Dulliau Ymchwil Flashcards
(32 cards)
Dulliau o gasglu data - data meintiol
- data sy’n cael eu cyfri a’u mesur
- fel arfer yn perthyn i bersbectif positifiaethol (Durkheim = pwysleisio cyfri a mesur nodweddion cymdeithasol)
Dulliau o gasglu data - data ansoddol
- wybodaeth am bethau na ellir eu cyfri
- fel arfer yn perthyn i bersbectif dehongliadol (Weber = pwysleisio astudio geiriau, teimladau ac ystyron)
prif cysyniadau ymchwil - beth yw GROVER
- G = ‘generalisability’ / cyffredinoli
- R = ‘Reliability’ / dibynadwyedd
- O = Objective neu Subjective / Gwrthrychol neu goddrychol
- V = Valid / Dilysrwydd
- E = Ethical / Moeseg
- R = Representative / cynrychiadol
prif cysyniadau ymchwil - dilysrwydd
- golygu rhoi darlun cywir neu dilys o’r hyn rydym yn ymchwilio iddo
- mewn ymchwil gymdeithasol mae angen adlewyrchu gwir natur digwyddiadau neu ymddygiad cymdeithas e.e. Mae’n bwysig adross mor fanwl gywir a phosib heb dylanwadu ar ddigwyddiadau neu eu newid
prif cysyniadau ymchwil - dibynadwyedd
- ymchwil yn dibynadwy os yw ymchwilwyr eraill yn gallu defnyddio’r un dulliau a chael yr un canlyniadau
- mae dibynadwyedd yn gysylltiedig gyda data meintiol gan fod modd gwneud yr un ymchwil eto mewn lleoliadau gwahanol neu dros gyfnod gwahanol o amser a chymharu’r setiau o ystadegau
- er enghraifft, gall dau ymchwilydd gwahanol defnyddio’r un holiadur yn yr un lleoliad 10 mlynedd ar wahan gan ddilyn yr un broses
prif cysyniadau ymchwil - cynrychioldeb
- yn aml gydag ymchwil gymdeithasol nid yw’n bosib casglu data gan bawb o’r gymuned sy’n cael ei hastudio
- er enghraifft, gall fod gan ymchwilydd diddorddeb mewn ymchwilio i bobl dros 65 oed (yn ol y swyddfa ystydegau gwladol, amcangyfrifir bod 634,637 o boblogarth gymru dros 65 mlwydd oed yn 2016)
- nid yw’n realistig holi pob un ohonynt ar gyfer project ymchwil, o ganlyniad, bydd yn rhaid dewis sampl o’r boblogaeth i’w astudio
prif cysyniadau ymchwil - cyffredinoladwyedd
- os yw eich sampl yn cynrychioli gweddill y boblogaeth, yna mae modd i chi ddweud bod modd cyffredinoli eich sampl chi i weddill eich poblogaeth
- hynny yw, bod y mil o unigolion a gymerodd rhan yn yr ymchwil yn cynrychioli gweddill y boblogaeth dan sylw
prif cysyniadau ymchwil - gwrthrychedd
- wrth gynnal ymchwil gymdeithasol, mae’n bwysig bod yr ymchwilydd yn cadw pellter thwng yr hyn mae’n ei astudio a’i farn bersonol am y pwnc
- er enghraifft, gall ymchwilydd fod a barn personol am rol crefydd mewn cymdeithas
- fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r farn bersonol yma yn dylanwadu ar y data sy’n cael eu casglu
- dibem hyn yw sicrhau fod y data sy’n cael eu casglu yn adlewyrchiad teg o’r pwnc fan sylw ac nad ydynt wedi’u lliwio gan rhagfarn yr ymchwilydd
prif cysyniadau ymchwil - moeseg
- bwysig bod ymchwilwyr yn ymddwyn mewn ffordd briodol a derbyniol
- bwysig i ymchwilwyr ystyried lles y boblogaeth i’w y maent yn ymchwilio iddynt yn ogystal a sicrhau eu diogelwch eu hunain fel ymchwilwyr
dulliau o gasglu data data cynradd
- y data rydych yn eu casglu eich hunain
- yn yr achos yma, rydych chi fel ymchwilydd wedi mynd ati yn bersonol i gasglu data gwreiddiol am eich pwnc ymchwil
prif cysyniadau ymchwil - data eilaidd
- data cymdeithasegol sy’n bodoli yn barod ac sydd wedi\u casglu gan bobl neu gyrff eraill fel y llywodraeth neu gyrff swyddogol arall
Holiaduron cwestiynau caeedig
- casglu data meintiol lle mae unigolion yn dewis eu hatebion o gyfres o atebion sydd yn bodoli’n barod o fewn yr holiadur (e.e. Trwy ticio blwch neu dewis rhif o 1 i 10)
- fel arfer, mae’r cwestiynau cyntaf mewn holiadur yn rhai caeedig sy’n gofyn i gyfranogwyr nodi a ydynt yn wryw neu’n fenyw, eu hoedran, lle maent yn byw ayyb
holiaduron - cwestiynau penagored
- casglu data ansoddol lle mae unigolion yn gallu ateb yn eu geiriau eu hunain mewn ffordd fwy hyblyg
- yn hytrach na thicio blwch mae cyfranogwyr yn ysgrifennu eu hatebion mewn blwch gwag sydd wedi ei ddarparu ar eu cyfer, yn aml, mae’r cwestiynau yma yn arwain at ymatebion sy’n cynnig dimensiwn newydd i’r ymchwil
holiaduron - cryfderau holiaduron
- mae’n bosib derbyn ymatebion gan nifer fawr o gyfranogwyr ar ddraws ardal daearyddol eang
- mae modd lleihau tuedd neu effaith yr ymchwilydd gan nad yw’r ymchwilydd bob tro’n presennol i ddylanwadu ar yr atebydd
holiaduron - gwendidau holiaduron
- cyfradd ymateb holiaduron yn gallu bod yn isel a gall hynny effeithio ar eich astudiaeth, hynny yw, faint o bobl sy’n debygol o ateb?
- nid oes ymchwilydd yn bresennol i ateb cwestiwn os nad yw’r atebydd yn deall y cwestiwn
cyfweliadau - cyfweliadau strwythuredig
- nifer o gwestiynau wedi’u paratoi o flaen llaw gan yr ymchwilydd a lle mae’r ymchwilydd yn cadw at union yr un drefn a chynnwys ar gyfer pob cwestiwn
cyfweliadau - cyfweliadau lled-strwythuredig
- mae ychydig o gwestiynau wedi’u gosod yn barod ond lle mae’r ymchwilydd digon o gyfleoedd i’r atebygg fyrannu syniadau newydd a rhannu safbwyntiau nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn y cwestiynau yn barod
cyfweliadau - cyfweliadau anstrwythuredig
- lle mae cyfweliad heb gwestiynau wedi’u cynllunio o flaen llaw sydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i;r atebydd gynnig atebion ar elfennau amrywiol o’r maes o ddan sylw
cyfweliadau - cryfderau cyfweliadau
- defnyddiol er mwyn derbyn gwybodaeth fanwl am agweddau, barn a theimladau personol unigolion
- cyfradd ymateb uwch
cyfweliadau - gwendidau cyfweliadau
- gall yr ymchwilydd ddylanwadu ar atebion h.y. ‘Effaith yr ymchwilydd’
- sampl fach = dim yn cynrychiadol
grwpiau ffocws - beth ydyn nhw?
- pobl yn tradod mewn grwp yn hytrach na trafod un i un
- canitau trafodaeth estynedig ar bwng arbennig lle mae’n bosib derbyn dylesfsu gan fwy nag un unigolyn
grwpiau ffocws - cryfderau grwpiau ffocws
- cyfle i godi themau newydd a chreadigol nad oedd yr ymchwilydd wedi eu rhagweld wrth lunio’r ymchwil
- aelodau’r grwp eu hunain sy’n llywio’r drafodaeth ac yn ymateb i’w gilydd = dim effaith yr ymchwilydd
grwpiau ffocws - gwendidau grwpiau ffocws
- mae unigolion a phersonoliaethau cryf yn gallu llywio’r drafodaeth ac yn gallu effeithio ar ddynameg y grwp ffocws
- mae rhai unigolion yn amharod i rhannu eu profiadau personol gyda gweddill y grwp
- mae cynnal grwpiau ffocws yn codi cwestiynau am foeseg yr ymchwilydd sydd angen eu cydnabod, h.y. Mae’n anodd sicrhau cyfrinachedd o ddata o fewn grwp ffocws
grwpiau ffocws -ymchwil hydredol
- mae’n bosib casglu data dros gyfnod estynedig o amser ac ailymweld a’ch lleoliadau ymchwil
- er enghraifft, byddai modd i chi ailddosbarthu holiaduron neu ail-wneud cyfweliadau ar ol bwlch o 20 mlynedd
- byddai hyn yn eich galluogi i gymharu data a gweld pa newidiadau cymdeithasol sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod