Pennod 7 - Homeostasis a'r Aren Flashcards

1
Q

Diffiniwch adborth negatif

A

Y mecanwaith lle mae’r corff yn gwrthdroi cyfeiriad newid mewn system i adfer y pwynt gosod

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Disgrifiwch y broses homeostasis

A

1) Mewnbwn - Newid oddi wrth y pwynt gosod
2) Derbynnydd - Synhwyrydd sy’n canfod y newid oddi wrth y pwynt gosod
3) Canolfan Rheoli - Neu gydlynydd sy’n canfod signalau o’r derbynyddion ac yn cydlynu ymateb gan effeithyddion megis yr hypothalamws
4) Effeithydd - Yn gwneud newidiadau sy’n dod a’r corff yn ol at y pwynt gosod
5) Allbwn - Gweithdrefn gywiro

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Gwahaniaethwch rhwng ysgarthu a charthu

A

Ysgarthu - gwaredu gwastraff mae’r corff wedi’i gynhyrchu

Carthu - Gwaredu gwastraff sydd ddim wedi’i wneud gan y corff megis bwyd heb ei dreulio

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Diffiniwch osmoreolaeth

A

rheoli potensial dwr hylifau’r corff drwy reoleiddio cynnwys dwr y corff

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Enwch brif swyddogaethau’r aren

A

1) Ysgarthiad
2) Osmoreolaeth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Nodwch y prif brosesau sy’n digwydd yn y neffron a ble maent y digwydd ynddo

A

1) Uwch-hidlo - Yng nghwpan Bowman
2) Adamsugniad detholus - Yn y tiwbyn troellog procsimol
3) Osmoreolaeth - Yn nolen Henle a’r dwythellau casglu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Disgrifiwch uwch-hidliad

A

Mae’r rhydweliyn arferol yn lletach na’r rhydweliyn echddygol, sy’n creu pwysedd gwaed uwch nag sy’n normal yn y glomerwlws. Mae sylweddau gyda mas moleciwlaidd cymharol -mmc- <68,000 yn cael eu gorfodi allan i gwpan Bowman gan gynnwys glwcos, aisdau amino, halwynau, dwr ac wrea, gan ffurfio’r hidlif glomerwlaidd. Protienau gyda mmc >68,000 yn aros yn y gwaed gyda’r celloedd gan eithrio’r hormon HCG, sy’n cael ei ganfod i brofi beichiogrwydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Nodwch y ffactorau sy’n gwrthsefyll symudiad yr hidlif yn ystod uwch-hidliad

A

1) Epitheliwm capilariau, sy’n cynnwys mandyllau o’r enw ffenestri
2) Pilen waelodol cwpan Bowman, sy’b gweithredu fel gogr (sieve)
3) Mur y cwpan Bowman wedi’i wneud o gelloedd epithelaidd cennog arbenigol iawn sef podocytau. Mae hidlif yn llifo rhwng eu canghennau (pedicelau)
4) Gwasgedd hydrostatig yn y cwpan
5) Potensial dwr isel y gwaed yn y glomerwlws

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Nodwch ble yn yr aren byddech chi’n gweld cwpanau Bowman

A

Yn y cortecs

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Diffiniwch gludiant actif eilaidd

A

Cyplu trylediad e.e. trylediad ionau sodiwm, i lawr graddiant electrocemegol i ddarparu egni i gludiant actif glwcos yn erbyn ei raddiant crynodiad

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Disgrifiwch sut mae ionau mwynol a halwynau yn cael eu hadamsugno

A

Trylediad cynorthwyedig a chludiant actif i mewn i gelloedd epithelaidd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Disgrifiwch sut mae glwcos ac asidau amino’n cael eu hadamsugno

A

Cludiant actif eilaidd gan ddefnyddio mecanwaith cydgludiant gydag ionau sodiwm. Mae glwcos yn cael ei gydgludo gyda dau ion sodiwm drwy gyfrwng trylediad cynorthwyedig i mewn i’r gell. Mae sodiwm a glwcos yn symud ar wahan i mewn i’r capilariau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch sut mae dwr yn cael ei adamsugno

A

Trwy gyfrwng osmosis

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch sut mae rhai proteinau wedi’u hidlo ac wrea’n cael eu hadamsugno

A

Trwy gyfrwng trylediad

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Disgrifiwch sut mae’r tiwbyn troellog procsimon wedi addas ar gyfer adamsugno

A

1) Mae gan y celloedd sy’n leinio’r tiwbyn arwynebedd arwyneb mawr achos presenoldeb microfili a sianelau gwaelodol. Mae yna hefyd niferoedd o neffronau
2) Mae celloedd yn cynnwys llawer o fitocondria sy’n darparu ATP ar gyfer cludiant actif hydoddion
3) Cysylltiad agos gyda chapilariau sy’n creu llwybr tryledu byr rhwng celloedd a’r capilariau peritiwbaidd
4) Cysylltau tynn rhwng celloedd cyfagos sy’n atal y defnyddiau wedi’u hadamsugno rhag gollwng yn ol i mewn i’r hidlif

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Esboniwch pam mae glwcos yn gallu bod yn bresennol yn nhroeth cleifion diabetes

A

Mae gormod o glwcos yn bresennol yn hidlif y glomerwlws i gael ei adamsugno yn y tiwbyn troellog procsimol, felly mae rhywfaint ohono’n aros

17
Q

Disgrifiwch ac eglurwch hyd dolenni Henle mewn mamolion sydd wedi esblygu mewn cynefinoedd sych

A

Yn hirach achos maen nhw’n cynhyrchu troeth mwy crynodedig oherwydd bod mwy o ionau Na+ a Cl- yn gallu gadael yr aelod disgynnol drwy gyfrwng cludiant actif

18
Q

Pam mae rheoli potensial dwr y corff yn bwysig mewn anifeiliaid?

A

Cynnal crynodiadau enymau a metabolynnau, ac yn atal celloedd rhag byrstio neu fyd yn hiciog

19
Q

Disgrifiwch sywddogaeth dolen Henle

A

Adamsugno rhywfaint o ddwr. Ei phrif swyddogaeth yw cynyddu crynodiad ionau yn rhan interstitaidd y medwla, sy’n caniatau i’r ddwythell gasglu adamsugno dwr

20
Q

Disgrifiwch y broses osmoreolaeth sy’n digwydd yn nolen Henle a’r ddwythell gasglu

A

1) Ionau Na a Cl um cael eu pwmpio’n actif allan o’r aelod esgynnol gan gynyddu’r crynodiad ionau yn y rhan interstitaidd
2) Mae muriau’r aelod disgynnol yn athraidd i ddwr, felly mae dwr yn gadael drwy gyfrwng osmosis i mewn i’r rhan interstitaidd cyn mynd i’r capilariau (fasa recta)
3) Mae dwr yn cael ei golli’n raddol i lawr yr aelod disgynnol
4) Mae crynodiad yr hidlif yn lleihau yn lwmen y neffron yn yr aelod esgynnol, achos bod ionau Na a Cl yn cael eu pwmpio allan yn actif
5) Mae hyn yn creu graddiant crynodiad ionau sy’n cynyddu yny rhan interstitaidd tuag at waelod y ddolen
6) Mae dwr yn gadael y ddwythell gasglu drwy gyfrwng osmosis i mewn i’r rhan interstitaidd cyn mynd i’r fasa recta
7) Wrth i ddwr adael yr hidlif yn y ddwthell gasglu, mae crynodiad yr hidlif yn cynyddu, ond mae bob amser yn is na’r hylif yn rhan interstitaidd y medwla, felly bydd dwr yn parhau i adael drwy gyfrwng osmosis. Gelwir y llif yn lluosydd gwrthgerrynt, Mae hyn yn sicrhau bod crynodiad yr hidlif bob amser yn is na’r hylif interstitaidd yn y medwla

21
Q

Diffiniwch hormon gwrthddiwretig

A

Hormon sy’n cael ei gynhyrchu gan yr hypothalamws a’i secretu gan y chwarren bitwidol ol. Mae’n gwneud celloedd y tiwbyn troellog distal a muriau’r ddwythell gasglu’n fwy athraidd i ddwr, sy’n arwain at adamsugno mwy o ddwr a throeth crynodedig

22
Q

Sut mae ADH yn cael ei gludo i’r aren?

A

Wedi hydoddi yn y plasma

23
Q

Disgrifiwch ymateb y corff wrth yfed gormod o ddwr

A

1) Osmodderbynyddion yn yr hypothalamws yn synhwyro’r newid
2) Neges yn mynd i’r chwarren bitwidol ol
3) Mae’n secretu llai o ADH
4) Y tiwbyn troellog distal a’r ddwythell gasglu’n llai athraidd
5) Adamsugno llai o ddwr i’r gwaed gan gynhyrchu troeth gwanedig

24
Q

Disgrifiwch ymateb y corff wrth beidio ag yfed digon o ddwr

A

1) Osmodderbynyddion yn yr hypothalamws yn synhwyro’r newid
2) Neges yn mynd i’r chwarren bitwidol ol
3) Mae’n secretu mwy o ADH
4) Y tiwbyn troellog distal a’r ddwythell gasglu’n fwy athraidd
5) Adamsugno mwy o ddwr i’r gwaed gan gynhyrchu troeth crynodedig

25
Q

Disgrifiwch sut gall meddyginaeth helpu trin clefyd yr aren

A

Trwy reoli lefelau potasiwm a chalsiwm yn y gwaed sy’n gallu arwain at glefyd y galon a cherrig yn yr arennau os nad ydym ni’n eu rheoli nhw

26
Q

Disgrifiwch sut gall cael deiet addas helpu trin clefyd yr aren

A

Cael deiet sydd ddim yn cynnwys llawer o brotein i leihau crynodiad gormodedd asidau amino, ac felly grynodiad wrea

27
Q

Disgrifiwch sut gall cyffuriau gwahanol helpu trin clefyd yr aren gan reoli pwysedd gwaed

A

1) Beta atalyddion - lleihau effaith adrenalin
2) Blocwyr sianeli calsiwm - ymagor pibellau gwaed ac yn gostwng pwysedd gwaed
3) Atalyddion ACE - lleihau effaith angiotensin; rhywbeth sy’n achosi i bibellau gwaed ddarwasgu

28
Q

Disgrifiwch sut gall dialysis helpu trin clefyd yr aren

A

Mae’n golygu defnyddio hylif dialysis sy’n cynnwys glwcos ar yr un crynodiad ag yn y gwaed, ond dim wrea a chrynodiad ionau isel. Y canlyniad yw bod wrea, rhai ionau a dwr yn tryledu allan o’r gwaed ond y glwcos yn aros ynddo

29
Q

Disgrifiwch sut gall trawsblannu aren helpu trin clefyd yr aren

A

Trawsblannu un aren o roddwr gyda meinweoedd tebyg iawn, i sicrhau eu bod nhw’n gydnaws. Rhaid defnyddio cyffuriau atal imiwnedd ar ol y trawsblaniad i wneud yn siwr nad yw’r organ yn cael ei gwrthod

30
Q

Nodwch y prif rhesymau dros fethiant arennau

A

1) Diabetes
2) Pwysedd gwaed uchel
3) Clefyd awtoimiwn
4) Haint
5) Anafiadau gwasgu

31
Q

Disgrifiwch haemodialysis

A

Cymryd gwaed ac yn ei anfon drwy beiriant dialysis sy’n cynnwys miloedd o ffibrau, a phob un o’r rhain yn cynnwys tiwbyn dialysis athraidd ddetholus a hylif dialysis. I sicrhau bod cymaint a phosibl yn cael ei drosglwyddo, rydym ni’n defnyddio gwrthgerrynt. Rydym ni’n defnyddio heparin i atal y gwaed rhag ceulo

32
Q

Disgrifiwch ddialysis peritoneaidd

A

Hylif dialysis yn llifo i’r peritonewn drwy gathedr. Mae’r peritonewm yn cynnwys llawer o gapilariau sy’n cyfnewid defnyddiau gyda’r hylif dialysis, sy’n cael ei newid ar ol tua 40 munud ac mae’r broses yn cael ei hailadrodd lawer gwaith pob dydd. Mae’n galluogi’r claf symud o gwmpas ond mae’n llai effeithiol na haemodialysis

33
Q

Enwch y sylwedd mae;

1) pysgod dwr croyw
2) mamolion
3) adar, ymlusgiad a phryfed

yn ysgarthu. Eglurwch pam mae pob un yn wahanol

A

1) Amonia gan ei fod yn hydawdd ond yn wenwynig, felly rhai ei ysgarthu ar unwaith gan ddefnyddio cyfeintiau mawr o ddwr i’w wanedu
2) Wrea gan ei fod yn llai gwenwynig nag amonia, felly nid oes angen cymaint o ddwr i’w wanedu ac mae yna modd i’w storio am gyfnod byr
3) Asid wrig gan ei fod yn bron ddi-wenwynig felly does dim angen llawer o ddwr i’w wanedu. Nid oes angen cymaint o ddwr felly mae’n lleihau’r pwysau sydd ei angen ar adar i hedfan

34
Q

Esboniwch ddau addasiad mae mamolion fel camelod yn eu dangos ar gyfer bywyd mewn amgylcheddau sych

A

Mae cyfran uchel o’u neffronau yn gyfagos i’r medwla; mae ganddynt ddolenni Henle hir ac maent yn cynhyrchu cyfeintiau bach o droeth crynodedig iawn, achos bod y lluosydd gwrthgerrynt hirach yn gallu creu crynodiad ionau uwch yn y medwla. Mae camelod yn resbiradu mas sylweddol o fraster sy’n rhyddhau dwr metabolaidd