MPA 2.1 - Esbonio mathau o reolaeth gymdeithasol Flashcards
(8 cards)
1
Q
Rheolaeth gymdeithasol?
A
Perswadio neu gymell pobl i gydymffurfio a normau, deddfau a disgwyliadau’r gymdeithas
2
Q
Rheolaeth Gymdeithasol Mewnol
A
Rheolaeth dros ein hymddygiad sy’n dod o’u tu mewn i ni ein hunain, o’n personoliaeth a’n gwerthoedd (hunanreolaeth)
3
Q
Rheolaeth Gymdeithasol Allanol
A
Rheolaeth dros bobl a weithredir gan gymdeithas ac asiantau cymdeithasol rheolaeth gymdeithasol
4
Q
Rheolaeth cymdeithasol mewnol - Cydwybod Foesol neu Superego
A
- damcaniaeth Seicodreiddiol Freud
- rydym yn cydymffurfio a disgwyliadau cymdeithas ac yn ufuddhau i’w rheolau oherwydd bod ein superego yn dweud wrthym
- mae ein superego yn dweud wrthym beth sy’n iawn ac yn anghywir ac yn peri teimladau euogrwydd arnom os methwn a gwneud fel y mae’n annog
- mae ein superego yn datblygu trwy gymdeithasoli cynar o fewn y teulu, fel math o riant swnllyd mewnol sy’n dweud wrthym sut y dylem ymddwyn
- ei swyddogaeth yw i atal ysfa (urges)
5
Q
Rheolaeth cymdeithasol mewnol - Traddodaid a Diwylliant
A
- mae’r diwyllaint yr ydym yn perthyn iddo hefyd yn dod yn rhan ohonom trwy gymdeithas
- Mae cydymffurfio a thraddodiadau o’r fath yn ffordd bwysig o ddatblygu hunaniaeth rhywun a chael eich derbyn fel aelod o gymuned benodol
6
Q
Rheolaeth cymdeithasol allanol - Gorfodaeth (compulsion)
A
- mae gorfodaeth yn golygu defnyddio bygythiad grym er mwyn gwneud i rywun wneud rhywbeth
- gall grym gynnwys trais corfforol neu seicolegol, neu fathau eraill o bwysau
7
Q
Rheolaeth cymdeithasol allanol - Ofn cosb
A
- un fordd o geisio sicrhau rheolaeth gymdeithasol a gwneud bobl gydymffurfio a deddfau
- mae rhai damcaniaethwyr fel realwyr dde, yn dadlau mai’r ofn o gael eu dal a’u cosbi yw’r hyn sy’n sicrhau y byddai llawer yn droseddwyr yn parhau i ufuddhau i’r gyfraith
8
Q
Rheolaeth cymdeithasol allanol - Damcaniaeth rheoli
A
- mae damcaniaethwyr rheoli yn dechrau o’r cwestiwn ; pam mae pobl yn ufuddhau i’r gyfraith?
- mae hirschi, yn awgrymu bod pobl yn cydymffurfio oherwydd eu bod yn cael eu rheoli gan eu bondiau a chymdeithas, sy’n cadw rhag gwyro
- mae hirschi yn dadlau bod gweithredoedd ‘delinquent yn digwydd pan fo bond unigolyn i gymdeithas yn wan neu’n torri
- 4 elfen fond gymdeithas ; ymlyniad, ymrwymiad, cyfranogiad a creodau
- roeddent yn dadlau bod hunanreolaeth isel yn un o brif achosion tramgwyddo (delinquency)