uned 2.4 - maeth Flashcards
(131 cards)
beth yw diffiniad organebau awtotroffig?
organeb sy’n defnyddio moleciwlau anorganig syml i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth
disgrifiwch organebau ffototroffig
defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth. Enw’r adwaith yma yw ffotosynthesis, defnyddir carbon deuocsid a dwr (anorganig, syml) i greu glwcos (organig, cymhleth)
beth yw enghraifft o organeb ffototroffig?
-planhigion
-rhai bacteria (cyanobacteria)
-rhai protoctista (algae)
disgrifiwch organebau cemotroffig
defnyddio egni o adweithiau cemegol i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth
beth yw enghraifft o organeb cemotroffig?
bacteria sy’n byw mewn agorfeydd hydrothermal a bacteria nitreiddio
ydy organebau ffototroffig yn awtotroffig neu heterotroffig?
awtotroffig
ydy organebau cemotroffig yn awtotroffig neu heterotroffig?
awtotroffig
beth yw diffiniad organebau heterotroffig?
organebau sy’n bwyta a hydrolysu moleciwlau organig cymhleth i ffurfio moleciwlau hydawdd sy’n cael eu amsugno a’u cymathu
beth ydy organebau heterotroffig yn dibynnu ar fel ffynhonnell bwyd?
awtotroffau
disgrifiwch organebau holosoig
organebau sy’n amlyncu bwyd ac yna’n ei dreulio’n fewnol. Mae’r broses yma yn cynnwys amlyncu, treulio, amsugno, cymathu a charthu
beth yw enghraifft o organeb holosoig?
bron pob anifail e.e bodau dynol
disgrifiwch organebau saprotroffig
organebau sy’n bwydo ar ddeunydd sy’n farw neu sy’n pydru. Maent yn treulio eu bwyd yn allgellog drwy secretu ensymau treulio ar sylweddau bwyd tu allan i’r corff ac yna’n amsugno’r cynnyrch hydawdd ar draws y gellbilen trwy drylediad
beth yw enghreifftiau o organeb saprotroffig?
ffwng a bacteria
disgrifiwch organebau parasitig
organebau sy’n byw ar organebau letyol neu y tu mewn iddi. Mae’r parasite yn bwydo ar yr organeb letyol ac yn achosi niwed iddi
beth yw enghreifftiau o organebau parasitig?
lleuen y pen
llyngyren borc
pam ydy dadelfenyddion yn bwysig?
-pydru deunydd gwastraff
-ailgylchu maetholion gwerthfawr e.e carbon a nitrogen
beth yw cigysyddion?
organeb sy’n bwyta anifeiliaid yn unig
beth yw llysysyddion?
organeb sy’n bwyta planhigion yn unig
beth yw hollysyddion?
organeb sy’n bwyta planhigion ac anifeiliaid
beth yw dadelfenyddion/detritysyddion?
organeb sy’n bwydo ar bethau marw
beth yw ectoparasit?
parasit sy’n byw ar organeb letyol
beth yw endoparasit?
parasit sy’n byw y tu mewn i organeb letyol
nodwch enghraifft o ectoparasit
lleuen y pen (head lice)
nodwch enghraifft o endoparasit
llyngyren borc