1.2 Syniadau Sylfaenol Ynghylch Atomau Flashcards

(55 cards)

1
Q

Diffiniwch rif atomig

A

Nifer y protonau yn niwclews atom

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Diffiniwch rif más

A

Nifer y protonau + nifer y niwtronau yn niwclews atom

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Diffiniwch isotopau

A

Atomau sydd â’r un nifer o brotonau ond niferoedd gwahanol o niwtronau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Disgrifiwch yr adeiledd atomig

A

Mas atomau’n cynnwys niwclews sy’n cynnwys protonau â gwefr bositif a niwtronau heb wefr ac mae wedi’i amgylchynu gan blisg yn cynnwys electronau â gwefr negatif sy’n symud drwy’r amser. Mae más yr atom, bron i gyd, yn y niwclews. Mae’r un nifer o brotonau ac electronau gan atom

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Mae gan bob elfen ddau rif nesaf at ei symbol.
Pa rif yw’r rhif:
1) Atomig
2) Más

A

1) Y rhif uwchlaw

2) Y rhif uwchben

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Pa fath o ïonau yw;

1) Catïonau
2) Anionau

A

1) Ïonau positif

2) Ïonau negatif

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Disgrifiwch sut ffurfir;

1) Catïonau
2) Anionau

A

1) Pan fydd atom yn colli un neu fwy o electronau

2) Pan fydd atom yn ennill un neu fwy o electronau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Diffiniwch ronynnau alffa

A

Clwstwr o 2 broton a 2 niwtron; mae gwefr bositif ganddynt

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Diffiniwch ronynnau beta

A

Electronau sy’n symud ym gyflym; mae gwefr negatif ganddynt

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Diffiniwch belydrau gama

A

Pelydriad electromagnetig ag egni uchel; dim gwefr

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Disgrifiwch effaith maes trydanol ar ronynnau;

1) Alffa
2) Beta

A

1) Yn cael eu hatynnu at blât negatif

2) Yn cael eu hatynnu at blât positif

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Disgrifiwch effaith maes trydanol ar belydrau gama

A

Nid oes effaith

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch effaith maes magnetig ar ronynnau;

1) Alffa
2) Beta

A

1) Yn cael eu gwyro i gyfeiriad penodol

2) Yn cael eu gwyro i’r cyfeiriad dirgroes

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch effaith maes magnetig ar belydrau gama

A

Nid oes effaith

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Disgrifiwch bŵer treiddio gronynnau alffa

A

Y lleiaf treiddiol; mae dalen o babur yn eu rhwystro

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Disgrifiwch bŵer treiddio gronynnau beta

A

Mae dalen denau o fetel (0.5cm o alwminiwm) yn eu rhwystro

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Disgrifiwch bŵer treiddio pelydrau gama

A

Y mwyaf treiddiol; gall fod angen mwy na 2cm o blwm i’w rhywstro

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Ysgrifennwch hafaliad lle mae Wraniwm â rhif mas o 238 a rhif atomig o 92 yn allyrru gronyn alffa

A

238U92 –> 234Th90 + 4a2

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Ysgrifennwch hafaliad lle mae Carbon â rhif mas o 14 a rhif atomig o 6 yn allyrru gronyn ß

A

14C6 –> 14N7 + ß-1

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

1) Rhowch enw arall ar gyfer ß+

2) Disgrifiwch beth bydd yn digwydd os mae electron a gronyn ß+ yn dod i gyffwrdd

A

1) Positron

2) Dileu ei gilydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

Diffiniwch hanner oes

A

Yw’r amser mae’n ei gymryd i hanner yr atomau mewn radioisotop ddadfeilio neu’r amser mae’n ei gymryd i ymbelydredd radioisotop ddisgyn i hanner ei werth cychwynnol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

Amlinellwch pam gall ymbelydredd fod yn beryglus i iechyd

A

Mae ymbelydredd yn ïoneiddio/rhyddhau egni uchel sy’n achosi mwtaniad celloedd sy’n gallu arwain at losgiadau/salwch ymbelydredd/canser

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
23
Q

Mae un isotopau ffosfforws, 32P, yn disgyn i 1/8fed o’i werth cychwynnol mewn 42.9 diwrnod. Cyfrifwch hanner oes 32P

A

1 –> 1/2 –> 1/4 –> 1/8 felly 3 hanner oes
Felly, hanner oes = 42.9/3
= 14.3 diwrnod

24
Q

Ar sail meddygaeth, disgrifiwch sut allwn ddefnyddio Cobalt-60 mewn ffordd gadarnhaol

A

Mewn radiotherapi i drin canser. Mae egni uchel pelydriad y gama yn cael ei ddefnyddio i ladd celloedd canseraidd ac i atal y tyfiant niweidiol rhag datblygu

25
Ar sail meddygaeth, disgrifiwch sut allwn ddefnyddio Iodin-131 mewn ffordd gadarnhaol
Ar gyfer clefion sydd â chwarennau thyroid diffygiol. Mae'n gweithio fel olinydd i astudio mewnlifiad iodin i'r chwarren
26
Ar sail meddygaeth, disgrifiwch sut allwn ddefnyddio Technetiwm-99 mewn ffordd gadarnhaol
Radioisotop sy'n cael ei ddefnyddio amlaf mewn meddygaeth. Mae'n cael ei ddefnyddio fel olinydd, fel arfer i labelu moleciwl sydd wedyn yn cael ei amsugno'n ffafriol gan y feinwe dan sylw
27
Ar sail dyddio ymbelydrol, disgrifiwch sut allwn ddefnyddio Carbon-14 mewn ffordd gadarnhaol
I gyfrifo oed gweddillion planhigion ac anifeiliaid. Mae pob organeb fyw'n amsugno carbon, sy'n cynnwys cyfran fach o garbon-14 ymbelydrol. Pan fydd organeb yn marw, nid yw'n amsugno mwy ohono ac mae'r rhai sy'n bresennol yn barod yn dadfeilio. Mae cyfradd y dadfeiliad yn lleihau dros y blynyddoedd ac mae'n bosibl defnyddio'r actifedd sy'n weddill i gyfrifo oed organebau
28
Ar sail dyddio ymbelydrol, disgrifiwch sut allwn ddefnyddio Potasiwm-40 mewn ffordd gadarnhaol
I amcangyfrif oed daearegol creigiau.
29
Diffiniwch orbital atomig
Rhanbarth o atom sy'n gallu dal hyd at ddau electron sydd â sbiniau dirgroes i'w gilydd
30
``` Faint o electronau gall yr is-blisgyn; 1) s 2) p 3) d ei ddal? ```
1) 2 2) 6 3) 10
31
Beth rydym ni'n galw y pedwar lefel egni sefydlog neu blisg mewn atomau?
Rhifau cwantwm, n
32
Beth allwn ni ddadansoddi o wybod mae lefel cwantwm (n) yn isel?
Yr agosaf yw'r plisgyn at y niwclews a'r isaf yw'r lefel egni
33
Diffiniwch adeiledd electronig
Trefniant yr electronau mewn atom
34
Disgrifiwch sut mae'n bosib gweithio allan trefniant adeiledd electronig gan ddefnyddio'r tair rheol sylfaenol
1) Mae electronau'n llenwi orbitalau atomig yn nhrefn egni cynyddol 2) Gallu uchafswm o ddau electron, sef rhai â sbiniau dirgroes, lenwi unrhyw orbital 3) Bydd pob orbital mewn is-blisgyn yn llenwi ag un electron cyn i'r electronau baru
35
Ysgrifennwch yr adeiledd electronig, yn nhermau is-blisg, ar gyfer atom copr
1s2 2s2 2p6 3p6 3d10 4s1
36
Difiniwch egni ïoneiddiad cyntaf molar
Elfen yw'r egni sydd ei angen i dynnu un electron oddi ar bob atom yn un môl o'i atomau nwyol
37
Diffiniwch gysgodi neu sgrinio electronau
Y gwrthyriad rhwng electronau mewn plisg gwahanol. Mae electronau mewn plisg mewnol yn gwrthyrru electronau mewn plisg allanol
38
Disgrifiwch yr amodau mewn egni ïoneiddiad safonol
298K ac 1atm
39
Disgrifiwch yr ffactorau sy'n effeithio ar yr egni ïoneiddiad
1) Gwefr niwclear - y mwyaf yw'r wefr niwclear, y mwyaf yw'r grym atynnol ar yr electron allanol 2) Cysgodi electronau - Y mwyaf yw nifer y plisg neu is-blisg mewnol sydd wedi'u llenwi, y lleiaf yw'r grym atynnol ar yr electron allanol 3) Pellter yr electron allanol o'r niwclews - Y mwyaf yw'r pellter, y lleiaf yw'r grym atynnol ar yr electron allanol
40
Nodwch ac eglurwch y duedd gyffredinol mewn egni ïoneiddiad; 1) ar draws cyfnod 2) i lawr grwp
1) Cynyddu, achos bod gwefr y niwclews yn cynyddu'n gyson ond nid oes llawer o newid yn y cysgodi 2) Lleihau, achos bod mwy o electronau mewnol yn cysgodi'r electron allanol ac mae'n bellach o'r niwclews
41
Disgrifiwch egnïon ïoneiddiad olynol
Mae'n fesur o'r egni sydd ei angen i dynnu pob electron yn ei dro nes bod yr holl electronau wedi'u tynnu oddi ar atom
42
Eglurwch pam mae egnïon ïoneiddiad olynol bob amser yn cynyddu
1) Mae effaith y wefr niwclear yn fwy gan fod yr un nifer o brotonau'n dal llai a llai o electronau 2) Wrth i bob electron gael ei dynnu, mae llai o wrthyriad rhwng electronau a bydd pob plisgyn yn cael ei dynnu ychydig yn nes at y niwclews 3) Wrth i bellter pob electron o'r niwclews leihau, mae eu hatyniad at y niwclews yn cynyddu
43
Ysgrifennwch hafaliad i ddangos ail egni ïoneiddiad magnesiwm
Mg+(n) --> Mag2+(n) + e-
44
Y pedwar egni ïoneiddiad cyntaf ar gyfer elfen yw: 590, 1150, 4940, 6480 Nodwch ac eglurwch i ba grwp yn y Tabl Cofnodol y mae'r elfen yn perthyn
Grwp 2 achos bod naid fawr rhwng yr ail egni ïoneiddiad a'r trydydd, ac felly mae'r trydydd electron wedi cael ei dynnu o blisgyn newydd
45
Nodwch yr hafaliad sy'n cysylltu amledd a thonfedd golau
C = fŷ (C = buanedd golau)
46
Beth gallech chi ddiddwytho o wybod mai; 1) f (amledd) mewn cyfrannedd union âg egni 2) f mewn cyfrannedd wrthdro â ŷ (tonfedd golau)
1) Os bydd yr amledd yn cynyddu, bydd yr egni'n cynyddu | 2) Os bydd yr amledd yn cynyddu, bydd y donfedd yn lleihau
47
Eglurwch y rheswm pam mae'r llinellau du'n ymddangos ar sbectra amsugno
Mae pob atom a moleciwl yn amsugno golau â thonfeddi arbennig. Wrth i olau ddisgleirio drwy anwedd elfen, bydd yr atomau'n amsugno rhai tonfeddi arbennig a'u tynnu o'r golau. Wrth edrych trwy sbectromedr, byddwn yn gweld llinellau du yn y sbectrwm lle mae golau â rhai tonfeddi wedi cael ei amsugno
48
Eglurwch y rheswm pam mae sbectra allyrru yn cynnwys nifer o linellau lliw ar gefndir tywyll
Pan fyddwn yn rhoi egni i atomau drwy eu gwresogi neu drwy gyfrwng maes trydanol, bydd yr electronau'n symud o lefel egni is i lefel egni uwch. Pan fydd ffynhonnell yr egni'n cael ei thynnu, bydd yr electronau'n disgyn o'r lefel egni uwch i lefel egni is a bydd yr egni y maen nhw'n ei golli'n cael ei ryddhau fel pecyn o egni o'r enw cwantwm o egni. Mae hyn yn cyfateb i belydriad electromagnetig ag amledd penodol
49
Nodwch yn fyr y gwahaniaeth rhwng sbectra amsugno a sbectra allyrru
Mewn sbectra amsugno, mae egni'n cael ei amsugno o olau gan beri i electronau symud o lefel egni is i lefel egni uwch. Rydym ni'n gweld llinellau tywyll yn erbyn cefndir llachar Mewn sbectra allyrru, mae egni'n cael ei allyrru wrth i electronau ddisgyn yn ôl o lefel egni uwch i lefel egni is. Rydym yn gweld llinellau lliw yn erbyn cefndir du
50
Diffiniwch drosiad electronig
Pan fydd electron yn symud o un lefel egni i'r llall
51
Nodwch yr hafaliad sy'n cysylltu amledd pelydriad electromagnetig a'i egni
E = hf (h = Cysonyn Planck)
52
Disgrifiwch y sbectrwm hydrogen
Pan fydd atom yn cael ei gynhyrfu drwy amsugno egni, bydd electron yn neidio i fyny lefel egni uwch. Wrth i'r electron ddisgyn i lawr i lefel egni is, mae'n allyrru egni ar ffurf pelydriad electromagnetig. Gallwn ni weld yr egni sy'n cael ei allyrru fel llinell yn y sbectrwm achos ei fod yn hafal i'r gwahaniaeth rhwng y ddwy lefel egni. Gan fod y gwahaniaeth rhwng y ddwy lefel egni'n hafal i hf, mae trosiadau electronig rhwng y lefelau egni gwahanol yn achosi allyrru pelydriad ar amleddau gwahanol sy'n cynhyrchu llinellau gwahanol yn y sbectrwm
53
Pa lefel egni yw'r cyfres Lyman?
n = 1
54
Pa lefel egni yw cyfres Balmer?
n = 2
55
Amlinellwch yn fyr sut mae'n bosib defnyddio sbectrwm atomig hydrogen i fesur egni ïoneiddiad cyntaf molar hydrogen
Mae mesur amledd cydgyfeiriant cyfres Lymana defnyddio gwahaniaeth rhwng lefel egni = hf yn ein galluogi i gyfrifo'r egni ïoneiddiad. Rydym yn lluosi gweth VE gan gysonyn Avogadro i roi'r egni ïoneiddiad cyntaf ar gyfer môl o atomau