effaith dynol ar yr amgylchedd Flashcards
(16 cards)
beth yw difodiant
arwain at golli rhywogaethau ac at leihad mewn bioamrywiaeth.
(extinction)
sut ydi dethol naturiol gallu arwain i ddifodiant
Yn ystod y broses esblygu, mae nifer o rywogaethau wedi cael eu disodli gan rai eraill.
beth yw rhesymau dros organebau yn mynd mewn i perygl
Dinistrio cynefinoedd – e.e. cael gwared ar berthi, draenio gwlyptiroedd, datgoedwigo.
Llygru’r amgylchedd e.e. olewau a phlaleiddiaid PCB (biffenylau polyclorinedig).
Cyflwyno rhywogaethau estron i ecosystem. Mae’n bosib y bydd y rhywogaethau hyn yn cystadlu’n well na rhywogaethau brodorol am fwyd a gofod. Yn ogystal â hyn, efallai na fydd ganddyn nhw borwyr nac ysglyfaethwyr naturiol i reoli’r boblogaeth. Gallan nhw hefyd gario clefydau sy’n effeithio ar boblogaethau brodorol.
Ffermio ungnwd – tyfu niferoedd mawr o unigolion genynnol unfath mewn un man.
Cynaeafu anghynaliadwy e.e. gorhela / gorbysgota.
beth yw cadwraeth
creu, rheoli a gwarchod cynefinoedd. Yn ddelfrydol, bydd cadwraeth yn cynnal y biosffer ac yn cynyddu bioamrywiaeth yn lleol. Mae gwarchod y cyfansymiau genynnol sydd yn bodoli yn y gwyllt ac mewn caethiwed yn hanfodol er mwyn cynnal bioamrywiaeth at y dyfodol.
beth yw ffyrddau o cyflawni amcanion cadwraeth
Gwarchod cynefinoedd mewn gwarchodfeydd natur a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbenig (SoDdGA) e.e. riffiau cwrel.
Cydweithrediad rhyngwladol rhwng llywodraethau, e.e. i gyfyngu ar fasnachu mewn rhannau anifeiliaid neu i sicrhau nad yw’r fasnach ryngwladol mewn sbesimenau o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt yn bygwth eu goroesiad (cytundeb CITES).
Cyfyngu ar ddiwydiannau sydd yn bygwth rhywogaethau mewn perygl, e.e. hela morfilod.
Gwahardd gorbysgota, potsio, casglu wyau adar, a phigo blodau gwyllt trwy ddeddfwriaeth.
Cynnal rhaglenni bridio mewn swau a gerddi botanig.
Banciau sberm a storfeydd hadau.
Rhaglenni ailgyflwyno e.e. rhaglen y Barcut Coch yng Nghanolbarth Cymru.
Rheoli llygredd.
pam fod cynnall amrywiaeth genynnol rhywogaeth yn bwysig
Gan fod dethol naturiol yn dibynnu ar amrywiaeth yn y rhywogaeth, mae amrywiaeth enynnol yn hanfodol os yw’r rhywogaeth i oroesi amgylcheddau newidiol.
pam ydi y ffaith bod rhywogaethau domestig gyda berthnasau i rhywogaethay gwyllt yn defnyddiol
allai fod yn berchen ar alelau defnyddiol, ac mae’n bosib y gellid bridio’r rhain yn ôl i’r amrywiaethau domestig e.e. er mwyn rhoi iddynt ymwrthedd i glefydau. Dyma yw diben bridiau prin, swau wedi’u rhewi a banciau sberm a hadau
pa ydi hin bwysig fod planhigion ddim yn mynd yn ddiflanedig
os bydd y planhigion hyn yn mynd i ddifodiant cyn bod modd eu harchwilio, bydd yr adnodd hwnnw yn cael ei golli.
beth yw amethyddiaeth
ffordd o gynhyrchu bwyd er mwyn ateb y galw dynol amdano.
beth ydi amaethyddwyr yn wneud er mwyn ateb y galw cynyddol am fwyd
cynyddu maint caeau trwy gael gwared ar grychoedd
rhoi ffermio ungnwd ar waith, h.y. tyfu un math o gnwd yn unig mewn cae
cynyddu eu defnydd o wrtaith (fertiliser) a phlaleiddiaid (pesticide).
beth yw egrychoedd
Mae perthi’n darparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai rhywogaethau pla (pests) a’u hysglyfaethwyr. Mae nhw hefyd yn darparu “coridorau bywyd gwyllt” sy’n galluogi rhywogaethau symudol i deithio i wahanol ardaloedd er mwyn gwasgaru rhywogaethau a chanfod cymar.
beth yw ffermio ungnwd
tyfu un math o cnwd mewn cae
beth yw manteision ffermio ungnwd
dyfu cnydau sy’n rhwydd i’w cynaeafu yn fecanyddol.
Mae modd gwarantu y byddent yn cynhyrchu hadau heb glefydau hefyd
beth yw anfanteision ffermio ungnwd
os bydd rhywogaeth pla (pest species) yn meddiannu ungnwd, gall ei niferoedd gynyddu’n gyflym. Mae’r ungnwd yn llai tebygol o gynnal amrywiaeth o ysgflyfaethwyr a all gadw niferoedd y plau o dan reolaeth.
mae hefyd yn tynnu yr run fath o mwynau o’r tir felly mi fydd angen mwy o gwrtaith ac fertilser pop flwyddyn
beth yw anfanteision gwrtaith
chosi ewtroffigedd mewn cyrff dŵr cyfagos gan y bydd unrhyw ormodedd yn trwytholchi i afonydd.
beth yw anfanteision plaleiddiad
gwneud niwed i rywogaethau buddiol yn ogystal â phlau, a gallan nhw achosi gostyngiad yn niferoedd y rhywogaethau hy