MPA 1.3 - Disgrifio modelau cyfiawnder troseddol Flashcards
(4 cards)
1
Q
Model rheoli trosedd
A
- nod y model rheoli troseddau yw i atal troseddu
- blaenoriaethau dal a chosbi troseddwyr gan eu hatal rhag cyflawni troseddau pellach
- dechrau o ragdybiaeth o euogrwydd
- ymddiried yn yr heddlu i allu adnabod y rhai sy’n euog
- dylai’r heddlu fod yn rhydd rhag reolau cyfreithiol diangen sy’n eu hatal rhag ymchwilio i droseddau
- mae’n pwysleisio bod hawliau cymdeithas a diddefwyr yn cael eu diogelu rhag trosedd, yn hytrach na hawliau pobl dan amheuaeth
2
Q
Model rheoli trosedd - Realaeth Dde
A
- mae’r model rheoli troseddau yn ddull ceidwadol asgell dde
- mae’n ffafrio rhoi mwy o bwerau i’r heddlu ymchwilio i droseddau a pholisiau plismona
3
Q
Model Trefn Briodol
A
- nod y model trefn briodol yw amddifyn y cyhuddedig rhag gormes gan y wladwriaeth a’i asiantaethau
- mae rhain yn cynnwys yr heddlu, erlynwyr a barnwyr
- model yn dechrau o ragdybiaeth o ddiniweidrwydd
- mae’r cyhuddedig yn ddieuog hyd nes y profir yn euog
- mae ganddo lai o ffydd yng nghallu’r heddlu i gynnal ymchwiliadau\
- mae analluedd, anonestrwydd ac ati yn golygu bod angen diogelu hawliau’r rhai dan amheuaeth a’r diffynyddion gan set o reolau trefn briodol
- mae’r model yn pwysleisio hawliau’r unigolyn a gyhuddir yn hytrach na hawliau’r dioddefwr neu’r gymdeithas
4
Q
Model Trefn Briodol - Realaeth Chwith
A
- dadlau bod plismona militaraidd gormesol o ardaloedd tlawd yn sbarduno gwrthdaro ac yn gwneud trigolion yn amharod i gynorthwyo’r heddlu
- mae’n rhaid i’r heddlu ddilyn y broses briodol drwy weithredu mewn fordd gyfreithlon ac anwahaniaethol os ydyn nhw am ymladd troseddau yn effeithiol, gan fod hyn yn dibynnu ar gweithrediad y gymuned