Hanes Cymru Flashcards
(23 cards)
Deddfau Penyd
Deddfau oedd yn cosbi’r pobl oedd yn rhan o’r gwrthryfeloedd
Arddel
Byddin preifat yn y Gororau oedd yn helpu arglwyddi gyda phwer
Commortha
Treth a godwyd yn y Gororau i atal achosion llys rhag cael eu cynnal h.y. troseddwyr go iawn yn cael eu hamddiffyn
Cyfran
Cyfraith Cymreig. Y drefn (rhan o gyfreithiau Hywel Dda) o etifeddu, sef rhannu tir rhwng y meibion i gyd
Y Mab Darogan
Y syniad bod person rhywbryd am adfer balchder Cymru a chodi statws y genedl
Pam bod pobl yn meddwl bod Harri VII yn fab darogan?
- Oedd o’n Gymro
- Enw ei fab - Arthur
- Cyflogi pobl Cymreig e.e. Rhys ap Thomas
- Llythyrau dinasyddiaeth - rhyddhau unigolion o’r Deddfau Penyd
Pam nad oedd y wlad yn bwysig iddo?
- Ceisio sefydlu ei hun yn bwysicach
- Heb dreulio llawer o amser yng Nghymru
- Heb geisio moderneiddio’r wlad
- Defnyddio Cymru er lles ei hun
Pam cyflwyno’r Deddfau Uno?
- Tueddol o ddigwydd - Lloegr yn rheoli Cymru yn barod ers 1282, Dim ond yn gwneud o’n fwy ffurfiol, telerau’r Deddfau Uno yn digwydd yn barod
- Ystyriaethau diogelwch - Llawer o wrthryfeloedd yn codi ar y pryd e.e. gwrthryfel Rhys ap Gruffydd
- Dylanwad Thomas Cromwell a’i gred mewn sofraniaeth cenedlaethol, y Gororau gyda chyfreithiau gwahanol
- Er mwyn bodloni’r Cymry
Pwy oedd Rowland Lee?
- Llywydd Cyngor Cymru a’r Gororau
- Dim yn hoff o’r Cymry
- Gweithio gyda Thomas Cromwell i baratoi ar gyfer y Deddfau Uno
Beth wnaeth Rowland Lee?
- Diddymu arferion fel arddel a chommortha
- Targedu llysoedd y Gororau er mwyn sicrhau gwell cyfiawnder
- Trosglwyddo troseddwyr i siroedd cyfagos yn Lloegr er mwyn iddynt wynebu prawf a chosb
- Cosbi troseddwyr yn gyhoeddus e.e. crogi
- Gosod cyrffywiau er mwyn lleihau troseddu e.e. Mor Hafren
Telerau’r Deddf Uno Cyntaf 1536
- Diddymu arglwyddiaethau’r Mers a chreu 7 sir newydd. Tywysogaeth hefyd wedi cael ei ddiddymu ond oedd y 5 sir yn parhau
- Saesneg yn troi i fod yn iaith swyddogol Cymru - iaith y gyfraith a’r llywodraeth
- Cymru yn derbyn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf
- Diddymu’r Deddfau Penyd yn ffurfiol
- Mabwysiadu cyfreithiau Lloegr a chael gwared o hen gyfreithiau Cymreig - pawb yn dilyn yr un gyfraith
- Cyflwyno’r swydd o Ynadon Heddwch i bob sir - cyfrifol am lywodraeth lleol
Telerau’r Ail Ddeddf Uno 1543
- Cydnabyddiaeth statudol o Gyngor Cymru a’r Gororau - cyfarfod yn Llwydlo
- Sefydlu trefn llysoedd newydd - Llysoedd y Sesiwn Fawr oedd yn ymweld bob sir dwy waith y flwyddyn
Effeithiau da y Deddfau Uno
- Gwella cyfraith a threfn - derbyn Aelodau Seneddol
- Cael gwared ar y Deddfau Penyd
- Llais yn y Senedd, dal hyd at heddiw
- Ynadon Heddwch
- Manteision economaidd - buddsoddi, llai o lygredd gan arglwyddi’r Mers
Effeithiau drwg y Deddfau Uno
- Niweidio iaith a diwylliant Cymru - Saesneg yn troi i fod yn iaith swyddogol, colli ein hunaniaeth
- Gwneud Cymru’n fwy atebol i’r deddfau sy’n cael ei basio
- Gwahanu cymdeithas - y bonedd a’r gwerinwyr
Nodweddion o “newid” - Deddfau Uno
- Cymru wedi newid wrth i siroedd newydd cael eu creu - Mers ddim yn bodoli bellach
- Cymru yn derbyn Aelodau Seneddol
- Ynadon Heddwch yn cael eu ychwanegu i’r llywodraeth lleol
- Sefydlu trefn llysoedd newydd - Llysoedd y Sesiwn Fawr
Sut gyflwr oedd ar yr Eglwys yn Nghymru yn 1529?
Mewn cyflwr gwael iawn
- 4 esgob - Tyddewi, Llandaf, Bangor a Llanelwy. Y tlotaf yn y deyrnas i gyda
- Esgobion Cymru yn anaddas ar gyfer swyddi - llawer o Saeson a dim gyda dealltwriaeth nag ymdeimlad o broblemau Cymru
- Absenoldeb yn broblem fawr - Esgob Bangor Richard Skevington yn absenol am 14 mlynedd
- Is-glerigwyr yn anaddas. Heb dderbyn llawer o addysg a gyda ysbryd isel oherwydd cyflogau gwael
- Anfoesoldeb yn broblem - rhai offeiriaid yn cadw cariadon a phlant
- Cyflwr mynachlogydd Cymru’n dirywio - abadau llwgr
Adfer y Crefydd Catholig yn Nheyrnasiad Mari I 1553-1558
- Croeso yng Nghymru i ddyfodiad Mari i’r orsedd. Newid crefyddol yn cael ei dderbyn
- Mari I yn cael cymorth i adfer Catholigiaeth yng Nghymru gan glerigwyr fel Morus Clynnog, Gruffydd Robert
- Polisi llosgi yng Nghymru yn debyg i’r un yn Lloegr - 3 merthyr yng Nghymru
- Dim llawer o wrthwynebiad i briodas Mari I yng Nghymru
- Rhai Protestaniaid Cymru wedi gadael y wlad fel alltudion
Pam oedd Protestaniaeth yn fwy llwyddiannus yn nheyrnasiad Elisabeth?
1) Natur gymhedrol Ardrefniant Eglwysig Elisabeth - Wedi cael digon o’r wlad yn cael ei reoli’n eithafol
2) Cyfiethu llenyddiaeth grefyddol i’r Gymraeg - 1563 Deddf yn cael ei basio’n 1563 bod y Beibl yn cael ei gyfiethu i’r Gymraeg
3) Penodi mwy o esgobion Cymraeg eu hiaith. 13 allan o 16 o esgobion a apwyntiwyd gan lywodraeth Elisabeth yn siarad Cymraeg
4) Catholigiaeth yn cael ei gysylltu gyda brad ac ymyrraeth dramor
1567
Testament Newydd a Llyfr Gweddi William Salesbury
1588
Beibl William Morgan
Reciwsantiaeth yng Nghymru 1568-1588
Mwyafrif o bobl Cymru wedi derbyn Ardrefniant Eglwysig Elisabeth.
Ond wnaeth rhai wrthwynebu
- 3 o 4 esgob yng Nghymru wedi ymddiswyddo
- Rhai clerigwyr wedi gadael am y cyfandir
- Rhai aelodau’r bonedd yn cydymdeimlo gyda Chatholigiaeth
Gwahanol ffyrdd o reciwsantiaeth yng Nghymru
1) Gwaith cenhadu Catholig yng Nghymru - Offeiriad cenhadol yn dechrau cyrraedd Cymru yn y 1570au
2) Cynhyrchu llenyddiaeth Gatholig - Y Drych Cristinogawl (1585) yn cael ei argraffu gan wasg argraffu anghyfreithlon y ogof Rhiwledyn ger Llandudno
3) Rol y Cymry mewn cynllwynio
- Hugh Owen + Thomas Morgan - Cynllwyn Ridolfi 1571
- Thomas Salusbury + Edward Jones - Cynllwyn Babington 1586. Wedi cael eu dienyddio
- William Parry - Ceisio lladd Elisabeth
Pam fod cyn lleiad o wrthwynebiad i newid crefyddol yng Nghymru?
1) Teyrngarwch naturiol tuag at y Tuduriaid sef disgynyddion Harri VII (cefndir Cymreig)
2) Dim yn benboeth am grefydd
3) Eglwys Anglicanaidd yn gyfarwydd
4) Cyfiethu i’r Gymraeg yn helpu ennill cefnogaeth
5) Ofn gwrthwynebu - gallu cael eu cosbi
6) Natur cymhedrol Eglwys Elisabeth