Pennod 3 - Cemeg y Bloc p Flashcards
(32 cards)
Diffiniwch amffoterig
Sylwedd sy’n gallu adweithio ag asidau a hefyd gyda basau
Diffiniwch bar anadweithiol
Par o electronau ns2 nad ydyn nhw’n cymryd rhan mewn bondio
Nodwch y cyflyrau ocsidiad posibl o’r elfennau grwp 3 a nodwch pa un o’r cyflyrau yw’r mwyaf sefydlog at gyfer yr elfen hynnw
B - 3
Al - 3
Ga - 1, 3
In - 1, 3
Tl - 1, 3
Nodwch y cyflyrau ocsidiad posibl o’r elfennau grwp 4 a nodwch pa un o’r cyflyrau yw’r mwyaf sefydlog at gyfer yr elfen hynnw
C - 2, 4
Si - 4
Ge - 2, 4
Sn - 2, 4
Pb - 2, 4
Nodwch y cyflyrau ocsidiad posibl o’r elfennau grwp 5 a nodwch pa un o’r cyflyrau yw’r mwyaf sefydlog at gyfer yr elfen hynnw
N - 3, 5
P - 3, 5
As - 3, 5
Sb - 3, 5
Bi - 3, 5
Diffiniwch ehangu’r wythawd
Y gallu rhai atomau i ddefnyddio orbitalau d i gael mwy nag 8 o electronau yn eu plisgyn falens
Ysgrifennwch hafaliadau gan gynnwys asid a bas sy’n dangos y priodwedd amffoterig sydd gan;
1) Alwminiwm
2) Plwm(II)
1)
Asid
Al2O3 + 6HCl → 2AlCl3 + 3H2O
/ Neu /
Al(OH)3 + 3H+ → Al3+ + 3H2O
Bas
Al2O3 2NaOH + 3H2O → 2Na[Al(OH)4]
/ Neu /
Al(OH)3 + OH- → [Al(OH)4]-
2)
Asid
PbO + 2HNO3 → Pb(NO3)2 + 2H2O
/ Neu /
Pb(OH)2 + 2H+ → Pb2+ + 2H2O
Bas
PbO + 2NaOH + H2O → Na2[Pb(OH)4]
/ Neu /
Pb(OH)2 + 2OH- → [Pb(OH)4]2-
Nodwch arsylwad wrth ychwanegu sodiwm hydrocsid tuag at hydoddiannau sy’n cynnwys metelau amffoterig
Ffurfir gwaddod. Hydrocsidau metelau yw’r gwaddodion
Ysgrifennwch hafaliadau sy’n dangos ailhydoddiad ar gyfer;
1) Alwminiwm
2) Plwm
1)
Al3+ +3OH- → Al(OH)3(s) yna Al(OH)3 + OH- → [Al(OH)4]-
2)
Pb2+ + 2OH- → Pb(OH)2(s) yna Pb(OH)2 + 2OH- → [Pb(OH)4]2-
Diffiniwch atom electron ddiffygiol
Atom sydd heb blisgyn allanol cyflawn; mae llai nag wyth electron yn ei blisgyn falens.
Pa fath o fondio mae elfennau grwp 3 megis Boron ac Alwminiwm yn debygol o ffurfio?
Bondio cyd-drefnol i ennill parau electron ychwanegol - derbynyddion electronau
Disgrifiwch foron nitrad hecsagonol
Mae’r atomau yn yr haenau gwahanol yn gorwedd yn union uwch ben ei gilydd, gydag atomau nitrogen yn union uwchben ac o dan bob atom boron. Mae’r grymoedd rhwng yr haenau’n wan, felly, fel graffit, maent yn gallu llithro dors ei gilydd, felly mae’n cael ei ddefnyddio fel iraid.
Mae’r electronau wedi’u lleoli fel parau unig at atomau nitrogen; nid oes yna electronau dadleoledig sy’n wahanol i graffit. Oherwydd mae electronegatifedd boron a nitrogen yn wahanol, mae’r bond B-N yn un polar, ac felly mae BN yn ynysydd sy’n cael ei ddefnyddio mewn electroneg fel is-haen ar gyfer lled-ddargludyddion, ar gyfer ffenestri tryloyw i ficrodonau a fel defnydd adeileddol ar gyfer seliau electronau a chludwyr catalyddion mewn celloedd tanwydd a batriau
Disgrifiwch foron nitrad ciwbig
Fel diemwnt, mae hwn yn galed iawn ac mae ganddo ymdoddbwynt uchel gan fod angen torri bondiau cofalent er mwyn torri neu doddi’r solid. Oherwydd hyn, mae’n cael ei ddefnyddio fel araen wydn neu sgraffinydd diwydiannol
Disgrifiwch sefydlogrwydd y cyflwr ocsidiad +2 wrth fynd i lawr grwp 4
Mae’n cynyddu wrth i’r effaith bar anadweithiol gryfhau
Disgrifiwch natur CO wrth echdynnu haearn a chopr. Darparwch hafaliadau
CO yw’r unig cyfansoddyn carbon sefydlogyn y cyflwr +2. Mae’n ymddwyn fel rhydwythydd gan ei bod yn hawdd ei ocsidio o +2 i +4;
Haearn:
Fe2O3 + 3CO → 2Fe + 3CO2
Copr:
CuO + CO → Cu + CO2
Disgrifiwch yr adwaith rhwng asid hydroclorig crynodedig a phlwm(IV) ocsid
Mae plwm(II) ocsid yw’r ocsid mwyaf sefydlog plwm. Bydd plwm(IV) ocsid yn gweithredu fel ocsidydd gan ei bod yn hawdd ei rydwytho o +4 i +2;
PbO2 + 4HCl cryn → PbCl2 + Cl2 + 2H2O
Disgrifiwch yr adwaith rhwng carbon deuocsid a dwr
Mae CO2 yn ocsid asidig gan fod yr ocsid yn hydawdd mewn dwr gan roi’r asid gwan iawn, asid carbolig;
CO2 + H2O ⇔ H+ + HCO3-
Disgrifiwch yr adwaith rhwng carbon deuocsid a sodiwm hydrocsid
Fel pob ocsid asidig, bydd carbon deuocsid yn adweithio ag alcaliau gan ffurfio halwyn;
CO2 + 2NaOH → Na2CO3 + H2O
CO2 + NaOH → NaHCO3
Ysgrifennwch hafaliad sy’n dangos plwm(II) ocsid yn gweithredu fel;
1) bas
2) asid
Disgrifiwch yr adweithiau yma
Solid lliw oren yr plwm(II) ocsid ac mae’r bondiau ynddo yn ionig yn bennaf. Mae’n medru adweithio gydag asid ac alcali gan ei fod yn amffoterig;
1) PbO + 2HNO3 → Pb(NO3)2 + H2O
2) PbO + 2NaOH + 2H2O → Na2[Pb(OH)4]
Eglurwch pam dydy carbon tetraclorid ddim yn adwetihio gyda dwr
Mae’r adwaith yn rhy araf, er mae cyfrifiadau egni’n awgrymu y ddylai’r adwaith ddigwydd. Rydym yn dweud mae carbon tetraclorid yn danogs sefydlogrwydd cinetig
Mae diffyg adweithedd hwn oherwydd hefyd absenoldeb orbitalau d yn y plisgyn falens sy’n golygu nad yw’n bosibl ehangu’r wythawd i alluogi’r moleciwlau dwr i gyfuno gyda’r atom carbon
Rhowch arsylwad wrth adweithio Plwm(II) gydag asid hydroclorig
Mae gwaddod gwyn dwys yn ffurfio o blwm clorid:
Pb2+ + 2Cl- → PbCl2
Disgrifiwch yr adwaith rhwng silicon tetraclorid a dwr ac eglurwch pam mae’r adweithedd hwn yn wahanol i adweithedd carbon tetraclorid gyda dwr
Mae’n adweithio’n gyflym iawn gyda dwr mewn adwaith hydrolysis;
SiCl4 + H2O → SiO2 + 4HCl
Y rheswm dros y cynnydd mewn adweithedd yw bod gan silicon orbitalau 3d sydd ar gael yn ogystal a’r orbitalau 3s a 3p sy’n cael eu defnyddio i fondio gyda’r atomau clorin. Mae parau unig y moleciwl dwr yn gallu bondio cyd-drefnol gyda’r orbitalau d gwag hyn, gan roi moleciwl cymhlyg wedyn yn gallu dileu gan foleciwl HCl
Rhowch arsylwad ac esboniad yr adwaith rhwng NaOH a phlwm(II). Yna, ddisgrifiwch yr adwaith wrth ychwanegu gormodedd o NaOH
Mae gwaddod gwyn yn ffurfio o Pb(OH)2 i ddechrau:
Pb2+ + 2OH- → Pb(OH)2
Yna, mae gwaddod gwyn yn ailhydoddi mewn gormodedd o NaOH, gan ffurfio tetrahydrocsoplwmbad(II):
Pb(OH)2 + 2OH- → [Pb(OH)4]2-
Rhowch arsylwad wrth adweithio plwm(II) gyda photasiwm iodid
Mae gwaddod melyn llachar dwys yn ffurfio o blwm iodid:
Pb2+ + 2I- → PbI2