ADRAN B DIWYLLIANNAU IEUENCTID Flashcards
(19 cards)
Diffinio diwylliannau ieuenctid Beth sy’n gwneud pobl ifanc yn wahanol i bobl hŷn?
- moesau
- gwerthoedd
- diwylliant
- diddordebau
- profiadau
- cenhedlaethoedd gwahanol
Diffinio diwylliannau ieuenctid natur neu lluniad cymdeithasol?
- heneiddio = broses fiolegol, naturiol, a chorfforol sy’n digwydd i bawb ac sydd wedi digwydd erioed
- mae gwahaol cymdeithasau wedi rhannu oed yn wahanol er enghraifft, heddiw gwelir plentyndod fel gyfnod o diniweidd-dra, ond hyd at tua’r 15fed canrif gwelir plant fel oedolion ‘mini’
- oedran yn rhan o hunaniaeth cymdeithasol h.y. Mae gwahaniaeth rhwng plant heddiw a plant yn yr 1800au, ac mae gwahaniaeth rhwng merch yn y DU ac merch yn affghanistan heddiw.
- cymdeithasau yn llunio ymddygiad yn ôl oedran e.e. Yn prydain gyfoes caiff plant eu trin yn wahanol i oedolion e.e. Rhaid iddynt mynd i’r ysgol nid oes hawl gyfreithiol ganddynt i wneud popeth (e.e. Yfed alcohol), ac fe ystyrir fod angen gofal ac amddiffyniad arnynt
Natur / bioleg
- plant yn rhy bach i ymgymryd â thasgau oedolion a’r henoed yn rhy sal yn aml i weithio
- rhwystrau biolegol o ran pryd mae ferched yn gallu cael plant
Lluniad Cymdeithasol
- trafoda cymdeithasagwyr sut mae llawer o’r categoriau oedran hyn a gaiff eu weld yn ‘naturiol’ yn dim mwy na lluniad cymdeithasol
Diffinio diwylliannau ieuenctid ‘Cyfnod ieuencitd’ yn gymdeithasau gwahanol
- nid oes gan bob cymdeithas cyfnod ieuenctid
- mewn rhai achosion ceir trosiad dramatig o blentyndod yn syth i fod yn oedolyn, nodir yr achlysur mewn rhyw fath o seremoni neu defod e.e. Bar mitsvah
- enghraifft = yn ystod glasoed ferched yn Nigeria mae nhw’n mynd i ‘tai tewi’ ac yn cael eu wahanu o’u cyfoedion er mwyn iddo nhw dysgu sut i fod yn wreigiau, ac caniatau iddyn nhw gofalu am eu gwr a’u tai yn y dyfodol, mae hyn yn sicrhau siawns well o ffrwythlondeb a plant iachus
- yn cymdeithasau gorllewinnol, mae seremoniua i nodi pan daw plentyn yn oedolyn swyddogol, ac mae Mead yn nodi nad oes rhyfedd fod ferched yn profi anhawsterau wrth ymgymryd â rôl oedolyn yn cymunedau gorllewinol o gymharu â’r cymunedau traddodiadol e.e. Samoa ,lle mae merched yn ymgymryd â chyfrifoldebau oedolion yn gynt e.e. Coginio , golchi, ac edrych ar ôl plant
- Hall (1904) yn dweud fod glaslencyndod (in the process of developing from a child into an adult.) mewn cymdeithasau cyfoes yn arwain at fwy o ymosodedd, rhwystredigaeth, ac ymwybyddiaeth o rywioldeb (Margaret Mead yn cytuno gan dadlau fod y anhwasterau sy’n gysylltiedig â ieuenctid yn cymdeithasau gorllewinol yn fwy cysylltiedig â’r diffyg rolau clir a rhoddir i bobl ifanc, yn hytrach na’r newidiadau biolegol sy’n digwydd yn ystod glasoed)
- Dadleua Eisenstadt fod pobl ifanc yn fwy ansicr o’u statws, ac felly yn troi at eu cyfoedion am sicrwydd.
Datblygiad diwylliant ieuenctid
- cred cymdeithasegwyr fod pobl ifanc wedi dechrau amlygu eu hun fel grwp o bobl oedd â diwylliant penodol eu hun ar ddechrau’r 20fed ganrif ac wedi ffrwydro fel cysyniad ar ddiwedd yr 1940au
- golyga hyn fod amodau gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol wedi achosi i newid yn sut roedd cymdeithasau gorllweinol prydeinig yn llunio’r cyfnod rhwng plentyndod ac oedoliaeth
- Daeth ‘ieuenctid’ felly i gael ei adnabod ar raddfa fwy eang a cyhoeddus fel ‘cyfnod oedran’ nodweddiadol oedd â disgwyliadau, ymddygiad, diddordebau, normau, a gwerthoedd eu hun.
Datblygiad diwylliant ieuenctid Abercombie (2000)
- agwrymu Abercombie (2000) fod pedwar nodwedd i ddiwylliant ieuenctid a dechreuodd rhain gael eu hamlygu yn y 1940au:
1. Hamdden
2. Steil
3. Grwp cyfoedion (cysylltu gyda ymddygiad drwg)
4. Prynwriaeth
Datblygiad diwylliant ieuenctid Abercombie (2000) - 1. Hamdden
- ar ddechrau’r 20fed canrif, dim ond y rhai oedd yn gallu fforddio ffioedd aelodaeth (membership fees) oedd yn dilyn gweithgareddau hamdden
- fodd bynnag, ar ôl 1918 gwellodd amodau i’r dosbarth gweithiol yn nodweddiadol o ganlyniad i gynhydd mewn cyflogau
- canlyniad hyn oedd cynnydd mewn incwm i’w wario ar hamdden; yn yr un cyfnod gwelwyd cynnydd mewn y nifer o bobl oedd yn mynd i’r sinema ayyb
- Roedd hamdden traddodiadol fodd bynnag wedi’i dominyddu gan ddynion, roedd yn ganolog i ffurfiant hunaniaeth gwrywaidd, roedd bywyd cymdeithasol y dafarn yn bwysig i ddynion.
- roedd merched yn llai tebygol o ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol oherwydd cyfrifoldeb cyntaf merch oedd y teulu (mae hyn yn anghyfartaledd a dynna ffeministiaid sylw ato)
- wrth i’r genhedlaethau symud ymlaen, daeth hamdden yn fwy a fwy cyffredin i bobl ifanc, yn enwedig y rhai oedd yn addysg oherwydd eu fod nhw’n gallu mwynhau hamdden heb gorfod poeni am cyfrifoldebau oedolion
Datblygiad diwylliant ieuenctid Abercombie (2000) - 2. Steil
- pwysigrwydd delwedd yn hanfodol i diwylliant ieuenctid e.e. Dillad, steil gwallt, chwaeth gerddorol.
Datblygiad diwylliant ieuenctid Abercombie (2000) - 3. Grwp cyfoed
- dod yn fwy pwysig i ieuenctid wrth dylanwad eu teulu arnyht lleihau
- dadleua swyddogaethwyr fod grwp cyfoed yn darparu pont rhwng plentyndod ac oedolaeth
- dengys astudiaethau o grwpiau ieuenctid fod pobl ifanc yn rhoi llawer o bwyslais ar fod yn rhan o grwp cyfoed sy’n rhannu nodweddion tebyg
- gall pwysau cyfoedion, fodd bynnag, gael ei weld mewn golau negyddol (e.e. Pwyso ffrindiau i yfed alcohol neu wneud cyffuriau er mwyn ffitio i fewn)
Datblygiad diwylliant ieuenctid Abercombie (2000) - 4. Prynwriaeth (consumerism)
- y ffordd mae pobl ifanc yn cael eu targedu o ran prynu pethau h.y. RHAID gwisgo’r ‘trends’ newydd e.e. Airforces ac converse yw’r prif esgidiau gwelir yn ysgol uwchradd
- cymdeithasegwyr ôl-fodern = prynwriaeth wedi datblygu i fod yn ffynhonnell dylanwadol iawn o hunaniaeth ieuenctid gyda pobl ifanc yn uniaethu gyda’i gilydd dros pethau fel pa ffon symudol, trainers ayyb sydd ganddynt.
- Yn gynyddol mae ymchwil yn awgrymu fod gymaint o dylanwad prynwriaeth fod pobl ifanc yn mynd yn llai a llai gwreiddiol (original) ac yn fwy debyg o fod yn un grwp mawr homogenaidd (pawb yn edrych ar yr un peth)
Datblygiad diwylliannau ieuenctid Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au?
- pan datblygidd y syniad o ddiwylliant ieuenctid yn y 50au cynnar, roedd yn ffitio i’r agweddau hyn a fodola’n barod am bobl ifanc
- does dim un prif rheswm pam dechreuodd yn yr 1950au yn hytrach daeth o ganlyniad i amryw o ffactorau h.y.
1. Cynnydd ym mhŵer economaidd pobl ifanc
2. Newidiadau cymdeithasol
3. Dylanwad diwylliant americanaidd
4. Datblygiad arbenigedd y cyfryngau
5. Twf addysg ffurfiol ac felly’r cyfnod rhwng plentyndod ac oedoliaeth yn ymestyn
Datblygiad diwylliannau ieuenctid
Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au? - 1. Cynnydd ym mhŵer economaidd pobl ifanc
- rhieni yn dechrau rhoi arian i blant, yn enwedig yn america oherwydd roedd llai a llai o diweithdra
- roedd nhw â llawer o ‘disposable income’ oherwydd swyddi fel torri gwair neu golchi ceir
- dim rhaid talu trethu
Datblygiad diwylliannau ieuenctid
Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au? - 2. Dylanwad diwylliant americanaidd
- Caneuwyr fel Elvis ac Buddy Holly
- ‘Greece’ wedi setio yn yr 1950au - y syniad fod dynion a merched yn teithio mewn grwpiau ond yn ceisio ffeindio partner o fewn y grwp arall
- cynnydd yn y defnydd o deledu
- pobl o wahanol ethnigrwydd (nid dim ond affrica-americanaidd) yn dechrau wrando ar R&B
Datblygiad diwylliannau ieuenctid
Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au? - 3. datblygiad arbenigedd y cyfryngau
- actorion gwyn dosbarth canol = gallu setio safonnau i bobl ifanc ac rhoi syniadau ffasiwn
- roedd teledu oedd yn targedu pobl ifanc wedi helpu i greu profiadau diwylliannol oedd pobl yn rhannu
- enwogion yn siapio diwylliant ieuenctid oherwydd y mae nhw’n gweithio fel symbolau diwylliannol e.e. Roedd eu bywydau, eu agweddau, ac eu dewisiadau ffasiwn yn cael eu dangos yn y cyfryngau trwy’r amser = cynrychioli diwylliant ieuenctid oherwydd
Datblygiad diwylliannau ieuenctid
Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au? - 4. Newidiadau cymdeithasol
newidiadau yn rolau fenywod
- er fod delfryd y ‘gwraig ty’ yn dominyddu, dechreuodd menywod ifanc gwthio yn erbyn rolau menywod traddodiadol yn yr 1950au
- cynnydd mewn cylchgronnau merched
- merched ifanc wedi dechrau dilyn gyrfaoedd ac addysg
Diwylliant ieuenctid lleiafrifol
- mudiad hawliau sifil
- jazz ac r&b = pobl du yn defnyddio fel llais i mynegi barn
Datblygiad diwylliannau ieuenctid
Pam dechreuodd diwylliannau ieuenctid yn y 1950au? - 5. Tŵf addysg ffurfiol
- cyfrannodd y cyfnod hir o addysg at adeiladu cymdeithasol a diwylliannol ‘teenagers’ fel grŵp ar wahan gyda nodweddion unigryw
- wrth i addysg dod yn fwy hygyrch, daeth diwylliant ieuenctid hefyd yn fwy gweladwy a dylanwadol
Datblygiad diwylliant ieuenctid Pwy dywedodd mai ‘prin yw’r enghreifftiau o astudiaethau ar ieuenctid ‘cyffredin’ e.e. sy’n mynd i brownies ac yn gweithio’n galed yn yr ysgo’l?
Sara delamont (2000)
Datblygiad diwylliant ieuenctid ‘ieuenctid arferol’ ac ‘diddordebau cyffredin ieuenctid ac oedolion’
1. Ieuenctid arferol
- pwyslais ar addysg
- dim steil penodol o ran ddillad
- steil gwallt amrywiol
- cerddoriaeth amrywiol
2. Diddordebau cyffredin ieuenctid ac oedolion
- chwaraeon
- cerddoriaeth
- addysg
- arian
- annibyniaeth
Rôl y cyfryngau wrth llunio diwylliannau ieuenctid pwy sy’n dweud ‘mai’r cyfryngau sy’n creu diwylliant ieuenctid wrth i’r cyfryngau tynnu sylw at rai agweddau a beirniadau agweddau eraill’
Cymdeithasegydd Stan Cohen
- ac felly mae cymdeithasegwyr yn dweud fod y cyfryngau yn or-ddweud ymddygiad pobl ifanc gan arwain at banig moesol
Rôl y cyfryngau wrth llunio diwylliannau ieuenctid Sut ydy Stuart Hall yn diffinio panig moesol?
- ‘pan fo’r ymateb swyddogol i berson, grŵp o bobl, neu gyfres o ddigwyddiadau i gyd yn anghymesur â’r bygythiad gwirioneddol a gynigir’
- un o brif dadleon Cohen yw’r ffaith fod y cyfryngau yn gorddweud ffeithiau a ffigyrau er mwyn greu stori dda sy’n arwain at fwy o elw
- e.e. Mods a rocers = dim gwahaniaeth tan i’r cyfryngau gor-liwio dadl fach rhwng 2 grwp (oedd yn rhan o’r 2 isddiwylliant) oedd wedi yfed gormod, a wnaeth hyn arwain at broffwydoliaeth hunan-gyflawnol ac pobl yn mynd i traethau er mwyn ymuno â’r hwyl (nad oedd e’n digwydd mewn wirionedd)
- cohen yn disgrifio’r pobl ddaw yn ffocws i banig moesol yw cythreuliad y werin (folk devils)
- yn syml mae cohen yn dweud fod panig moesol yn ‘drama’ sy’n ffurfio sgript i bobl ifanc