materion amgylcheddol Flashcards
(21 cards)
pam ydi coedwigoedd yn gael ei torri lawr
bren, coed tân, pren adeiladu neu er mwyn plannu cnydau gwerthu.
lle ydi datgoedwigo ar ei gwaethaf
y trofannau
beth yw diffeithdiro
tir yn dod yn anffrwythlon ac yn methu cynnal bywyd planhigion
beth sy’n achosi diffeithdiro ,
diwasgu prydd ai sychu
beth yw canlyniadau datgoedwigo
Cynefinoedd a chilfachau naturiol yn cael eu dinistrio.
Bioamrywiaeth frodorol yn lleihau.
Maetholion yn cael eu colli gan fod y pridd wedi’i erydu.
Nid yw’n bosib cael olyniaeth ar dir sydd wedi’i glirio gan fod yr uwchbridd wedi ei golli.
Mwy o ddyddodion gwaddod mewn dyfrffyrdd.
Colli deunyddiau planhigol gwerthfawr a allai gael eu defnyddio at ddibenion meddyginiaethol.
Cyfrannu at newid hinsawdd – mwy o garbon deuocsid yn yr atmosffer gan fod llai o goed ar gael i’w hamsugno.
beth yw dulliau hel pren cynaladwy
rheoli cynaliadwy
prysgoedio
sefydlu ardaloedd gwarchodedig
beth yw rheoli cynaliadwy
golygu y gellir echdynnu pren heb ddinstrio’r goedwig yn gyfangwbl. Mae hyn yn golygu y gall olyniaeth ddigwydd hyd yn oed ar ôl i’r coed gael eu clirio, a bod modd i’r goedwig atffurfio ar gyfer cynaeafu yn y dyfodol.
beth yw prysgoedio
rhannu y coetir yn wahanol ardaloedd i’w torri yn eu tro. Torrir y coed hyd at y bôn a bydd y pren yn aildyfu o’r bôn. Bydd y coed yn cynhyrchu cyffion hir a syth y gellir eu cynaeafu.
pam ydi pysgota yn ffyrdd o bwyta adnewyddadwy
Mae stociau neu boblogaethau pysgod yn adnewyddadwy, h.y. mae unigolion sy’n cael eu cyflwyno i’r boblogaeth drwy enedigaethau yn cymryd lle unigolion a gollwyd i’r boblogaeth drwy farwolaethau. Mae hyn yn golygu ei fod yn bosib cynaeafu (pysgota) y poblogaethau hyn yn ddi-ben-draw – oherwydd hyn, mae pysgod yn adnodd cynaliadwy.
beth yw gorbysgota
lefel o bysgota lle bydd ymdrech cynyddol yn arwain at ddalfa lai.
beth yw dulliau o leihau gorbysgota
Cwotâu pysgota
Cyfyngu ar y tymhorau pysgota
Cyfyngu ar faint rhwyllau mewn rhwydi pysgota
Ffermio pysgod
lleihau fflydoedd pysgota (fishing fleets)
ardaloedd dan waharddiad
sut ydi cwotau pysgota yn lleihau gorbysgota
cyfyngu ar faint o aelodau o unrhyw rywogaeth unigol y gellir eu dal. Rhoddir dirwyon trwm am fynd y tu hwnt i’r cwotâu.
sut ydi cyfyngu ar tymhora pysgota yn lleihau gorbysgota
drwy beidio â chaniatáu pysgota yn ystod tymhorau bridio, dylai’r stociau pysgod gael amser i adnewyddu.
sut ydi lleihau fflydoedd pysgota (fishing fleets) yn lleihau gorbysgota
mae hyn yn golygu bod llai o gychod allan yn dal pysgod.
sut ydi Cyfyngu ar faint rhwyllau mewn rhwydi pysgota yn lleihau gorbysgota
mae rhwyllau o faint llai yn dal mwy o bysgod gan eu bod yn medru dal pysgod mawr a physgod bach. Trwy ddefnyddio rhwyllau canolig eu maint, caiff pysgod mawr eu dal, ond bydd pysgod bach, sy’n aml yn rhai ifanc, yn medru dianc o’r rhwydi a mynd ymlaen i fridio.
sut ydi ardaloedd Dan wahardd yn lleihau gorbysgota
poblogaeth y pysgod yn cael ei gynnal.
sut ydi ffermio pysgod yn lleihau gorbysgota
mae hyn yn golygu ynysu darn o fôr â’r bwriad o fridio a thyfu pysgod dan amodau rheoledig. Fel yn achos ffermydd tir, bydd yr anifeiliaid yn cael eu bwydo, eu trin â chemegion (er mwyn eu gwarchod rhag plâu a chlefydau) ac yna’u cynaeafu.
sut gall ffermio pysgod arwain at broblemau mewn ecosystemau dyfrol
Gall darparu maetholion ychwanegol arwain at faetholion gormodol yr ardal yn llifo allan, gan arwain at ewtroffigedd.
Gall gorddefnyddio gwrthfiotigau arwain at ymwrthedd ymhlith bacteria pathogenaidd.
Gall plaleiddiaid amhenodol (non-specific) lifo allan a chael effaith andwyol ar gadwyni bwyd morol.
Gall ardal sydd wedi’i chau â rhwydi fod yn orlawn o bysgod. Oherwydd hyn, gall clefydau a phlâu ledaenu’n hawdd.
Mae pysgod yn cael eu haddasu’n enetig er mwyn gwneud iddyn nhw dyfu’n fawr a gwneud i’r boblogaeth dyfu ar raddfa uwch. Gallai fod i hyn oblygiadau difrifol pe bai’r pysgod yn dianc ac yn bridio â stociau gwyllt neu’n cystadlu â’r stociau gwyllt am fwyd. Er mwyn ceisio osgoi’r broblem fridio, mae nifer o bysgod a addaswyd yn enynnol wedi’u creu i gael 3 set gyflawn o gromosomau (trisomedd).
beth yw monitor amgylcheddol
disgrifio mesuriadau cofforol a biolegol a wneir dros gyfnod o amser.
hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro effeithiau, asesu effeithlonrwydd a mesur effaith amgylcheddol rhaglenni cadwraeth a rhaglenni ailgyflwyno.
beth ydi mesuriadau corfforol yn cynnwys
pH, draeniad neu lif dŵr.
beth sef yn gael ei monitor mewn monitro amgylcheddol
Cemegion – mae hyn yn cynnwys pH, carbon deuocsid, nitradau ac amoniwm
Organebau byw – yn enwedig y rheini sy’n sensitif i newid. Er enghraift, mae eogiaid a brithyllod brown yn cael eu monitro gan eu bod yn ddangosyddion o ansawdd ac ocsigeniad dŵr
Ymbelydredd
Microbau – yn enwedig mewn ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden (e.e. llynnoedd ac afonydd) a allai fod yn anniogel pe bai’r lefelau’n beryglus.