uned 2.6 - hydrogenoalcanau Flashcards
(30 cards)
beth yw niwclioffil?
rhywogaeth sydd gyda par unig o electronau a gyda’r gallu i roi i rywogaeth electron diffygiol
beth yw adwaith adio?
adwaith lle mae adweithyddion yn cyfuno gan roi un cynnyrch
beth yw adwaith dileu?
colli moleciwl bach gan ffurfio bond dwbl
beth yw adwaith amnewid?
atom/grwp yn cael ei gyfnewid am un arall
beth yw adlifiad?
y proses o anweddiad a chyddwysiad di-dor
beth yw adwaith hydrolysis?
adwaith gyda ddwr i gynhyrchu cynnyrch newydd
beth sy’n digwydd mewn adwaith amnewid niwcleoffilig?
amnewid grwpiau mewn moleciwlau o halogenoalcanau trwy ddefnyddio niwclioffilau ac adlifo
beth yw’r amodau am adwaith amnewid niwclioffilig?
tymheredd ystafell
beth yw’r adweithyddion am adwaith amnewid niwclioffilig?
NaOH (d) / KOH (d) o dan adlifiad
pam ydym yn defnyddio adlifiad?
offer adlifo yn cadw’r holl hylifau ac anweddau o fewn y system sy’n rhoi’r cyfle i’r adweithyddion a’r cynhyrchion cyrraedd ecwilibriwm
beth ydy’r adwaith hydrolysis alcaliaidd yn wneud?
profi presenoldeb atom halogen
beth yw’r dull amdano adwaith hydrolysis alcaliaidd?
- hydrolysis o’r halogenoalcanau gyda bas dyfrllyd fel NaOH i ryddhau’r ion halid
- niwtralu unrhyw OH- sydd mewn gormodedd gan ychwanegu asid nitrig
- gwresogi ac ychwanegu hydoddiant arian nitrad a chymharu’r lliw gwaddod. ychwanegu hydoddiant amonia
nodwch yr hafaliad am adwaith hydrolysis alcaliaidd
Ag+(d) + X-(d) –> AgX (s)
pa lliw gwaddod ydy ion clorid yn rhoi?
gwyn
pa lliw gwaddod ydy ion bromid yn rhoi?
hufen
pa lliw gwaddod ydy ion iodid yn rhoi?
melyn
beth sy’n digwydd yn ystod adwaith dileu?
dileu moleciwl o HX o halogenoalcan (X=halogen)
beth yw’r adweithyddion mewn adwaith dileu?
halogenoalcan ac NaOH / KOH mewn ethanol
beth yw’r amodau mewn adwaith dileu?
gwresogi
beth yw’r 2 ffactor i ystyried wrth edrych ar rwyddindeb hydrolysis halogenoalcanau?
-polaredd y bond
-cryfder enthalpi y bond
beth sy’n digwydd i electronegatifedd wrth symud i lawr grwp?
lleihau
beth yw’r drefn mae cyfradd hydrolysis yn dilyn?
cyflymaf
C-I
C-Br
C-Cl
arafaf
beth yw CFCau?
cyfansoddion sy’n cynnwys sgerbwd o atomau carbon gydag atomau o fflworin a chlorin wedi’i bondio i’r sgerbwd carbon
beth yw’r anfantais i CFCau fod yn sefydlog iawn?
gallu parhau i fodoli yn yr atmosffer am lawer o flynyddoedd