diwylliannai ieuenctid swyddogaethwyr Flashcards
(11 cards)
Damcaniaeth swyddogyddiaeth Beth yw ‘theori consensws’?
- theori sy’n dadlau nad oes gan bobl reolaeth dros yr hyn maent yn ei wneud a’r hyn sy’n digwydd iddynt gan fod dylanwadau’r sefydliadau cymdeithasol a’r grwpiau maent yn rhan ohonynt yn penderfyny hyn
- tan y 1970au roedd y theori hyn wedi dominyddu tan i theoriau mwy radical marcsiaeth, ffeiminyddiaeth ac ôl-fodernwyr herio fe.
Damcaniaeth swyddogyddiaeth sut maent yn gweld y cymdeithas?
- gweld fel system enfawr sy’n gweithio gan fod rhannau yn cefnogi’i gilydd yn union fel mae organnau o’r corff yn gweithio
- yn yr un modd, yn y corff mae gan bob system eu swyddogaeth, maent yn cyfrannu at rhannau eraill
Damcaniaeth swyddogyddiaeth Beth mae Parsons yn dadlau am ‘gyfnod y trosglwyddo’ / ‘rite of passage’
- dadlea parsons yn y mwyafrif o gymdeithasau traddodiadol fod pobl ifanc yn mynd drwy ryw fath o gyfnod o trosglwyddo
- seremoni yn symud o blentyndod i oedolaeth
- mewn cymdeithasau cyfoes diwylliannol ceir cyfnod hir rhwng plentyndod ac oedolaeth ac felly dadleodd Parsons fod angen creu cyfnod arbennig ‘youth’ yn y mwyafrif o gymdeithasau cyfoes
- rhan fwyaf o dathliadau heddiw yn dathlu troi’n 18 yn lle dathliadau crefyddol fel bar mitsvah
Damcaniaeth swyddogyddiaeth - beth parsons yn dweud am berthyn i grwpiau ieuenctid?
- parsons yn dweud fod perthyn i grwpiau ieuenctid yn rhyw fath o broses drosglwyddo sy’n helpu plant fynd o blentyndod i oedoliaeth
- rhaid i bobl ifanc defnyddio’r grwpiau fel ffordd o symud o fyd cyfforddus a diogeol i’r byd oedoliaeth cystadleuol, lle mae statws a enillir yn dominyddu
- rôl diwylliant yw i wneud y siwrne gwerthoedd gwerthoedd cyferbyniol y cartref (plentyndod) a gwaith (oedoliaeth) fwy llyfn
Damcaniaeth swyddogyddiaeth - Pwy oedd wedi datblygu syniadau parsons gan dadlau fod ‘angen i bobl ifanc ffeindio ffordd o symud i ffwrdd o’u rhieni ond gall hwn fod yn gyfnod emosiynol anodd’
Eisenstadt (1956)
Damcaniaeth swyddogyddiaeth GWERTHUSIAD ‘Dysgu Rolau Oedolion’
- ni fyddai marcswyr yn cytuno â hyn gan eu bod yn dadlau fod gwahaniaethau mawr yn sut roedd/mae pobl ifanc o’r dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol yn mynegi eu hun e.e. Gwahaniaeth mawr ar sail dosbarth rhwng pyncs a hipis
- ffeministiaid yn dadlau fod gender yn gwahanu diwylliant yn nodweddiadol yn y gorffennol
Damcaniaeth swyddogyddiaeth Hunaniaeth grwp - ymdeimlad o berthyn
- dweud fod pobl yn ffurfio cymdeithasau a grwpiau o fewn cymdeithas oherwydd eu bod yn rhannu’r un normau a gwerthoedd, mae hyn yn cael ei alw’n consensws gwrthoedd
- dweud fod pobl ifanc yn rhwystredig am eu hunaniaeth gan nad ydynt yn blant nac oedolion
- aeoldaeth o is-diwylliannau yn teimlo’n well gan fod nhw â deimladau o rheolaeth a pŵer
- drwy gael y rhyddid i archwilio gwahanol steiliau ayyb, maent yn datblygu’r gallu i ‘dyfu i fyny’
Damcaniaeth swyddogyddiaeth GWERTHUSIAD Hunaniaeth grwp
- caiff eu beirniadu am fod yn rhy gyffredinol gan fod profiadau o ddysgu i fyny yn amrywio yn ôl dosbarth, ethnigedd, a gender
- maent hefyd yn gorddweud pa mor wahanol yw isddiwylliannau ieuenctid i weddill y cymdeithas
Damcaniaeth swyddogyddiaeth Amddifadedd statws - Albert Cohen
- egluro pam fod bechgyn o’r dosbarth gweithiol yn ymuno â is-diwylliannau
- yn ei farn e mae pawb eisiau bod yn llwyddiannus ac mae modd wneud hyn trwy cael swydd dda ac cael parch
- mae hyn yn bosibl i’r dosbarth canol oherwydd fod nhw’n cael statws wedi’i bennu, ond mae’r dosbarth gweithiol yn wynebu methiant e.e. Yn yr ysgol a’r byd gwaith
- mae Cohen yn dweud fod llawer o fechgyn dosbarth gweithiol yn wynebu amddifadedd statws h.y. Fod nhw’n teimlo’n rhwystredig oherwydd nad ydy nhw’n cael eu parchu, ac nad oes ganddo nhw cyfoeth = gallu arwain at ymuno â gangiau ac ati
Damcaniaeth swyddogyddiaeth GWERTHUSIAD Amddifadedd statws - Albert Cohen
- ni ellir defnyddio syniadau Albert Cohen i egluro pam mae pobl ifanc yn ymuno â is-diwylliannau
- e.e. Hipis, pam oedd nhw wedi ffurfio?
- yn yr un modd, mae gan ferched llai o statws na dynion ond yn llai tebygol o ymuno â is-diwylliannau