Dibynadwyedd tystiolaeth llygaid tyst Flashcards

1
Q

Gwybodaeth ar ol digwyddiad +

A

-gamarweiniol: tueddu i ganolbwyntio ar y manylion sydd yn anodd i ni i amcangyfrif (e.e. cyflymder) neu fanylion nad ydynt yn ganolog i’r digwyddiad ac felly yn fwy agored i lygredd (corruption).
Loftus (1979)
-cyfranogwyr sleidiau o ddyn yn dwyn pwrs coch mawr, llachar o fag merch. Roedd y cyfranogwyr yn ddiweddarach yn agored i wybodaeth oedd yn cynnwys mân gwallau neu un yn fwy amlwg a oedd yn honni bod y pwrs yn frown . Er bod cyfranogwyr yn aml yn anghywir am eitemau ‘peripheral’, roedd 98% o’r cyfranogwyr yn cofio yn gywir bod y pwrs yn goch. Mae hyn yn awgrymu gall atgof llygad-dystion am fanylion canolog neu allweddol fod yn fwy ymwrthol i ystumiad o wybodaeth ôl-digwyddiad na’r hyn a awgrymwyd yn flaenorol .

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Gwybodaeth ar ol digwyddiad -

A

Loftus a Palmer (1974)
-dangos bod gwybodaeth sy’n cael ei ‘awgrymu’ ar ôl y digwyddiad yn cael ei gynnwys yn y cof gwreiddiol.
Loftus a Zanni (1975)
- effaith gwybodaeth ôl-ddigwyddiad hefyd. Pan ofynnwyd y cwestiwn ‘Did you see a broken headlight?’ fe ‘welodd’ 7% o’r cyfranwyr un, ond pan ofynnwyd ‘Did you see the broken headlight?’ fe ‘welodd’ 17% un.
=Mae hyn yn dangos yn glir sut mae geiriad y cwestiwn yn gallu effeithio’r cof. Gallai hyn olygu bod cwestiynu gan yr heddlu, cyfreithwyr, ffrindiau … i gyd yn gallu newid beth sy’n cael ei gofio.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Troseddau yn brofiadau emosiynol +

A

Mae rhai seicolegwyr yn credu pan fyddwn yn profi digwyddiadau sydd yn emosiynol iawn a/neu sy’n dal arwyddocâd personol yr ydym yn creu gof arbennig o gywir a hir-barhaol a elwir yn ‘atgof flach’.
-Mae tystiolaeth bod y hormonau sy’n gysylltiedig â emosiwn megis adrenalin yn medru storio atgofion yn well (Cahill a McGaugh 1995). Mae hyn yn awgrymu gall emosiwn o amgylch trosedd mewn gwirionedd arwain at atgofion fwy dibynadwy yn hytrach nag atgofion llai dibynadwy.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Troseddau yn brofiadau emosiynol -

A

-Efallai nad yw llygaid dyst yn ddibynadwy gan fod digwyddiad y drosedd yn eu heffeithio’n emosiynol.

-Awgrymodd Freud fod atgofion trawmatig yn cael eu gwthio i’r anymwybod drwy’r broses o ataliad, sef mecanwaith i amddiffyn yr ego. Bydd seicolegwyr heddiw yn galw hyn yn ‘anghofio dewisiol’, ond beth bynnag y’i gelwir, mae’n awgrymu nad yw tystiolaeth llygad dyst yn ddibynadwy gan fod yr atgof yn rhy boenus.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Tystion sy’n blant +

A

Davies et al (1989)
-wedi adolygu llenyddiaeth yn trafod defnyddio plant fel tystion a ddaeth i rai casgliadau diddorol.
=Mae plant rhwng 6 -11 yn eithaf cywir yn eu hatgofion o ddigwyddiad; nid ydynt fel arfer yn ‘gwneud pethau i fyny’ ac nid ydynt yn dweud celwydd yn fwriadol wrth roi tystiolaeth. Yn ogystal, mae eu cof am fanylion pwysig ddim yn cael ei effeithio’n arwyddocaol drwy awgrymiadau oedolion ar ôl y digwyddiad. Mae’r casgliadau hyn yn herio llawer o’r honiadau a wneir gan ymchwilwyr eraill.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Tystion sy’n blant -

A

-Weithiau ni fydd y ‘line-up’ yn cynnwys y troseddwr – rhag ofn bydd y troseddwr yn cael ei ddewis oherwydd disgrifiad anghywir.
-Dywedir felly wrth llygaid dyst efallai bod y troseddwr yna, neu efallai ddim.
Pozzulo a Lyndsey (1998)
-a brofodd dros 2000 o unigolion, gwelwyd bod plant o dan 5 oed yn llai tebygol na phlant hŷn ac oedolion i adnabod y troseddwr pan oedd y troseddwr yn bresennol.
-Roedd plant rhwng 5-13 yn fwy tebygol o adnabod ‘troseddwr’ pan nad oedd un yn bresennol. Credir fod hyn oherwydd bod plant yn awyddus i ‘wneud y peth iawn’ ac yn yr achos hyn i roi ateb o ryw fath, er efallai ei fod yn anghywir.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Huff et al. (1986)

A
  • bron i 60% o 500, yn bennaf achosion Americanaidd wedi derbyn euogfarnau anghyfiawn oherwydd gwallau tystiolaeth llygaid tyst. Mae hyn yn awgrymu bod gormod o ddibyniaeth ar dystiolaeth llygaid tyst
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Greene (1990)

A

-pan ofynnwyd ffug rheithgorau gwneud penderfyniadau ynghylch cyhuddiad euog neu ddieuog yn seiliedig ar dystiolaeth llygaid tyst, sonnwyd rhai rheithwyr am eu gwybodaeth am gamgymeriadau cam-adbnabod. Maent yn gwybod am camgymeriadau o’r fath gan eitemau ar y newyddion a’r wybodaeth hon yn eu gwneud yn fwy amheus am dystiolaeth lygad-dystion. Mael llygad-dystion yn ffynhonnell bwysig o gwybodaeth mewn unrhyw lleoliad trosedd ac mae’n bwysig i dalu rhywfaint o sylw i’r dystiolaeth.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Police and Criminal Evidence Act (PACE)

A

-gyflwynwyd ym 1984, yn cynnig côd ymarfer mae angen dilyn wrth geisio adnabod troseddwyr. Er hynny, mae’n dal yn bosib i gadarnhau cyhuddiad ar sail dystiolaeth lygaid tyst yn unig.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Casgliad

A

-Mae’n anodd i seicolegwyr brofi bod lygad dystion yn , neu ddim, yn ddibynadwy. Mae’r ardal hon o waith ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol gan ei fod wedi ein harwain i fod yn fwy beirniadol o atgof lygad-dystion.
- O ganlyniad, rydym wedi datblygu dulliau sy’n golygu bod atgof llygad-dystion yn llai agored i aflunio (distortion) megis cyfweliadau gwybyddol (dull o gwestiynu sydd â’r nod o gynyddu’r swm a chywirdeb y wybodaeth sy’n cael ei gofio) a rhesi dilyniannol (sequential line-ups; llygad-dystion yn gweld pobl yn y llinell un-wrth-un yn hytrach nag i gyd ar yr un pryd) .
-Mae’r defnydd cynyddol o systemau CCTV ym Mhrydain yn golygu bod natur llygaid tyst annibynadwy yn debygol o ddod yn llai o broblem yn y dyfodol.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly