1.6 Y Tabl Cyfnodol Flashcards

1
Q

Ym mha bloc ffeindiwyd yr elfennau;

1) Yng ngrwpiau 1 a 2
2) Sy’n metelau trosiannol
3) Yng ngrwpiau 3,4,5,6,7,8
4) Sy’n rhydwytho yn ystod rhydocs
5) Sy’n ocsidio yn ystod rhydocs
6) Â rhif ocsidiad 1 neu 2
7) Anfetelig
8) Basig
9) Â rhif ocsidiad -2 neu -1
10) Metelig
11) Asidig
12) Sy’n catïonau
13) Â thymheredd ymdoddi sy’n cynyddu hyd at grwp 4
14) Â thymheredd ymdoddi sy’n lleihau wrth fynd i lawr y bloc
15) Sy’n anionau
16) Â thymheredd ymdoddi sy’n cynyddu wrth fynd i lawr y bloc

A

1) s
2) d
3) p
4) s
5) p
6) s
7) p
8) s
9) p
10) s
11) p
12) s
13) d
14) s
15) p
16) p

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Esboniwch pam mae egnïon ïoneiddiad yn cynyddu ar draws cyfnod ond yn lleihau i lawr y grwp

A

Ar draws cyfnod engh rhwng Li ac F - mae electronau’n cael eu hychwanegu yn yr un prif blisgyn, ac felly nid oes llawer o gysgodi electron ychwanegol i wrthsefyll y cynnydd mewn gwefr niwclear. Ond mae’r electron Na sydd am gael ei golli’n cael ei gysgodi gan yr holl blisgyn mewnol yn y rhes sy’n dechrau â Li; mae hyn yn gwrthsefyll y protonau ychwanegol yn y niwclews

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Diffiniwch rydwythydd

A

Mae rhydwythydd yn rhoi electron i rywogaeth arall, ac felly mae’n cael ei ocsidio drwy golli’r electron

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Diffiniwch ocsidydd

A

Mae ocsidydd yn tynnu electron oddi ar rywogaeth arall, ac felly mae’n cael ei rydwytho

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Diffiniwch Rhydocs

A

Adwaith cemegol lle mae electron yn cael ei drosglwyddo o un rhywogaeth - y rhydwythydd - i rywogaeth arall, sy’n cael ei rydwytho drwy dderbyn yr electron

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Nodwch y saith rheol ar gyfer cyflyrau ocsidiad

A

1) Rhif ocsidiad pob elfen yw sero
2) Rhif ocsidiad hydrogen mewn cyfansoddion yw +1 neu l, fel arfer
3) Ocsigen yw -2 neu -ll, fel arfer
4) Elfennau grwp 1 mewn cyfansoddion yw l ac elfennau grwp 2 yw ll
5) Elfennau grwp 6 mewn cyfansoddion yw -ll ac elfennau grwp 7 yw -l
6) Mae elfen sy’n bodio â hi ei hun yn dal yn 0
7) Mae’n rhaid i rifau ocsidiad yr elfennau mewn cyfansoddion adio i sero ac i rifau ocsidiad yr elfennau mewn ïon adio i’r wefr ar yr ïon

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Enrhifwch rifau ocsidiad yr atomau a nodir yn y cyfansoddion canlynol;
A) H mewn H2
B) Cr mewn K2CrO4, ac K2Cr2O7
C) S mewn Na2S2O3, ac Na2S4O6
D) y ddau atom S yn yr ïon thiosylffad, sydd â’r adeiledd S-SO3,2-

A

A) 0
B) +6, +6
C) +2, +2.5
Ch) 0, +4

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Disgrifiwch yr elfennau ym mloc s

A

Metelau electropositif (electronegatifedd isel) adweithio. Maent yn ffurfio catïonau â rhifau ocsidiad +1 ar gyfer elfennau grwp 1, a +2 ar gyfer grwp 2

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Disgrifiwch y cynnyrch a ffurfir wrth losgi elfen o’r bloc s

A

Ffurfir ocsidau;

Ca+ 1/2O2 -> CaO

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch sut ffurfir ocsid neu hydrocsid âg elfen o’r bloc s

A

Maen nhw’n rhyddhau hydrogen gyda dwr gan eu ffurfio

Na + H2O -> NaOH + 1/2H2

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Disgrifiwch briodweddau elfennau bloc s

A
  • Maent i gyd yn adweithio’n rymus âg asidau. Mae adweithedd yn cynyddu i lawr y grwp ac mae elfennau grwp 1 yn fwy adweithiol na grwp 2
  • Mae’r ocsidau a’r hydrocsidau i gyd yn fasig; hynny yw maen nhw’n adweithio ag asidau gan roi halwynau. Mae halwynau grwp 1 yn hydawdd, ond mae adweithiau ïonig grwp 2 ag OH-, CO3,2- ac SO4,2- yn rhoi amrediad o ganlyniadau
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Nodwch lliw fflam;

1) Lithiwm
2) Sodiwm
3) Potasiwm
4) Calsiwm
5) Strontiwn
6) Magnesiwm
7) Bariwm

A

1) Coch
2) Melyn/oreb
3) Lelog
4) Coch bricsen
5) Rhuddgoch
6) Dim
7) Gwyrdd afal

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch hydoddedd Mg(OH)2 yng ngrwp 2

A

Mae’n anhydawdd mewn dwr ond mae hydoddedd yn cynyddu i lawr y grwp

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch hydoddedd BaSO4 yng ngrwp 2

A

Mae’n anhydawdd ac mae hydoddedd yn cynyddu i fyny’r grwp

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Disgrifiwch hydoddedd yr holl garbonadau a nitradau grwp 2

A

Carbonadau - anhydawdd

Nitradau - Hydawdd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Diffiniwch elfen electronegatif

A

Elfen ag affined cryf am electron ac sydd felly’n gweithio fel ocsidydd

17
Q

Enwch yr elfen fwyaf electronegatif

A

Fflworin

18
Q

Disgrifiwch ac eglurwch duedd ymdoddbwyntiau’r halogenau

A

Yn cynyddu wrth fynd i lawr y grwp o fflworin, sy’n nwy, i ïodin, sy’n solid, achos y grymoedd rhyngfolecylaidd cynyddol sy’n dal yr elfennau deuatomig at ei gilydd mewn hylif neu solid. Mae’r tymereddau’n cynyddu achos y nifer cynyddol o electronau yn y moleciwl, sy’n cyfrannu at y grym rhyngfolecylaidd deupol anwythol-deupol anwythol. Am yr un rheswm, mae anweddolrwydd yn lleihau wrth fynd i lawr y grwp

19
Q

Disgrifiwch adweithedd yr halogenau

A

Yn lleihau wrth fynd i lawr y grwp

20
Q

Sut allwn ni ladd bacteria sy’n achosi teiffoid a cholera gan ddefnyddio’r halogenau?

A

Bydd dwr yn cael ei drin â nwy clorin

21
Q

Disgrifiwch sut allwn ni wella cyflwr ein dannedd a lleihau osteoporosis gan ddefnyddio un o’r halogenau

A

Bydd fflworin yn cael ei ychwanegu at bast dannedd ac weithiau at ddwr ar ffurf sodiwm fflworid neu fflworosilicad er mwyn atal pydredd dannedd a chryfhau esgyrn