Cemeg 2.6: Halogenoalcanau Flashcards
(54 cards)
Beth yw niwclioffil?
Rhywogaeth sydd a phar unig o electronau y mae’r gallu ei roi i rywogaeth electron diffygiol.
Beth yw’r term adio?
Adwaith lle mae adweithyddion yn cyfuno gan roi un cynnyrch.
Beth yw’r term dileu?
Colli moleciwl bach gan ffurfio bond dwbl.
Beth yw’r term amnewid?
Atom/grwp yn cael ei gyfnewid am un arall.
Beth yw’r term adlifiad?
Y proses o anweddiad a chyddwysiad di-dor.
Beth yw’r term hydrolysis?
Adwaith a dwr i gynhyrchu cynnyrch newydd.
Sut ydy hi’n bosib amnewid grwpiau mewn moleciwlau o halogenoalcanau?
Trwy ddefnyddio niwclioffilau.
Pam dydy’r mecanwaith ddim i wneud gyda radicalau tro yma?
Oherwydd mae gan halogenoalcanau ardaleodd adweithiol, megis y bond polar, C-Halogen, ac felly yn fwy adweithiol na alcanau.
Beth yw’r 2 enghraifft o adwaith a beth sy’n cael ei gynhyrchu bob tro?
R-X + H2O —> R-OH + HX
R-X + OH- —> R-OH + X-
Cynhurchu alcohol cynradd bob tro.
Beth ydy’r adwaith gyda dwr yn cael ei galw?
Hydrolysis ac mae’n araf ar dymheredd ystafell.
Beth ydy’r adwaith gyda ionau OH- yn cael ei alw?
Hydrolysis Alcaliaidd ac mae’n llawer cyflymach oherwydd bod OH- yn niwclioffil gwell na dwr.
Beth yw’r amodau ar gyfer y dau adwaith hyn?
> Digwydd ar tymheredd ystafell
Gyda hydoddiant sodiwm neu botasiwm hydrocsid.
DYSGU’R MECWNAWAITH AR GYFER ADWAITH AMNEWID GYDA OH-.
Beth sy’n ffurfio pan gaiff 1-bromobwtan ei gynhesu gyda sodiwm hydrocsid dyfrllyd?
Ffurfio bwtan-1-ol.
C4H9Br + NaOH —> C4H9OH +NaBr.
Sut ydy’r adwaith yn cael ei chynnal yn y labordy?
Gan ddefnyddio techneg o’r enw adlifo.
Beth ydy’r techneg adlifo yn oresgyn?
> Adweithiau sy’n cymryd amser.
Adweithiau ar dymhereddau uchel.
Beth ydy’r offer adlifo yn wneud o fewn y system?
Cadw’r holl hylifau ac anweddau o fewn y system ac felly yn rhoi’r cyfle i’r adweithyddion a’r cynhyrchion cyrraedd ecwilibriwm.
Beth yw adlifo gydag adiad?
Weithiau mae angen ychwanegu sylweddau yn ystod yr adwaith felly gall dwndis gael ei gysylltu i’r fflasg.
Ble mae’r adwaith hydrolysis alcaliaidd yn ddefnyddiol?
> Ffordd dda o brofi am bresenoldeb atom halogen mewn cyfansoddyn organig.
Beth ydy’r adwaith yn rhyddhau?
Beth sydd angen ystyried?
Yr ion halid X- o’r moleciwl organig ac felly gallwch brofi amdano trwy ddefnyddio’r prawf arian nitrad.
Angen ystyried electronegatifedd a cryfder bond.
Beth yw dull yr adwaith?
- Hydrolysis o’r halogenoalcan gyda bas dyfrllyd fel NaOH i ryddhau’r ion halid.
- Niwtralu unrhyw OH- sydd mewn gormodedd gan ychwanegu asid nitrig (HNO3).
- Gwresogi ac yna ychwanegu hydoddiant arian nitrad a chymharu lliw’r gwaddod.
Ychwanegu hydoddiant amonia.
1-Clorobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Gwyn
Hydoddi mewn amonia dyfrllyd.
1-Bromobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Hufen
Hydoddi mewn amonia crynodedig.
1- Iodobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Melyn
Anhydawdd mewn amonia.