Uned 5: ymatebion tymor bir/hir i ymarfer Flashcards
(43 cards)
Cylchrediad Ysgyfeiniol
-rhwng y galon a’r ysgyfaint.
-cludo gwaed dadocsigenedig
-Yn yr ysgyfaint mae CO2 yn cael ei dynnu o’r gwaed ac mae O2 yn cael ei roi yn y gwaed.
-gwaed yn dychwelyd i ochr chwith y galon drwy’r wythïen ysgyfeiniol.
- atriwm dde a’r fentrigl dde.
Cylchrediad Systemig
-cario gwaed llawn ocsigen o ochr chwith y galon i’r cyhyrau a meinweoedd
-Ar ôl i’r gwaed llawn ocsigen gael ei ddefnyddio yn y cyhyrau i gynhyrchu egni
-gwaed dadocsigenedig, llawn CO2 yn cael ei gludo’n ôl i ochr dde’r galon.
-Atriwm chwith a fentrigl chwith
Y Gylchred Gardiaidd
=Diastole -galon yn ymlacio ac yn llenwi â gwaed (0.5 eiliad)
=Systole - galon yn cyfangu (0.3 eiliad).
Yn ystod ymarfer (exercise), mae’r diastole yn para’n hirach oherwydd cynnydd yng nghyfaint y gwaed sydd angen ei bwmpio allan o’r corff (
Dychweliad Gwythiennol
(venous return)
yw pa mor gyflym mae’r gwaed yn dychwelyd i’r galon
Wrth ymarfer, mae mwy o angen am waed ac felly, wrth i ddwysedd yr ymarfer gynyddu, mae dychweliad gwythiennol yn cynyddu.
Deddf Starling
cyfeirio at y cynnydd mewn cyfaint strôc wrth i fwy o waed lenwi’r galon
digwydd wrth i’r cyhyrau cardiaidd ymestyn cyn cyfangu
wrth i ddychweliad gwythiennol leihau, mae cyfaint strôc yn lleihau hefyd
Sut mae rheoleiddio dychweliad gwythiennol
-Wythiennau’n rheoli llif y gwaed drwy falfiau sy’n rheoleiddio cyfeiriad a chyhyr llyfn yn gwasgu’r gwaed yn ôl i’r galon.
-Pwmp cyhyrsgerbydol lle mae’r cyhyrau’n cyfangu yn erbyn y system sgerbydol ac yn gorfodi’r gwaed yn ôl drwy’r system wythiennol.
-Graddiant pwysedd - yn symud o bwysedd uchel i bwysedd isel gyda’r rhydwelïau a’r gwythiennau.
Dynameg Cardiaidd
yw’r newidiadau ffisiolegol, niwrolegol a hormonaidd i ddwysedd yr ymarfer.
Cyfradd Curiad y Galon
yw sawl gwaith mae’r galon yn curo mewn munud
Cyfaint Stroc
yw cyfaint y gwaed, mewn mililitrau (mL), sy’n cael ei bwmpio allan o’r galon gyda phob curiad
Allbwn Cardiaidd
yw cyfaint y gwaed sy’n cael ei bwmpio gan y galon bob munud
Ymarfer Anaerobig
Gall cyfaint strôc gynyddu i ddim ond 40-60%
Unigolyn Eisteddog
- anodd cynyddu ei gyfradd curiad y galon
-nid yw’r myocardiwm wedi datblygu digon i gymryd rhagor o waed i mewn
Y System Gardiofasgwlaidd yn gyfrifol am
1.Gludo ocsigen i’r cyhyrau a meinweoedd eraill
2.Cael gwared ar garbon deuocsid
3.Cyflenwi maetholion fel glwcos, brasterau, fitaminau a mwynau
4.Cludo hormonau e.e. Inswlin
5.Cael gwared ar isgynhyrchion diwerth o’r corff e.e. wrea
Rhydweliau
-cludo gwaed i ffwrdd o’r galon drwy’r aorta.
-gwaed llawn ocsigen
-wynebu lefelau uwch o bwysedd gwaed
Gwythiennau
- cario gwaed dadocsigenedig yn ôl i’r galon ac ymlaen i’r ysgyfaint
-pwysedd gwaed gwythiennau yn isel
-muriau gwythiennau’n gallu bod yn llawer teneuach, yn llai elastig, ac yn llai cyhyrog na muriau rhydwelïau.
Capilariau
- lleiaf a’r teneuaf o’r pibellau gwaed yn y corff.
-cludo celloedd coch y gwaed llawn ocsigen drwyddynt drwy adael i ocsigen dryledu i’r cyhyrau a gadael carbon deuocsid
Siynt Fasgwlaidd
=Fasoymlediad - pibellau gwaed yn agor i ymdopi â’r cynnydd yn llif y gwaed.
= Fasogyfyngiad - pibellau gwaed yn cyfangu
Wrth i ddwysedd ymarfer gynyddu, mae llif y gwaed yn cael ei ailddosbarthu drwy fasogyfangiad a fasoymlediad -
Pwysedd Gwaed
-bydd y pwysedd gwaed systolig yn y fentriglau yn cynyddu’n llinol gyda’r cynnydd yn nwysedd yr ymarfer
-Wrth i fwy o waed gael ei bwmpio allan o’r galon mae’r pwysedd gwaed yn y rhydwelïau yn cynyddu.
- Mewn person iach, y pwysedd systolig cyfartalog yw 120mmHg a’r pwysedd diastolig yw 80mmHg,
Rheoli a rheoleiddio cyfradd curiad y galon
*Ganolfan Rheoli Cardiaidd
-cyfradd curiad y galon yn cael ei reoli
-Medwla Oblongata yr ymennydd
- rhan o’r System Nerfol Awtonomig (ANS)
Dwy isadran yn yr ANS
=Y System Nerfol Sympathetig (SNS) - cyflymu cyfradd curiad y galon drwy’r nerf cyflymu cardiaidd.
=Y System Nerfol Barasympathetig (PNS) - arafu cyfradd curiad y galon drwy’r nerf fagws
ANS yn ystod ymarfer
- y system nerfol barasympathetig sy’n rheoli cyfradd curiad y galon
-. Mae’r (PNS) yn cadw cyfradd curiad y galon i lawr drwy’r nerf fagws, sy’n rhyddhau hormon o’r enw Asetylcolin.
-Bydd ymarfer am unrhyw faint o amser yn cynyddu cyfradd curiad y galon
3 mecanwaith rheoli CCC
1.Niwtral
2.Hormonaidd
3. Cynhenid (intrinstic)’
rheolaeth niwral a hormonaidd yn cael eu hystyried yn fecanweithiau rheoli cyfradd curiad y galon allanol
rheolaeth gynhenid yw mecanwaith rheoli mewnol
Rheolaeth Niwtral
-pan mae derbynyddion yn synhwyro newidiadau yn y corff o ganlyniad i gynnydd mewn gweithgaredd corfforol
- mae’r rhain yn anfon negeseuon i’r ganolfan rheoli cardiaidd
-Yna mae’r system nerfol awtomataidd yn yr ymennydd yn anfon neges at y nod sino-atrïaidd i naill ai gyflymu neu arafu cyfradd curiad y galon
Y derbynyddion niwtral sy’n synhwyro yw:
Propriodderbynyddion
Cemodderbynyddion
Barodderbynyddion
Thermodderbynyddion