MPA 2.2 - Trafodwch nodau cosb Flashcards
(16 cards)
1
Q
Ad-dalu / Disgrifiad
A
- golygu talu nol, rhoi cosb ar droseddwr fel dial am weithred anghywir neu droseddol
- gwneud y troseddwyr i ddioddef am iddo dorri cod moesol cymdeithas
2
Q
Ad-dalu / Chymesuredd
A
- gosb a roddir gydfynd a’r drosedd
- fod yn hafal i neu’n gymesur a’r niwed a wneir
- pobl yn dadlau y dylai llofrudd ddioddef y gosb eithaf
3
Q
Ad-dalu / Mynegi dicter moesol
A
- ei brif bwrpas yw caniatau i gymdeithas fynegi ei dicter moesol at y troseddwr
- cosb yn foesol da, er efallai ni fydd yn newid ymddygiad y troseddwr yn y dyfodol
4
Q
Ad-dalu / Damcaniaethau
A
- Realaeth Dde, cysylltiadau mewn i ddamcaniaethau dewis rhesymegol, mae’r nod o ad-dalu yn tybio bod troseddwyr yn actorion rhesymegol sy’n dewis cyflawni trosedd yn ymwybodol ac sy’n llwyr gyfrifol am eu gweithredoedd, mae’n rhaid iddynt ddioddef dicter cymdeithas am yr hyn maent wedi dewis ei wneud
5
Q
Adsefydlu / Disgrifiad
A
- gellir defyddio cosb i ddiwygio neu newid troseddwyr fel nad ydynt bellach yn troseddu ac yn byw bywyd di-drosedd
- nid yw’n canolbwyntio ar gosbi troseddau’r gorffennol, yn hytrach, mae’n defnyddio rhaglenni triniaeth i newid ymddygiad y troseddwr yn y dyfodol
6
Q
Adsefydlu / Polisiau
A
- rhaglenni addysg a hyfforddiant i garcharorion fel y gallant osgoi diweithdra ac “ennill bywoliaeth onest’ ar ol eu rhyddhau
- cyrsiau rheoli dicter ar gyfer troseddwyr treisgar, megis Hyfforddiant Amnewid Ymddygiad Ymosodol (CBT) a rhaglenni therapi ymddygiad gwybodol eraill
- gorchmynion a rhaglenni triniaeth cyffuriau a phrofi i drin dibyniaeth ar alcohol
7
Q
Adsefydlu / Rhaglenni Adsefydlu
A
- mae dedfrydau cymunedol yn cynnwys gofynion i droseddwyr gymryd rhan yn y rhaglenni hyn fel rhan o’u dedfryd
- yn gyffredinol, mae rhaglenni adsefydlu yn ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr fod eisiau newid eu bywydau mewn gwirionedd
- yn aml mae angen mewnbwn sylweddol o adnoddau a chymorth proffesiynol gan therapyddion, swyddogion prawf neu eraill i helpu i gyflawni newid
8
Q
Adsefydlu / Damcaniaeth
A
- ffafrio therapiau ymddygiad gwybyddol (CBT) i ddysgu troseddwyr i gwirio gwallau meddwl i rhagfarnau sy’n arwain at ymddygiad ymysodol neu droseddol Eysenck
- Yn ffafrio’r defnydd o therapi gwyrgam (aversion i atal ymddygiad troseddol
9
Q
Ataliaeth / Disgrifiad
A
- atal pobl rhag cyflawni trosedd
- ataliaeth unigol, defnyddio cosb i atal y troseddwr unigol rhag aindroseddu, dyli’r gosb ddangos i’r troseddwr nad yw’r drosedd yn werth y gosb
- ataliaeth gyffredol, anelu at atal cymdeithas yn gyffredinol rhag torri’r gyfraith, os bydd y cyhoedd yn gweld troseddwr unigol yn cael ei gosbi, byddant yn gwybod mai dyma fydd yn digwydd iddynt
10
Q
Ataliaeth / Damcaniaeth
A
- Realaeth Dde, theori dewis rhesymegol yn gweld unigoion fel actorion rhesymegol sy’n pwyso a mesur y costau a’r manteision cyn penderfynu p’un ai i droseddau ai peidio
- mae strategaethau atal troseddau sefyllfaol fel caledu targedau yn ei gwneud hi’n anoddach cyflawni trosedd yn llwyddiannus ac felly’n gweithredu fel rhwystr
11
Q
Amddifyn y cyhoedd / Disgrifiad
A
- gellir defnyddio cosb i ddiogelu’r cyhoedd rhag troseddu pellach drwy dynnu nhw allan o’r gymuned
- analluogrwydd yw’r defnydd o gosb i gael gwared ar allu’r troseddwr i droseddu eto
12
Q
Amddifyn y cyhoedd / Polisiau
A
- dienyddio trosedddwyr, eu hatal rhag cyflawni troseddau pellach
- torri dwylo lladron i ffwrdd
- castio cemegol troseddwyr rhyw
- cyrffyw a thagiau’n electronig, yn cyfyngu ar symud troseddwyr
13
Q
Amddifyn y cyhoedd / Damcaniaethau
A
- Lombroso, dadlau bod troseddwyr yn fiolegol wahanol i gymdeithas ac nad yw’n bosibl eu newid na’u hadsefydlu
- roedd yn ffafrio anfon troseddwyr arferol i alltudiaeth h.y eu cadw ar ynysoedd oddi wrth gymdeithas Realaeth Dde
- mae analluogrwydd yn amddifyn y cyhoedd rhag trosedd
14
Q
Atgyweiriad / Disgrifiad
A
- cynnwys y troseddwr yn gwneud yn iawn am gamwedd y maent wedi’i wneud, p’un ai i ddioddefwr ynigol, cymdeithas gyfan
- gall niwed a wneir fod yn faterol ac yn gymdeithasol
15
Q
Atgyweiriad / newidiadau ar gyfer difrod materol
A
- iawndal ariannol, gall hyn gael ei dalu i’r dioddefwyr h.y talu i drwsio’r difrod a wneir i eiddo rhywun
- gall llysoedd osod gorchymynion iawndal ar droseddwr
- gwaith di-dal, gwneud iawn i gymdeithas drwy ad-dalu cymunedol, er enghraifft, tynnu graffiti o adeiladau cyhoeddus, byddai hyn yn cael ei orfodi gan y llys fel gorchymyn cymunedol
16
Q
Atgyweiriad / Damcaniaethau
A
- damcaniaeth labelu, yn ffafio cyfiawnder adferol wrth iddo ailintegreiddio troseddwyr i’r gymdeithas brif ffrwd, trwy eu galluogi i ddangos edifeirwch gwirioneddol, mae’n caniatau ailintegreiddio ac yn eu hatal rhag eu gwthio i wyro eilaidd