Materion Cristnogol: Daioni a Drygioni Flashcards
(28 cards)
Daioni
Yr hyn sy’n cael ei ystyried yn foesol gywir, neu’n fuddiol, ac o fantais i ni
Maddeuant
Rhoi pardwn am ddrygioni; rhoi’r gorau i ddrwgdeimlad a’r awydd i dalu’r pwyth yn ol i ddrwgweithredwr
Cyfiawnder
Tegwch; pan fo darpariaethau a chyfleoedd ar gael i bawb yn gyfartal ac yn derbyn beth sy’n ddyledus iddyn nhw
Cydwybod
Synnwyr moesol unigolyn ynghylch daioni a drygioni. Gall rhai pobl grefyddol gredu mai’r gydwybod yw eu harweiniad mewnol gan Dduw
Drygioni
Yr hyn sy’n cael ei hystyried yn hynod anfoesol, drwg, ac anghywir
Dioddefaint
Poen neu drallod sy’n cael ei achosi gan anaf, salwch neu golled. Gall dioddefaint fod yn gorfforol, yn emosiynol/seicolegol neu’n ysbrydol
Heddychiaeth
Y gred na ellir cyfiawnhau rhyfel a thrais
Ewyllys rydd
Y gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes dim wedi’i ragderfynnu
Moesoldeb
Egwyddorion a safonnau sy’n pennu pa weithredoedd sy’n gywir neu’n anghywir
Agweddau O BLAID y gosb eithaf
- Dilyn cyfraith yr Hen Destament- ‘Llygaid am lygiad’
- Hen Destament yn rhestri 36 trosedd sy’n arwain at y gosb eithaf e.e llofruddiaeth a chabledd
- Creu a chymeradwyo gan Dduw
- Dangos difrifoldeb y gorchymyn ‘Na ladd’
Agweddau YN ERBYN y gosb eithaf
- Crynwyr = person yn adlewyrchiad o Dduw
- Iesu’n dysgu: tosturi a maddeuant, troi’r foch arall, caru eich gelynion
- Yn erbyn sancteiddrwydd bywyd = pob bywyd yn werthfawr ac yn rhodd
- Gorchymyn ‘Na ladd’
Sut ydym yn gwneud penderfyniadau moesol?
- Gweithredoedd a chredoau eraill
- Profiadu’r gorffennol
- Rhesymeg
- Dysgeidiaeth grefyddol
- Arweinwyr crefyddol
- Y gyfraith
- Cydwybod
Dysgeidiaeth Iesu am faddeuant
- Gorchmynnodd i ni faddau
- Gweddi’r Arglwydd yn gofyn i ni faddau. Disgwyl maddeuant felly rhaid i ni ei roi
- Pregeth ar y mynydd yn pwysleisio pwysigrwydd maddau
- Geiriau Iesu ar y groes ‘maddeuwch iddynt’
Gweithredoedd Iesu am faddeuant
- Cynorthwyo Sacheus i wneud yn iawn a diwygio
- Maddeuodd gwraig a oedd yn godinebu
Dysgeidiaeth y Beibl am faddeuant
- Dameg y Gwas Anfaddeugar- dim terfyn ar sawl gwaith gallwn faddau gan fod Duw yn maddau ein holl pechodau
- 7 x 70 rhaid maddau
- Dameg y Mab Colledig - dad yn maddau i’w mab er iddo gamymddwyn
- Duw yn maddau y rhai sy’n edifarhau
- Catholigion = Cyffesu pechodau a gwneud yn iawn e,e trwy weddi
Moesoldeb Absoliwt
Rhywbeth cywir i’w wneud a bod hynny’n wir ym mhob sefyllfa. e.e Wrth ymateb i’r gorchymyn ‘Na ladd’ - moesolwyr absoliwt yn dweud ei fod yn anghywir i ladd ym mhob sefyllfa, gan cynnwys ewthanasia, erthyliad a rhyfel
Moesoldeb Berthynol
Cytuno y gallai fod angen gweithredu’n wahanol mewn gwahanol sefyllfaoedd. e.e ymateb i’r gorchymyn ‘Na ladd’- moesolwyr berthynol yn honni fod angen lladd mewn rhai sefyllfaoedd, fel erthyliad os bydd y plentyn yn cael ei eni yn anabl iawn, neu pe bai’r fam wedi cael ei threisio
Sut ydy credinwyr yn gwneud penderfyniadau moesol?
- Datblygu rhinweddau
- Defnyddio’u cydwybod
- Ymwrthod a pechod
Gwrthdaro
Cydnabod fod rhyfel yn angenrheidol weithiau o dan amodau penodol
Damcaniaeth Rhyfel Cyfiawn
- achos cyfiawn
- cyhoeddi gan awdurdod cyfreithlon
- cyflawni daioni a chael gwared ar drygioni
- pob ymdrech arall wedi methu
- gobaith resymol o lwyddo
- ond yn defnyddio grym angenrheiddiol
- ymosod ar dargedau gyfreithlon
Heddwch
Crynwyr = heddychwyr/ gwrthwynebwyr cydwybodol sy’n dysgu…
- dylwn parchu ei’n gilydd fel rhan o greadigaeth Duw
- rhan o Dduw ym mhawb
- cymell gyda gariad
- cydnabod gwerth cyfartal ac unigryw pob un
- Deg gorchymyn = ‘Na ladd’
- Begeth ar y mynydd = dicter a chasineb yn dinistriol
Beth sy’n achosi troseddu?
- Addysg wael
- Rhieni gwael
- Tlodi
- Problemau Iechyd meddwl
- Caeth i gyffuriau/alcohol
- Diweithdra
-Pwysau gan gyfoedion - Y cyfryngau
Agweddau am bwrpas ac amcanion cosbi
- Pwysleisio maddeuant- ddim yn cefnogi dial ond yn annog trosturi
- Credu mewn cyfiawnder cymdeithasol = cosb a maddeuant
- Cefnogi cyfiawnder adferol - egwyddorion yn gyson ag esiampl Iesu
- Annog person i ddiwygio = newid ffordd o fyw i allu ychwanegu gwerth i’r gymdeithas
Triniaeth troseddwyr
- Darparu cyfleoedd i adsefydlu a diwygio pobl
- Caniatau iddynt fynd i’r afael a’r rheswm dros eu trosedd
- Eu paratoi fel dinasyddion cyfrifol
- Trin yn dyngarol gan ddangos parch at eu hawliau dynol