Branwen 1 - Sarhad Flashcards
(6 cards)
Sut mae Matholwch yn cael ei sarhau?
Mae Efnisien yn sarhau matholwch am briodi Branwen heb ei ganiatad ef drwy anffurfio ei geffylau.
Beth sy’n arwyddocaol am y dull o sarhad?
Fe ddewisiodd Efnisien ei ddull yn ofalus, gan fod ceffylau yn symbol o gryfder yn y cyfnod.
Ar wahan i gryfder, beth arall oedd ceffylau yn symbol ohoni?
Roedd ceffylau hefyd yn symbol o ffrwythlonedd, ac o allu’r byd i atgenhedlu.
I bwy oedd ceffyl a ffrwythlonedd yn arbennig o bwysig i?
Roedd hyn yn arbennig o bwysig i’r Celtiaid, e.e. fe gwelir nifer o fryniau wedi’u cerfio â cheffyl gwyn.
Pwy oedd yn cynrychioli’r elfen pwysig o ffrwythlonedd i’r Celtiaid?
I’r Celtiais, y dduwies Europa oedd yn cynrychioli’r elfen bwysig o ffrwythlonedd, ac mae llun enwog ohoni yn eistedd ar ei cheffyl.
I’r sawl a oedd yn y llys yn gwrando ar stori Branwen, beth fyddai’n sioc iddynt?
I’r sawl a oedd yn y llys yn gwrando ar stori Branwen, fe fyddai’n sioc ganddynt glywed bod Efnisien wedi difetha ceffylau Brenin a oedd yn ymweld â’r wlad hon. Mae Matholwch hefyd yn sylwi ar ddyfnder y gwarth.