Uned 2.1.1 Flashcards
Diffiniadau a chysyniadau o iechyd a llesiant (31 cards)
Beth yw diffiniad o iechyd cadarnhaol?
Cyflawni a chynnal ffitrwydd corfforol a sefydlogrwydd meddyliol.
Beth yw diffiniad o iechyd negyddol?
Absenoldeb afiechyd corfforol, clefyd a thrallod meddwl.
Beth yw diffiniad o iechyd cyfannol?
Cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn yn hytrach na’r ffaith bod afiechyd neu wendid yn absennol yn unig.
Ble mae’r diffiniad o iechyd cyfannol yn dod o?
Sefydliad Iechyd Y Byd.
Beth yw cysyniad cyfannol?
Ystyried y person cyfan a sut mae’n rhyngweithio a’i amgylchedd.
Beth yw’r prif pwyntiau o cysyniad cyfannol?
- Pwysleisio’r cysylltiad rhwng y meddwl, sorff a’r enaid.
- Annog pobl i dderbyn cyfrifoldeb am eu lefel eu hunain o lesiant.
- Nad yw’r iechyd gorau posibl yn seiliedig ar absenoldeb clefyd yn unig, ond a’r gydbwysedd byw’r ‘person cynfan’.
Beth yw’r 5 ffactor o cysyniad cyfannol?
- Corfforol
- Meddyliol
- Emosiynol
- Cymdeithasol
- Ysbrydol
Beth yw’r cysyniad cyfannol o corfforol i dilyn?
- Cysgu am 8 awr.
- Bwyta diet llawn maetholion.
- Symud y corff am 30 munud pob dydd.
Beth yw’r cysyniad cyfannol o meddyliol i dilyn?
- Bod mewn addysg/gwaith.
- Mynychu hyfforddiant.
- Cadw y meddwl yn egniol pob amser trwy chwilio am gyfleoedd dysgu.
Beth yw’r cysyniad cyfannol o cymdeithasol i dilyn?
- Wnued amser ar gyfer cysylltiad personol.
- Cymryd rhan mewn gymuned leol.
- Gosod ffiniau gyda pobl yn eich bywyd.
Beth yw’r cysyniad cyfannol o ysbrydol i dilyn?
- Treulio amser ym myd natur.
- Dilyn arferion crefyddol neu diwylliannol.
- Treulio amser ychydig fundedau pob dydd yn myfyrio.
Beth yw’r cysyniad cyfannol o emosiynol i dilyn?
- Cael ein gwerthfawrogi a’n caru.
- Siarad am unrhyw broblemau.
- Dilyn arferion ymwybyddiaeth ofalgar a arferion lleihau straen.
Beth yw’r diffiniad Llesiant?
Teimlo’n iach ac yn ddiogel, yn ogystal a bod hawliau a chyfrifoldebau, perthnasoedd a mynediad at gyfleoedd dysgu a chyfleoedd i gymdeithasu.
Beth yw llesiant o ran person?
- Llesiant mewn perthynas ag unrhyw un.
- Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol.
- Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
- Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden.
- Perthnasoedd dosmestig, teuluol a phersonol.
- Cyfraniad a wneir at y gymdeithas.
- Sicrhau hawliau a hawlogaethau.
Beth yw llesiant o ran oedolyn?
- Rheolaeth ar fywyd pob dydd.
- Cymryd rhan mewn gwaith.
Beth yw llesiant o ran plentyn?
Datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.
Beth yw model cymdeithasol?
- Ystyried amrywiaeth o ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant sef penderfynyddion cymdeithasol
Beth yw penderfynyddion cymdeithasol iechyd?
Gysylltiedig a’r amodau mae pobl wedi geni ynddyn nhw, eu plentyndod ac oedolaeth, cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd sydd ar gael iddyn nhw.
Beth yw manteision model cymdeithasol?
- Awgyrmu bod amrywiaeth o ffactorau yn cyfrannu at iechyd a llesiant pobl.
- Hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at anabledd.
- Dangos cysylltiad clir rhwng tlodi ac iechyd a llesiant gwael.
Beth yw anfanteision model cymdeithasol?
- Nid yw pob agwedd ar iechyd a llesiant yn gysylltiedig ag amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
- Anodd cael y penderfyniad i newid fford o fyw, penderfyniadau unigolyn yn effeithio ar eu canlyniadau iechyd a llesiant.
- Pobl o gefndiroedd cyfoethog gallu cael canlyniadau iechyd a llesiant gwael o canlyniad i ffactorau eraill yn eu bywydau.
Beth yw model biofeddygol?
Pwyslais i gyd ar ffactorau biolegol a chorfforol sy’n effeithio ar iechyd a chlefydau, heb ystyried ffactorau eraill.
Beth yw’r 2 prif agwedd i’r model biofeddygol?
- Diagnosis
- Ymyrraeth
Beth yw diagnosis?
Adnabyddiaeth o’r afiechyd neu salwch drwy edrych ar symptomau neu trwy brofion diagnostic megis.
Beth yw ymyrraeth?
Camau sy’n cael ei cymryd i wella iechyd.