UG 2.3b Flashcards
(40 cards)
beth yw’r feinwe fasgwlar mewn anifeiliaid vs planhigion?
anifeiliaid-gwaed
planhigion-sylem/ffloem
diffinia Sylem
-meinwe mewn planhigyn sy’n cludo dwr a mwynau sydd wedi hydoddi, tuag i fyny
diffinia Ffloem
-meinwe mewn planhigyn sy’n cludo swcros ac asidau amino o’r dail i weddill y planhigyn
disgrifia lleoliad y ffloem/sylem mewn gwreiddiau
-sylem yn ganolog a siap seren
-ffloem rhwng grwpiau o gelloedd sylem
–>hyn yn gwrthsefyll diriant fertigol (tynnu) ac yn angori’r planhigyn yn y pridd
disgrifia lleoliad y sylem/ffloem mewn coesynnau
-sylem tuag canol
-ffloem tuag allan
-cylchoedd o sypynnau fasgwlar ar yr ymylon
–>hyn yn rhoi cynhaliad hyblyg ac yn gwrthsefyll plygu
disgrifia lleoliad y sylem/ffloem mewn dail
-yn y canol ac mewn rhwydwaith o wythiennau sy’n rhoi cryfder hyblyg ac yn gwrthsefyll rhwygo
pam bod angen sylem/ffloem ar blanhigion?
-trylediad yn rhy araf i ddosbarthu defnyddiau
-felly mae sylem i gludo dwr a mwynau wedi hydoddi, a ffloem i gludo swcros ac asidau amino
Sylem
beth yw’r prif fathau o gelloedd mewn sylem?
Pibellau a Thraceidau
rhestra bopeth ti’n cofio am ble mae traceidau mewn sylem yn bodoli?
-bodoli mewn rhedyn, coed conwydd ac angiosbermau, ond nid menw mwsoglau
Sylem
pam nad yw traceidau yn bodoli mewn mwsoglau?
-dim meinwe sy’n cludo dwr mewn mwsoglau, felly dydn nhw ddim cystal am gludo dwr a dydyn nhw ddim yn gallu tyfu mor uchel a’r planhigion eraill hyn
Sylem
rhestra bopeth ti’n cofio am bibellau mewn sylem
ble-dim ond mewn angiosbermau
proses
-lignin yn cronni yn eu cellfuriau
-cynnwys yn marw, gan adael lle gwag, y lwmen
-meinwe yn datblygu, ac mae waliau pen y celloedd yn ymddatod
-hyn yn gadael tiwb gwag hir, ac mae dwr yn dringo drwyddo, ac yn syth i fyny y planhigyn
-lignin wedi’i osod mewn patrwm sbiral nodweddiadol
-yn wahanol i gellwlos mewn cellfuriau ffloem, mae’n staenio’n goch felly mae’n hawdd adnabod sylem mewn toriadau dan ficrosgop
beth yw 2 swyddogaeth Sylem?
-cludo dwr a mwynau wedi hydoddi
-darparu cryfder a chynhaliad mecanyddol
pa lwybrau sydd yng ngelloedd cortecs y gwreiddyn?
llwybr Apoplast
llwybr Symplast
llwybr Gwagolynnol
beth yw’r llwybr Symplast?
dwr yn symud drwy’r cytoplasm a’r plasmodesmata
beth yw’r llwybr Apoplast?
dwr yn symud rhwng y gofodau yn y ffibrau cellwlos yn y cellfur
beth yw’r llwybr Gwagolynnol?
dwr yn symud o wagolyn i wagolyn
beth yw’r 2 prif lwybr?
symplast+apoplast
pa lwybr yw’r cyflymaf/mwyaf arwyddocaol?
Apoplast
beth yw endodermis?
haen o gelloedd o gwmpas y periseicl o meinwe fasgwlar y gwreiddyn
beth yw’r stribed caspary?
band swberin anathraidd yng nghellfuriau celloedd endodermaidd, sy’n blocio symudiad dwr yn yr apoplast, sy’n ei orfodi mewn i’r cytoplasm
pam bod dwr yn symud o endodermis y gwreiddyn i’r sylem ar draws y cellbilenni endodermaidd?
mwy o wasgedd hydrostatig yn y celloedd endodermaidd
-sy’n gwthio dwr mewn i’r sylem
potensial dwr is yn y sylem, yn is na photensial dwr y celloed endodermaidd, yn tynnu dwr i mewn drwy gyfrwng osmosis ar draws cellbilenni endodermaidd
pa ffactorau sy’n cynyddu gwasgedd hydrostatig?
cludiant actif ionau (yn enwedig ionau sodiwm), i mewn i’r celloedd endodermaidd
+stribed caspary yn dargyfeirio dwr i mewn i gelloedd endodermaidd o’r llwybr apoplast
beth sy’n achosi i botenisal dwr fynd yn is na photensial dwr y celloedd endodermaidd?
cludiant actif halwynau mwynol (ionau sodiwm yn bennaf), o’r endodermis a’r periseicl i’r sylem
+stribed caspary yn dargyfeirio dwr i mewn i’r celloedd endodermaidd
pam caiff mwynau eu hamsugno i’r cytoplasm yn y pridd?
dwr y pridd yn hydoddiant llawer mwy gwanedig na chynnwys y celloedd gwreiddflew, ac mae’r crynodiad yn eithaf isel, felly caiff mwynau eu hamsugno i’r cytoplasm drwy gludiant actif