Pennod 4 - Microbioleg Flashcards

1
Q

Enwch bacteria sydd gyda siap;

1) sfferig
2) rhoden
3) troellog

A

1) Coccus
2) Bacillus
3) Spirillum

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Enwch y safle resbiradaeth aerobig bacteria

A

Mesosom

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Pam a sut gall Penicilin gweithredu ar facteria gram positif?

A

Oherwydd yr haen peptidoglycan drwchus. Mae’r gwrthfiotig yn atal y trawsgysylltiadau rhag ffurfio o fewn yr haen peptidoglycan, ac felly mae’n gwahanu’r cellfur mewn bacteria sydd rannu. Digwyddir wedyn lysis osmotig, sef pan fydd dwr yn mynd i mewn i’r gell bacteria gan achosi i’r gell fyrstio

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Nodwch y gwahaniaethau rhwng bacteria gram positif a bacteria gram negatif

A

Bacteria Gram Positif:

  1. Cellfur mwy trwchus
  2. Haen peptidoglycan drwchus
  3. Dim haen lipopolyscarid felly gall penisilin a lysosom gweithredu arno
  4. Haen peptidoglycan yn dal y staen fioled grisial felly’n staenio’n borffor
  5. E.e. Staphylococcus

Bacteria Gram Negatif:

  1. Cellfur teneuach
  2. Haen peptidoglycan denau
  3. Haen lipopolysacarid yn amddiffyn rhag penisilin a lysosom yn gweithredu arno
  4. Haen lipopolysacarid yn atal mewnlifiad staen fioled grisial. felly dim ond yn staenio’n goch ar ol cael gwared ar yr haen lipopolysacarid a defnyddio gwrthstaen megis saffranin
  5. E.e. Salmonella, E.coli
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Rhowch ddull i ddarganfod os mae bacteria yn gram positif neu beidio

A
  1. Defnyddiwch ddolen frechu i roi sampl bach o facteria ar sleid microsgop wydr. Rhowch y sleid drwy fflam Bunsen un waith neu ddwy i lynu’r bacteria at y sleid
  2. Ychwanegu ambell ddiferyn o staen fioled grisial a’i adael am 30 eiliad
  3. Rinsiwch y gormodedd gyda dwr
  4. Ychwanegwch iodin Gram am 1 funud i wneud i’r staen lynu
  5. Mae bacteria sy’n staenio’n borffor yn gram positif

Er mwyn staeno gweddill y bacteria:

  1. Golchwch hwy gydag alcohol am 30 eiliad i hydoddi’r lipidau yn yr haen lipopolysacarid, a datgelu’r haen peptidoglycan fewnol.
  2. Staeniwch hwy eto gyda staen arall fel saffranin, sy’n staenio’r bacteria sydd heb eu staenio, yn goch
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Diffiniwch;

1) Aerobau anorfod
2) Anaerobau anryddawn
3) Anaerobau anorfod

A

1) Microbau sydd angen ocsigen i dyfu
2) Microbau sy’n tyfu’n well ym mhresenoldeb ocsigen ond yn gallu tyfu hebddo
3) Microbau sy’n methu goroesi ym mhresenoldeb ocsigen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Disgrifiwch ac eglurwch yr amodau sydd eu hangen ar gyfer twf bacteria

A

Cyfwng twf fel agar maetholion yn cynnwys y canlynol:

1) Maetholion - ffynhonnell carbon ar gyfer resbiradaeth, e.e. glwcos, nitrogen ar gyfer synthesis niwcleotidau a phroteinau, a fitaminau a halwynau mwynol
2) Dwr
3) Tymheredd addas - 25-45oC i’r rhan fwyaf o facteria; 37oC yw’r optimwm i bathogenau mamolaidd. Mae rhai yn gallu goroesi ar 90oC (thermoffilau) sy’n bodoli mewn tarddellau poeth
4) pH addas - pH 7.4 yw’r optimwm ar gyfer y rhan helaeth ohonynt
5) Efallai bydd angen ocsigen, efallai bydd angen absenoldeb ocsigen neu nid yw’n o bwys

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Gwahaniaethwch rhwng y termau ‘Sterileiddio’ a ‘di-heintio’.

A

Sterileiddio - lladd pob micro-organeb gan gynnwys sborau

Di-heintio - Lleihau nifer y microbau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Diffiniwch bathogen

A

Micro-organeb sy’n byw mewn micro-organeb lletyol gan wneud niwed iddi. Maent yn achosi clefydau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch y technegau aseptig

A

1) Gwresogi’r offer mewn ffwrn aerglos neu sosban frys am 15 munud neu rhoi’r offer drwy fflam Bunsen nes eu bod yn boethgoch
2) Glanhau’r bwrddau ac ati gyda di-heintydd
3) Gnwneud yr abrawf o dan amodau 25oC er mwyn rhywstro tyfiad pathogen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Enwch y pedwar cyfnod yn nhwf bacteria

A

Cyfnod Oedi

Cyfnod Logarithmig/Twf/Esbonyddol

Cyfnod Digyfnewid

Cyfnod Marwolaeth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Disgrifiwch dwf y bacteria yn ystod y cyfnod oedi

A

Mae nifer y boblogaeth yn cynyddu’n araf iawn achos bod angen amser ar gyfer synthesis ensymau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch dwf y bacteria yn ystod y cyfnod esbonyddol/twf/logarithmig

A

Mae digonedd o faetholion a does dim llawer o sgil gynhyrchion gwenwynig, felly does dim ffactorau cyfyngol. Mae hyn yn caniatau atgenhedlu cyflym

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch dwf y bacteria yn ystod y cyfnod digyfnewid

A

Mae’r celloedd yn atgenhedlu ond mae’r boblogaeth yn gymharol gyson ac yn amrywio o gwmpas y cynhwysedd cludo, oherwydd bod yr un nifer o gelloedd yn marw ag sy’n cael eu cynhyrchu. Mae’r boblogaeth wedi cyrraedd ei chynhwysedd cludo achos bod adnoddau prin e.e. maetholion/lle/cynhyrchion gwastraff gwenwynig, nawr yn ffactorau cyfyngol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Disgrifiwch dwf y bacteria yn ystod y cyfnod marwolaeth

A

Mae mwy o gellodd yn marw nag sy’n cael eu cynhyrchu, felly mae’r boblogaeth yn lleihau. Mae celloedd yn marw oherwydd diffyg maetholion, diffyg ocsigen neu gynnydd yng ngwenwyndra’r cyfrwng

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Sut allwn ni fesur twf bacteria?

A

Naill ai’n gyfrifon hyfyw - Yn uniongyrchol drwy gyfrifo cyfanswm nifer y celloedd byw yn unig

neu’n gyfrifon cyfanswm - Yn anuniongyrchol drwy fesur cymylogrwydd meithriniad sy’n cyfrif celloedd byw a meirw

17
Q

Rhowch hafaliad sy’n cysylltu nifer y bacteria gwreiddiol, y ffactor gwanedu a’r nifer o gytrefi

A

Nifer y bacteria gwreiddiol = Nifer o gytrefi x Y ffactor gwanedu