Cemeg 2.2: Cyfraddau Adweithio Flashcards
(68 cards)
Beth ydy cyfradd adwaith yn mesur?
Pa mor gyflym mae adwaith yn digwydd.
Beth yw dwy enghraifft o adweithiau sy’n digwydd yn gyflym?
Adwaith dyddodi neu ffrwydradau.
Beth yw enghraifft o adwaith sy’n digwydd yn araf?
Rhydu.
Beth yw’r 6 ffactor sy’n rheoli cyfradd adwaith?
> Crynodiad unrhyw adweithydd mewn hydoddiant.
Gwasgedd unrhyw adweithydd nwyol.
Arwynebedd unrhyw adweithydd solid.
Y tymheredd.
Catalydd, sef sylwedd sy’n cynyddu cyfradd adwaith heb gael ei newid yn ystod yr adwaith.
Golau mewn rhai adweithiau, e.e ffotosynthesis a chlorineiddiad methan.
Beth yw’r dull cyntaf o fesur cyfradd adwaith?
Pryd ydy hwn yn addas?
Mesur y newid mewn mas dros amser. Defnyddio pan caiff nwy ei gynyrchu neu ei ddefnyddio
Caiff nwy a gynhyrchir ei golli ac mae mas y cymysgedd sydd ar ol yn gostwng.
Beth sy’n digwydd os mae adweithydd yw’r nwy?
Bydd mas yr adwaith yn cynyddu yn ystod yr adwaith.
Beth yw’r ail ddull o fesur cyfradd adwaith?
Pryd ydy hwn yn addas?
Mesur y newid mewn cyfaint nwy dros amser. Addas pan caiff nwy ei gynhyrchu neu ei ddefnyddio.
Beth sydd yn digwydd i’r cyfaint?
Newid dros amser a thrwy defnyddio system wedi ei gysylltu i chwistrell nwy, gallwn fesur unrhyw newidiadau mewn cyfaint yn ystod yr adwaith.
Beth yw’r trydydd dull o fesur cyfradd adwaith?
Mesur y newid mewn gwasgedd dros amser.
Os defnyddir cynhwysydd gyda chyfaint penodol gallwn ddilyn adwaith trwy fesur gwasgedd.
Beth yw’r tuedd wrth i’r nifer o foleciwlau o nwy lleihau?
Mae’r gwasgedd yn gostwng, ac wrth i’r nifer o foleciwlau o nwy cynyddu mae’r gwasgedd yn cynyddu.
Ble ydy’r dull hwn yn addas?
Ar gyfer adweithiau rhwng nwyon.
Beth yw’r pedwerydd dull o fesur cyfradd adwaith?
Mesur lliw hydoddiant (‘lliwfesuriaeth’).
Pryd ydym yn gallu defnyddio lliwfesuriaeth?
Yn ystod adweithiau gydag un adweithydd neu gynnyrch lliwgar.
Beth yw enghraifft o adwaith lliwfesuriaeth?
Adwaith Bromin gydag asid methanoig neu gydag alcen lle mae lliw y Bromin yn lleihau yn ystod yr adwaith, neu’r adwaith cloc iodin lle cynhyrchir lliw du-las gyda’r starts ychwanegir fel dangosydd.
Beth yw’r 4 cam i’r dull os mae’r cwestiwnn yn trafod lliw unrhyw sylwedd?
> Golau
Hidlydd lliw i adael un lliw yn unig trwodd
Hydoddiant i’w astudio
Ffotogell i fesur cryfder y golau
Beth yw’r pumed dull o fesur cyfradd adwaith?
Dargludiad hydoddiannau - os ydynt y cynnwys cyfansoddion ionig maent yn dargludo trydan, ac mae’r faint maent yn dargludo yn dibynnu ar y nifer o ionau sy’n bresennol.
Beth sy’n digwydd os mae nifer yr ionau yn newid?
Bydd y dargludiad yn newid.
Sut ydym yn gweld sut mae crynodiad yr ionau yn newid?
Trwy fesur dargludiad hydoddiant dros amser.
Beth yw’r chweched dull o fesur cyfradd adwaith?
Dadansoddiad trwy ditradu.
Beth ydy pob dull uchod yn astudio?
Yr adweithiau yn barhaus, gyda mesuriadau aml heb fod angen amharu ar yr adwaith trwy dynnu samplau allan.
Beth sydd angen wneud lle nid yw’n bosib defnyddio’r dulliau hyn?
Mae’n rhaid amharu ar y cymysgedd adwaith drwy dynnu samplau allan a’u hastudio.
Beth sydd angen sicrhau yn y dull hwn?
Bod yr adwaith yn y sampl yn stopio’n syth ar ol iddo ddod allan o’r cymysgedd.
Beth yw’r term am hyn a sut ydym yn gallu ei wneud?
Drochoeri, a gellir ei wneud trwy ychwanegu sylwedd i ladd un o’r adweithyddion neu’r catalydd, neu drwy oeri sylweddol.
Beth yw’r fformiwla ar gyfer cyfradd adwaith?
Newid yn swm y sylwedd ÷ Amser