddhau ensymau treulio i mewn iddo, gan hydrolysu'r moleciwlau bwyd.
27
Beth gall ecsocytosis rhyddhau?
Gwastraff sydd ddim yn gallu cael ei dreulio.
28
Gan fod y treulio'n digwydd y tu mewn i gell amoeba...?
...rydyn ni'n ei alw'n treulio mewngellol.
29
Pa fath o goludd sydd gan organebau syml fel Hydra?
Goludd tebyg i goden sydd ddim wedi gwahaniaethu ac sy'n cynnwys un agoriad i dderbyn bwyd a chael gwared ar wastraff.
30
Ble ydy'r Hydra yn byw?
Mewn dwr fres ac mae'n defnyddio celloedd pigo i barlysu ysglyfaeth. Yna fydd yn cymryd yr ysglyfaeth i mewn drwy'r ceg.
31
Beth sydd wedyn yn digwydd i'r ysglyfaeth?
Wedyn yn cael ei dreulio a fydd y gwastraff yn gadael drwy'r un agoriad.
32
Beth ydy organebau mwy datblygiedig a deiet amrywiol wedi esblygu?
Coludd tiwb a dau agoriad - un ar gyfer amlyncu ac un arall ar gyfer carthiad.
33
Sut ydy'r coludd wedi'i rhannu?
Yn adrannau gwahanol sydd wedi arbenigo ar gyfer swyddogaethau gwahanol. Enghraifft yw coludd dynol - wedi addasu ar gyfer diet hollysol.
34
Beth yw'r camau yn y system dreulio?
Amlynciad - Cymryd bwyd mewn i'r ceg. Treuliad - Torri molecylau mawr anhydawdd lawr i rai llai hydawdd. Amsugniad - Cymryd molecylau mewn i'r gwaed a'r lymff trwy fur y coludd. Cymathiad - Celloedd yn y corff yn defnyddio cynhyrchion treulio. Carthiad - Gwaredu bwyd sydd heb ei dreulio o'r coludd.
35
Beth yw treuliad mecanyddol?
Torri neu falu bwyd o'r dannedd, ac yna cyfangiadau rhythmig y coludd.
36
Beth ydy wal y coludd yn cynnwys?
Haenau o gyhyr sy'n cyfangu a llaesu - cyfrifol am gymysgu'r bwyd ag ensymau a'i wthio drwy'r coludd (peristalsis).
37
Beth yw treuliad cemegol?
Torrir molecylau mawr i lawr yn folecylau llai drwy hydrolysis a gatalyddir gan ensymau treulio sbesiffig.
38
Beth ydy ensymau Hydrolasau yn wneud?
Torri bondiaui drwy ychwanegu dwr. Gellir torri bondiau glycosidic, peptid ac ester yn yr un modd.
39
Beth ydy'r ensym treulio ar gyfer polymer startsh/ glycogen a beth ydy hon yn ffurfio?
Amylas, sy'n ffurfio Maltos, lactos neu swcros.
40
Beth ydy'r ensymau treulio ar gyfer Maltos, Lactos a Swcros a beth ydy hon yn ffurfio?
Maltas, Lactas a Swcras, sy'n ffurfio monomerau Glwcos alffa, glwcos + galactos a Glwcos + ffrwctos.
41
Beth ydy protein yn cael ei treulio gan?
Proteasau.
42
Beth ydy polymer fel popypeptid yn cael ei treulio gan a beth ydy hwn yn cynyrchu?
Ensym Endopeptidas, sy'n cynhyrchu Peptidau.
43
Beth ydy Peptidau yn cael eu treulio gan a beth ydy hwn yn ffurfio?
Ensym Ecsopeptidas, sy'n ffurfio monomer asidau amino.
44
Sut ydy treuliad lipid yn digwydd?
Lipasau.
45
Sut ydym yn treulio triglyserid a beth ydy hwn yn ffurfio?
Ensym Lipas, sy'n ffurfio monomerau asidau brasterog a glyserol.
46
Mur y coludd - beth yw'r Serosa?
Yr haen allanol Cynnwys haen o feinwe gyswllt wydn sy'n diogelu'r coludd ac yn lleihau ffrithiant yn erbyn organau eraill yn ystod peristalsis.
47
Beth yw'r cyhyryn hydredol a crwn?
Achosi tonnau o gyfangiadau cyhyrol gyda'i gilydd - peristalsis (gwthio bwyd allan o'r coludd). Dwy haen gyhyr yn symud i gyfeiriadau gwahanol wrthy cyfangu.
48
Ble ydy'r cyhyrau hydredol yn cyfangu o'i gymharu a'r cyhyrau cylchol?
Hydredol - Cyfangu i fyrhau'r coludd. Cylchol - Cyfangu i leihau'r diamedr.
49
Beth yw'r Isfwcosa?
Cynnwys pibellau gwaed a pibellau lymff i gludo cynhyrchion treulio. Cynnwys nerfau, sy'n cyd-drefnu cyfangiadau cyhyrol peristalsis.
50
Beth yw'r Mwcosa?
Haen fewnol sy'n leinio wal y coludd. Cynnwys chwarennau sy'n secretu mwcws a'i amddiffyn. Secretu suddion treulio neu'n amsugno bwyd wedi'i treulio.
51
Beth yw'r Epitheliwm?
Haen allanol celloedd y mwcosa ac mae'n gysylltu'n uniongyrchol a'r bwyd yn y lwmen (ceudod y coludd). Secretu suddion treulio i'r lwmen ac amsugno cynhyrchion treulio.
52
Sut ydy'r dwodenwm a'r ilewm wedi'u addasu i gynyddu effeithlonrwydd treuliad ac amsugno?
> Blygiadau yn y wal i gynyddu arwynebedd. > Arwyneb mewnol wedi cael ei blygu ymhellach i ffurfio miliynau o strwythurau o'r enw filiysau. > Arwyneb y celloedd epithelaidd sy'n gorchuddio'r filiysau wedi'u plygu ymhellach i ffurfio llawer o ficrofilysau.
53
Beth ydy'r chwarennau yn cynhyrchu?
Llawer o secretiadau, rhai yn cynnwys ensymau treulio.
54
Beth yw'r tri math o chwarren?
Chwarennau mawr y tu allan i'r coludd. Chwarennau ar ffurf celloedd yn yr isfwcosa. Chwarennau ar ffurf celloedd yn y mwcosa.
55
Beth ydy'r ceudod bochaidd wedi addasu i wneud?
Amlyncu bwyd a threulio mecanyddol.
56
Beth ydy'r dannedd yn wneud i bwyd?
Torri'r bwyd yn ddarnau, er mwyn gallu ei lyncu a chynyddu'r arwynebedd arwyneb i ensymau allu ei dreulio yn gemegol.
57
Beth ydy'r tafod yn wneud?
Symud y bwyd i'r arwynebau torri a malu y dannedd ac yna mae'r tafod yn rholio'r bwyd yn folws a gaiff ei lyncu.
58
Beth ydy'r tafod yn wneud i'r bwyd?
Ffurfir y bwyd i siap pel (bolws) gan y tafod ac yna ei wthio i'r ffaryncs.
59
Beth sy'n digwydd wrth i wal y ffaryncs gyfangu?
Mae'n gwthio'r bolws i'r oesoffagws.
60
Beth ydy'r epiglotis yn rhwystro?
Rhwystro'r bwyd rhag mynd i'r tracea.
61
Beth ydy'r poer yn cynnwys?
> Amylas poerol - treulio startsh/glycogen yn maltos. > Mwcws - iro'r bwyd i'w lyncu. > Ionau mwynol - CO32-, HCO3-, sy'n cynnal pH alcaliaidd sy'n optimaidd i'r ensymau yn y ceg. > Dwr
62
Beth ydy'r chwarennau poer yn cynyrchu?
Cynhyrchu poer, sy'n cael ei gymysgu a'r bwyd yn y geg.
63
Beth sy'n symud y bolws o'r ceg i'r stumog? Beth yw enw'r broses hon?
Ton rhythmig o gyfyngiadau cydlynol cyhyryn crwn a hydredol wal yr oesoffagws. Enw'r broses yw Peristalsis.
64
Ble ydy Peristalsis digwydd?
Pob rhan o'r llwybr treulio ac mae'n helpu symud bwyd ar hyd y lllwybr treulio.
65
Pam ydy cyhyrau hydredol yn cyfangu?
I fyrhau'r coludd ac mae cyhyrau cylchol yn cyfangu i leihau'r diamedr.
66
Sut ydy'r bolws yn cael ei gwthio ymlaen felly?
Cyhyrau cylchol yn cyfangu tu ol i'r bolws ac mae'r cyhyrau hydredol yn cyfangu o flaen y bolws er mwyn achosi'r tiwb i furhau i dderbyn y bolws.
67
Pam ydy'r sffincter cardiaidd yn agor?
Fel bod y bolws yn symud o'r oesoffagws ac mewn i'r stumog.
68
I beth ydy bwyd yn cael ei drawsnewid i?
Daliant asid hufennog a elwir yn dreulfwyd.
69
Pam ydy'r sffincter pylorig yn agor?
Fel bod y bwyd yn symud ymlaen i'r dwodenwm.
70
Ble ydy'r chwarennau gastrig a beth ydynt yn wneud?
O fewn fwcosa'r stumog, ac maent yn creu sudd gastrig.
71
Beth yw'r 3 cell wahanol mewn chwarennau gastrig?
Ocsyntig Peptig Gobled
72
Beth ydy celloedd Ocsyntig yn secretu a beth yw ei gwaith?
Asid Hydroclorig. Swyddogaeth yw lladd bacteria, actifadu pepsinogen i pepsin a cynnal pH optimaidd ar gyfer pepsin.
73
Beth ydy celloedd Peptig yn secretu a beth yw ei gwaith?
Pepsinogen. Swyddogaeth o rhagsylweddyn anactif yr ensym pepsin sy'n endopeptidase sy'n treulio protein.
74
Beth ydy celloedd Gobled yn sectretu a beth yw ei gwaith?
Mwcws. Swyddogaeth o amddiffyn leinin y stumog.
75
Beth sy'n atal y pepsin rhag treulio unrhyw feinweoedd wrth iddyn nhw gael eu secretu?
Maen nhw'n cael eu cynhyrchu ar ffurf anactif yn gyntaf.
76
Beth sydd angen wneud i pepsin allu gweithredu?
Mae'n rhaid actifadu pepsin.
77
Beth yw dwy rhan y coluddyn bach?
> Y dwodenwm. > Yr ilewm.
78
Ble ydy ensymau yn dod o?
Y pancreas a chwarennau'r isfwcosao fewn wal y coluddyn bach.
79
Beth sydd hefyd yn gorchuddio'r bwyd?
Hylif o'r enw bustl a wneir yn yr afu.
80
Beth yw Bustl?
Hylif gwyrdd sy'n cynnwys pigmentau bustl, sy'n gynnyrch gwastraff ymddatod haemoglobin. Cael ei ffurfio yn yr afu ac yn cael ei storio yn coden y bustl.
81
Sut ydy e'n mynd i'r dwodenwm?
Mynd i'r dwodenwm drwy ddwythell y bustl.
82
Sut ydy bustl yn helpu treulio?
> Cynnwys sodiwm hydrogen carbonad gyda pH rhwng 7-8. Hon yw'r pH optimwm i ensymau'r pancreas a'r coluddion weithio ynddo. Bustl yn bwysig i niwtraleiddio asidedd y bwyd. > Halwynau bustl yn emwlsio lipidau, sy'n darparu arwynebedd arwyneb fwy i'r ensym lipas weithredu arno, ac felly mae'n gwneud treuliad lipidau gan lipas yn fwy effeithlon.
83
Ble ydy'r sudd pancreatig yn cael ei secretu o?
Celloedd ynysig o fewn chwarennau ecsocrin yn y pancreas.
84
Beth sy'n ei cysylltu a'r coluddyn bach?
Gan ddwythell pancreatig, trwy hon y llifa sudd pancreatig.
85
Beth yw'r 4 ensym mewn sudd pancreatig?
Amylas. Lipas. Trypsinogen. Enterocinas.
86
Swyddogaeth Amylas?
Hydrolysu unrhyw startsh/glycogen sydd ar ol i faltos.
87
Swyddogaeth Lipas?
Hydrolysu triglyseridau i monoglyseridau ac yn y pendraw i asidau brasterog a glyserol.
88
Swyddogaeth Trypsinogen?
Rhagsylwedd inactive yr ensym trypsin. Mae hyn yn endopeptidas sy'n hydrolysu proteinau i peptidau.
89
Swyddogaeth Enterocinas?
Actifadu trypsinogen i trypsin. Cael ei greu yn mwcosa y dwodenwm.
90
Beth ydy mwcosa waliau'r dwodenwm yn cynnwys?
Nifer fawr o fan-bantiau microsgopig rhwng y filysauca elwir yn cryptau Lieberkuhn.
91
Beth sydd yng nghwaelod y cryptau o fewn yr isfwcosa?
Mae chwarennau a elwir yn chwarennau Brunner.
92
Beth ydy chwarennau Bruner yn secretu?
Sudd alcaliaidd a mwcws.
93
Beth yw swyddogaeth y Mwcws?
Swyddogaeth iro ac amddiffyn.
94
Sut ydy'r sudd alcaliaidd yn helpu?
Helpu i gadw cynnwys y coluddyn bach ar y pH optimaidd i actifedd ensymau ac yn niwtraleiddio asidedd y fwyd o'r stumog.
95
Beth ydy rhai o'r celloedd epithelaidd ar gwaelod y crypt yn wneud?
Rhyddhau ensymau treulio, neu yn treulio sylweddau yn fewngellog.
96
Ble ydy treulio pellach hefyd yn digwydd?
Yng nghelloedd epithelaidd sy'n gorchuddio flaenau'r filysau a elwir yn celloedd epithelaidd border brwsh.
97
Felly mae cam olaf treuliad carbohydradau yn...?
...fewngellog.
98
Beth sy'n digwydd i deusacaridau?
Maent yn cael eu hamsugno i'r celloedd cyn eu dadelfennu i ffurfio monosacaridau gan carbohydrasau sydd wedi mewnblannu o fewn y cellbilen.
99
Beth ydy Maltas yn hydrolysu? Beth ydy Lactas yn hydrolysu? Beth ydy Swcras yn hydrolysu?
Hydrolysu maltos i ffurfio dau foleciwl alffa-glwcos. Hydrolysu lactos i ffurfio glwcos a galactos. Hydrolysu swcros i ffurfio glwcos a ffrwctos.
100
Beth sydd hefyd yn cael ei rhyddhau i lwmen y dwodenwm?
Endo ac ecsopeptidasau, gan celloedd epithelaidd border brwsh ac maent yn dreulio peptidau i deupeptidau.
101
Beth ydy ensymau sydd wedi mewnblannu o fwn cellbilenni'r celloedd epithelaidd wedyn yn treulio?
Deupeptidau i asidau amino.
102
Beth yw'r Ilewm a beth yw ei swyddogaeth?
Ail ran y coluddyn bach. Amsugnir bron y cwbl o'r cynnyrch treulio yma ac felly mae wedi'i addasu ar gyfer amsugniad.
103
Pam ydy arwynebedd mewnol y coluddyn bach yn cynyddu?
> Plygion mewn wal yr ilewm. > Filysau niferus ar y plysion. > Celloedd epithelaidd ar arwyneb y filysau gyda 'border brwsh' o microfilysau (+ nifer uchel o mitochondria i ddarparu ATP ar gyfer cludiant). > Y ffaith bod yr ilewm yn hir iawn (bron 5m).
104
Beth yw bob filws?
Estyniad microsgopig fel tiwb, ac mae wedi ei orchuddio ag eptheliwm ac yn cynnwys rhwydwaith datblygedig o gapilariau gwaed a lactealau i gludo cynhyrchion treulio + rhwydwaith eang o nerfau i gyd-drefnu peristalsis.
105
Beth sydd ar gwaelod y fili?
Mae chwarennau o'r enw cryptau Lieberkuhn.
106
Beth ydy'r celloedd yn y cryptau yn cynhyrchu?
Ensymau treulio sy'n cwblhau'r broses dreulio, yn aml yn fewngellog.
107
Beth dydd ddim gan yr Ilewm?
Chwarennau Brunner.
108
Pryd ydy amsugnedd yn digwydd?
Ar ol treuliad.
109
Sut ydy cynhyrchion treuliad yn symud?
Un cam ar y tro o lwmen yr ilewm i'r gwaed.
110
Beth yw'r dull amsugniad ar gyfer Asidau Amino?
Trwy gludiant actif i'r celloedd epithelaidd ac yna drwy drylediad cynorthwyedig i'r capilariau.
111
Beth yw'r dull amsugniad ar gyfer Gwlcos a monosacaridau eraill?
Trwy cyd-gludiant (gyda ionau sodiwm) i gelloedd epithelaidd ac yna drwy drylediad cynorthwyedig i'r capilariau.
112
Beth yw'r dull amsugniad ar gyfer Asidau brasterog a glyserol?
Trwy drylediad ar draws haen ddeuol ffosffolipid (gan eu bod nhw'n hydawdd mewn lipidau) i gelloedd epithelaidd. Yno maent yn cael eu hail-osod ar ffurf triglyseridau. Mae'r triglyseridau wedyn yn tryledu i'r lacteal.
113
Ble ydy'r capilariau yn arwain?
I mewn i'r wythien bortal hepatig, sy'n cario gwaed i'r afu.
114
Beth ydy'r lacteal yn wneud?
Gwagio i'r system lymffatig.
115
Ble ydy'r system lymffatig yn mynd yn y pendraw?
Mae'r system lymffatig (o'r lacteal) hefyd yn mynd i'r gwaed trwy'r dwythellau thorasig.
116
Sut ydy'r coluddyn mawr wedi rhannu?
Caecwm, pendics, colon a'r rectwm.
117
Beth sy'n digwydd yn y colon?
Mae amsugniad dwr a halwynau mwynol yn cymryd lle yn ogystal a fitaminau sy'n cael eu secretu gan ficro-organebau cydymddibynnol sy'n byw yn y colon.
118
Beth ydy'r bacteria hyn yn gyfrifol am?
Gynhyrchu fitamin K ac asid ffolig.
119
Beth ydy dwr yn y carthion yn ffurfio?
4-8% o'r holl golled dwr mewn person.
120
Beth ydy'r mater sydd ar ol yn cynnwys a ble caiff e ei storio?
Cynnwys cellwlos, bacteria, bustl a chelloedd marw. Cael ei storio yn y rectwm cyn mynd allan o'r corff trwy'r anws fel ysgarthion, sef ymgarthu.
121
Sut ydy Glwcos yn cael ei ddefnyddio?
Amsugno o'r gwaed gan gelloedd i'w ddefnyddio i ryddhau egni wrth resbiradu. Gormodedd yn cael ei storio fel braster.
122
Sut ydy Asidau Amino yn cael ei ddefnyddio?
Amsugno ar gyfer synthesis proteinau.
123
Sut ydy Lipidau yn cael ei ddefnyddio?
Ar gyfer cellbilenni a hormonau. Gormodedd yn cael ei storio fel braster, sy'n storfa egni ac yn ynysydd.
124
Sut ydy llysysyddion wedi addasu?
Diet planhigion, anodd ei dreulio oherwydd llawer o gellwlos. Deintiaid wedi addasi i falu a chnoi bwyd caled.
125
Sut ydy cigysyddion wedi addasu?
Bwyta anifeiliaid sydd yn gyfoethog mewn protein a braster. Deintiaid wedi addasu i dal, lladd a rhwygo ysglyfaeth.
126
Sut ydy hollysyddion wedi addasu?
Bwyta diet cymysg ac mae angen iddynt treulio ystod aeng o fwydydd.
127
Beth yw siap blaenddannedd?
Cyn er mwyn brathu a rhwygo bwyd.
128
Beth yw siap dannedd llygaid?
Finiog ar gyfer gafael mewn ysglyfaeth a rhwygo cnawd.
129
Beth yw siap cilddannedd a gogilddannedd?
Fflat ar gyfer gnoi a malu meinwe planhigion.
130
Sawl dannedd sydd gan hollysyddion?
32, ac mae'r dannedd yn llai arbenigol.
131
Beth yw'r 3 fath o dannedd sydd gan hollysyddion?
> Blaenddannedd, ar gyfer torri bwyd. > Dannedd llygad, siap pigfain ar gyfer torri bwyd. > Cilddannedd blaen ac ol, ar gyfer cnoi a malu'r bwyd.
132
Beth sydd gan llysysyddion?
Blaenddannedd a dim dannedd llygad.
133
Beth yw'r diastema mewn llysysydd?
Bwlch rhwng y dannedd blaen a'r gogilddannedd.
134
Sut ydy'r cilddannedd a'r gogilddannedd wedi addasu mewn llysysyddion?
Cribo'n uchel er mwyn darparu arwyneb malu mawr.
135
Sut ydy'r dannedd blaen a'r dannedd llygad wedi addasu mewn cigysydd?
Blaen: Ar y safn uchaf ac isaf, miniog. Llygad: Mawr ac yn bigfain er mwyn gafael yn yr ysglyfaeth.
136
Beth sydd gan gigysyddion?
Dau bar o dannedd arbenigol - cigysyddaint.
137
Beth ydy'r gogilddannedd a'r cilddannedd yn wneud mewn cigysyddion?
Torri a gwasgu, ac maent yn finiog.
138
Sut ydy'r cyhyrau gen wedi addasu mewn cigysyddion?
Gryf iawn er mwyn torri a chracio'r esgyrn.
139
Sut ydy coludd cigysyddion wedi addasu?
Coludd byr, ond stumog cymharol fwy a'r caecwm yn fach.
140
Sut ydy coudd llysysyddion wedi addasu?
Coludd hir, caecwm fawr.
141
Sawl siambr sydd mewn stumog buwch?
4.