Cefndir Dafydd ap Gwilym Flashcards

(28 cards)

0
Q

Pryd oedd DAG yn byw?

A

Roed Dafydd ap Gwilym yn byw tua 1320-1380

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
1
Q

Yn ei gifnod, beth oedd DAG yn caeil ei gydnabod fel?

A

Roedd yn cael ei adnabod fel un o feirdd pwysicaf Ewrop yn ei gyfnod.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Lle mae dafydd ap gwilym wedi cael ei gladdu?

A

Mae Dafydd ap Gwilym wedi cael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur sydd ddim yn bell o Aberystwyth.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Ym mha haen o gymdeithas iedd DAG?

A

Roedd dafydd ap gwilym yn uchelwr yn ol traddodiad

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Lle cafodd dafydd ap gwilym ei fagu?

A

Cafodd Dafydd ap Gwilym ei fagu ym Mro Gynin, ger Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Roedd yn mab i Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion a’r wraig Ardudfyl.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Beth oedd enw dad DAG?!?!

A

Enw tad DAG oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion!!!

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Pwy oedd ei ewythr?

A

Roedd ei ewythr, Llywelyn ap agwilym ab Einion yn gwnstabl yng Naghastell Newydd Emlyn ac yn ddyn dylanwadol iawn. Mae’n bosib fod Dafydd wedi treulio llawer o amser neu hyd yn oed wedi byw gyda’i ewythr, sy’n cael ei alw’n ‘Eos Dyfed’ a ‘bardd glan Teifi’.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Tua faint o gerddi DAG sydd wedi goroesi?

A

Mae tua 170 o’i gerddi wedi goroesi

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Pryd oedd D ap g yn barddoni?

A

Roedd yn barddoni rhwng 1340 a 1370 sef cyfnod pan oedd dull y Gogynfeirdd o ganu’n dod i ben, a chyfnod Beirdd yr Uchelwyr, sef cyfnod mawr y cywydd yn cychwyn.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Pa system newidiodd ar ol marwolaeth Llywelyn ym 1282?

A

Newidiodd y system nawdd ar ol marwolaeth Llywelyn yn 1282. Golygai hyn nad oedd tywysogion i noddi beirdd, ac Uchelwyr bellach oedd y noddwyr ac roedd yn rhaid i feirdd deithio a chystadlu i chwilio am nawdd gan Uchelwyr. Dyma ddechrau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr a’i brif seren, D ap G.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Beth credir fod D ap G wedi ei wneud?

A

Credid i D ap G deithio yn helaeth o gwmpas Cymru yn barddoni ac ymweld â’i ffrindiau, a gwelwn hyn yn ei gerddi. Er enghraifft, mae’n canu i Rosyr (Niwbwrch), Ynys Môn a dywed iddo fod yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Roedd o hefyd yn cani i wŷr a gwragedd bonheddig Ceredigion a credir iddo ganu llawer i Ifor Hael o Faesaleg ym Morgannwg.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Lle mae yna lle pwysig iawn i D ap G?

A

Mae yna lle pwysig iawn i D ap G yn natblygiad y cywydd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Beth sy’n anodd i’w deall?

A

Mae cerddi Beirdd y Tywysogion, sef y Gogynfeirdd, yn anodd i’w deall, oherwydd eu bod nhw’n llawn cystrawennau cymhleth a geiriau cyfansawdd dieithr. Canodd D ap G rai cerddi cynnar yn y dull yma.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Pa mesur oedd yn bod cyn cyfnod D ap G?

A

Roedd mesur o’r enw Traethodl yn bod gan feirdd isel radd cyn cyfnod D ap G.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Beth wnaeth D ap G cywreinio?

A

Cywreiniodd D ap G y mesur o’r enw Traethodl trwy ei gynganeddu a gorffen y llinellau’n acennog a diacen bob yn ail. O ganlyniad, datblygodd y cywydd yn fesur oedd digon urddasol i ganu mawl a marwnad arno,

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Beth o bosib oedd cyfraniad mwyaf D ap G?

A

O bosib, cyfraniad mwyaf D ap G oedd gwneud ei hun yn brif ffocws ei gerddi. Cyn hyn, nid oedd personoliaeth beirdd ddim i’w weld yn eu cerddi. Cerddi mawl a marwnadau a geir. Roedd teimladau a phrofiadau D ap G yn llenwi ei gerddi er enghraifft Trafferth Mewn Tafarn a Mis Mai a Mis Tachwedd.

16
Q

Pa themau newydd daeth D ap G i farddoniaeth Gymraeg?

A

Daeth D ap G â themâu newydd i farddoniaeth Gymraeg, sef natur a serch a gwneud hwyl ar ben ei gampau serch ei hun. Mae dylanwad beirdd crwydrol o Ffrainc, sef y Trwbadwriaid, i’w weld yn ei gerddi. Fel Dafydd, canent am serch, merched ac yfed.

17
Q

Yn y cyfnod, pa fath o chwedlau oedd yn ddylanwad fawr ar D ap G?

A

Yn y cyfnod, roedd y fabliaux sef chwedlau o wahanol fathau, yn enwedig yn ymwneud â throeon trwstan yn amlwg yn ffrainc yn dylanwadu’n fawr ar D ap G er enghraifft yn Trafferth Mewn Tafarn.

18
Q

Yn ei gerddi serch, pwy mae D ap G yn canu i?

A

Mae ganddo nifer o gerddi serch lle mae’n canu i ferched arbennig am fod yn glaf o serch ac am droeon trwstan a ddeuai i’w ran pan yn mercheta.

19
Q

Pwy yw’r dwy brif gariad ganddo yn ei gerddi serch?

A

Mae dwy brif gariad ganddo sef Morfudd a Dyddgu - er ei bod yn barod i garu gyda merched eraill os y cai y cyfle fel y gwelwn yn Trafferth Mewn Tafarn.

20
Q

Beth mae Syr Ifor Williams yn credu am dwy brif gariad D ap G?

A

Credai Syr Ifor Williams mai teip o ferched oedd Morfudd a Dyddgu

21
Q

Ond sut mae Dr Thomas Parry yn anghytuno â Syr Ifor Williams?

A

Anghytuna Dr Thomas Parry, sydd yn credu mai merched go iawn oedd Morfudd a Dyddgu. Credai bod Dyddgu efo gwallt du, ac yn rhywun bonheddig ac urddasol a credai bod Morfudd efo gwallt melyn, a oedd yn wraig briod llac ei moesau.

22
Q

Sut gellir ddisgrifio bywyd carwriaethol D ap G?

A

Gellir ddisgrifio bywyd carwriaethol D ap G fel un cymhleth ac yn aml yn llawn rhwystrau e.e Trafferth Mewn Tafarn.

23
Q

Beth oedd D ap G yn aml yn cyfuno?

A

Yn aml iawn, cyfunai D ap G y ddwy thema o serch a natur, ac mae llawer o’i gerddi yn sôn am garu yn yr awyr agored.

24
Beth oedd prif thema'r canu natur?
Prif thema'r canu natur yw'r gwahaniaeth rhwng haf a gaeaf ac effaith hynny ar garu a serch.
25
Beth oedd D ap G yn credu am gaeaf yn ei gerddi serch?
Credai fod gaeaf yn rhwystro dyn rhag caru - daear wlyb yn lladd angerdd serch a fod angen amynedd i garu mewn glaw ac oerfel.
26
Beth oedd mwyafrif o gerddi natur Dafydd yn sôn am?
Mae mwyafrif o gerddi D ap G yn sôn am yr haf yn hytrach na'r gaeaef ac yn dathlu dyfodiad yr haf.
27
Beth mae ei gerddi i'r haf llawn?
Mae ei gerddi i'r haf llawn tynerwch, llawenydd a'r teimlad fod y byd yn llawn o ryfeddodau.