Pennod 3 - Alcoholau a Ffenolau Flashcards
(23 cards)
Diffiniwch niwcleoffilau
Ionau neu gyfansoddion sydd gyda phar unig o electronau sy’n gallu chwilio am safle cymharol bositif (atom carbon ß+ yn aml) Ymhlith y niwcleoffilau cyffredin, mae OH- CN- a NH3
Enwch y dau ddull cyffredin o ffurfio alcoholau cynradd ac eilaidd
1) Halogenoalcanau drwy adwaith amnewid
2) Rhydwytho aldehydau, cetonau neu asidau carbocsilig
Gwahaniaethwch rwng alcoholau cynradd ac eilaidd
Mai dim on un atom carbon sy’n bondio’n uniongyrchol i’r atom carbon yn y grwp C-OH mewn alcoholau cynradd, a dau atom carbon mewn alcoholau eilaidd
Disgrifiwch yn fanwl sut cynhyrchir bwtan-1-ol o 1-bromobwtan gan ddefnyddio sodiwm hydrocsid
CH3CH2CH2CH2Br + NaOH → CH3CH2CH2CH2OH + NaBr
Mae’r adweithydd organig a’r bwtan-1-ol yn hylifau gyda berwbwyntiau gwahanol felly bydd angen distyllu ffracsiynol i’w wahanu. Mecanwaith yr adwaith yw amnewid niwcleoffilig lle mae’r ion hydrocsid yn gweithredu fel niwcleoffil ac yn ymosod ar yr atom carbon delta positif yn y band C-Br
Enwch y rhydwythydd sy’n cael ei ddefnyddio i rydwytho aldehydau a chetonau
Sodiwm tetrahydridoborad(III) (Sodiwm borohydrid), NaBH4
Enwch yr alcohol a ffurfir wrth rydwytho;
1) Aldehyd
2) Ceton
1) Cynradd
2) Eilaidd
Enwch y rhydwythydd sy’n cael ei ddefnyddio i rydwytho asidau carbocsilig
Lithiwm tetrahydridoalwminad(III) (Lithiwm alwminiwm hydrid, lithal), LiAlH4 wedi’i hydoddi mewn ethocsiethan
Cymharwch LiAlH4 ac NaBH4
Mae NaBH4 yn fwy ddiogel gan ei bod yn anodd gwaredu gormodedd o Lithal a mae’r hydoddydd ethocsiethan yn fflamadwy iawn
Disgrifiwch sut ffurfir halogenoalcanau trwy ddefnyddio alcoholau a disgrifiwch ddichonoldeb yr adwaith
Ffurfir trwy adweithio alcoholau eilaidd/cynradd gydag halidau hydrogen. Mae’r adweithiau hyn yn araf a childroadwy ac yn aml rhoi cynnyrch gwael
Diffiniwch glorineiddiad
Gyrru nwy hydrogen clorid drwy’r alcohol ym mhresenoldeb sinc clorid anhydrus, sy’n gweithredu fel catalydd
Disgrifiwch yr adwaith clorineiddiad gyda bwtan-1-ol
CH3CH2CH2CH2-O—-H < H>Cl → CH3CH2CH2CH2 - OH - H + Cl-
Enwch y cyfansoddion yr ellir eu defnyddio i glorineiddio alcoholau a chymharwch hwy
Ffosfforws(V) clorid, PCl5 a sylffwr(VI) ocsid deuclorid (thionyl clorid), SOCl2
Mae ffosfforws(V) clorid yn hylif a bod angen ei dynnu o’r cymysgedd adwaith. Os oes gan yr halogenalcan dymheredd berwi tebyg iddo, mae’n anodd eu gwahanu. Un fantais defnyddio thionyl clorid yw’r ffaith bod y cyd-gynhyrchion sylffwr(VI) ocsid a hydrogen yn nwyon a mae’n hawdd eu colli o’r cymysgedd yr adwaith
Diffiniwch ester
Bob amser yn cynnwys y grwp -C=O-O-
Disgrifiwch bromineiddiad CH3CH2CH2CH2OH gydag asid sylffwrig
CH3CH2CH2CH2OH + H2SO4 + KBr → CH3CH2CH2CH2Br + KHSO4 + H2O
Disgrifiwch iodineiddiad CH3CH2CH2OH gan ddefnyddio ffosfforws(III) iodid
3CH3CH2CH2OH + PI3 → 3CH3CH2CH2I + H3PO3
1) Ysgrifennwch yr adweithyddion sydd eu hangen ar gyfer ffurfio ester
2) Enwch y cynnyrch arall sy’n ffurfio wrth i’r adweithyddion yma adweithio
1) Alcohol + asid carbocsilig
2) dwr
Disgrifiwch adwaith rhwng ffenol a bromin
Mae presenoldeb grwp OH wedi’i fondio’n uniongyrchol i gylch bensen yn actifadu’r cylch i fod yn agored i ymosodiad gan electroffilau, felly mae amnewidyn yn fwy tebygol o ddisodli atom hydrogen. Ffurfir gwaddod gwyn 2,4,6-tribromoffenol
Disgrifiwch yr adwaith rhwng ffenol ac asid nitrig gwanedig
Ffenol + asid nitrig (-H2O)→ 2-nitrofennol(70%) + 4-nitroffenol(30%)
Ysgrifennwch yr adwaith rhwng dwr a bromin
Br2 + H2O ⇔HOBr + HBr
Disgrifiwch brawf ar gyfer ffenolau gan ddefnyddio haearn(III) clorid dyfrllyd
Bydd ffenol yn adweithio gyda fo gan gynhyrchu lliw porffor yn yr hydoddiant dyfrllyd. Mae’r lliw’n cael ei gynhyrchu wrth i gymhlygyn ffurfio rhwng y ddau adweithydd. Bydd unrhyw gyfansoddyn sy’n cynnwys grwp OH wedi’i fondio’n uniongyrchol i gylch bensen yn rhoi cymhlygyn gyda lliw llachar wrth adweithio gydag haearn(III) clorid - fel arfer eu lliwiau yw porffor, glas neu wyrdd
Disgrifiwch yr adwaith rhwng ffenol ac ethanoyl clorid gan nodi’r catalydd priodol
-Adwaith esteriad-
C6H5OH + CH3COCl ⇒ CH3COOC6H5 + HCl
Catalydd: pyridin, C5H5N
Disgrifiwch yr adwaith rhwng ethanoig anhydrid a ffenol
-Adwaith esteriad-
C6H5OH + (CH3CO)2O → CH3COOC6H5 + CH3COOH
Disgrifiwch yr cynnyrch ar ol i haearn(III) clorid ac asid carbocsilig adweithio
Ffurfir gwaddod coch/brown