Diwylliannau ieuenctid a rhywedd Flashcards
(12 cards)
diwylliant ieuenctid a rhywedd merched yn isdiwylliant ‘teddy boys’ yn ol Fyvel (1963)
“Dumb, passive teenage girls, crudely painted”
diwylliant ieuenctid a rhywedd pwy cyfeiriodd at merched yn ei astudiaeth ar gang o fechgyn beiciau modur fel:
- “what seemed to unite them was a comon desire for an attachment to a male”
- “unforthcoming, unwilling to talk as they retreat, in giggles, into the background”
Pam efallai nad yw hyn yn 100% gywir?
Paul Willis
Efallai nad yw hyn yn 100% gywir oherwydd y ffaith mai dynion yw’r rhan fwyaf o gymdeithasegwyr ac felly methu uniaethu gyda merched mewn is-diwylliannau
diwylliant ieuenctid a rhywedd a oedd merched wir yn absennol o is-diwylliannau?
- roedd y wasg yn tueddu i ganolbwyntio ar bortreu digwyddiadau cyffrous yr is-diwylliannau e.e. Gwrthdaro mods a rocers, llofurddiaethau teddy boys aayb
-mae’r ymateb yn delwedd boblogaidd is-diwylliannau yn pwysleisio aelodaeth gwrywaidd a gwerthoedd a nodweddion o wryweidd-dra tradoddiadol e.e. Caledwch ac felly ni fyddai merched yn ‘ffitio’ i’r is-diwylliannau gwreiddiol am nad oeddent yn arddangos y nodweddion hyn yn naturiol
diwylliant ieuenctid a rhywedd a oedd merched yn bresennol ond anweledig? Merched yn y teddy boys 1950au
- awgryma’r dystiolaeth o astudiaethau ethnograffig ar is-diwylliannau ieuenctid fod merched yn bresennol ac yn ystyried eu hun yn rhan o’r is-diwylliant ‘teddy boys’ yn y 1950au
- gwelir y ‘teddy girls’ yn dawnsio gyda’r teddy boys ac maent yno yn y cefndir mewn lluniau newyddion yn ystod terfysgoedd Notting Hill
- gwisga’r teddy girls dillad o steil tebyg i’r teddy boys h.y. Siwtiau, coleri, a theis. Hefyd, roedd llawer yn gwisgo’u gwalltiau yn fyr
diwylliant ieuenctid a rhywedd sut oedd problemau economaidd yn effeithio ar ryw yn diwylliannau ieuenctid?
- dengys waith y CCCS fod cysylltiad cryf rhwng dosbarth cymdeithasol ac aelodaeth o is-diwylliant
- yn yr 1950au roedd incwm cynyddol bechgyn dosbarth gweithiol yn rheswm dros twf is-diwylliannau ieuenctid gwrywaidd, ond nid oedd cyflogau merched y 50au mor uchel a bechgyn ac felly nid oeddent yn gallu chwarae rhan mor gyfartal a bechgyn
- McRobbie = patrymau gwario merched yn amrywio h.y. Roeddent yn amlwg yn gwario mwy ar bethau fel colur ac felly nid oedd gymaint o incwm yn weddill ganddynt i wario ar gymdeithasu
diwylliant ieuenctid a rhywedd Beth oedd rolau’r merched yn yr is-diwylliannau canlynol:
- merched beic-modur
- merched mod
- yr hipi
merched beic modur
- nid oedd merched yn aelodau cyfartal o’r is-diwylliant hwn ond yn aml roeddent yn cael eu ‘portreu’ mewn hysbysebion fel delwedd i gynrychioli rhyddid rhywiol cynyddol
- roedd y delwedd rywiol hwn o ferch mewn lledr ar gefn beic yn ffantasi yn hytrach na realiti’r diwylliant rocer
merched mod
- adlewyrchir ymglymiad y merched i’r is-diwylliant hwn gyda newidiadau economaidd
- yn y 60au roedd mwy o ferched ifanc yn gweithio mewn swyddi yn y gwasanaethau harddwch yn ogystal a swyddi clerigol, swyddi lle roedd delwedd yn bwysig
- roedd ymglymiad (involvement) i ferched fel ‘mods’ yn haws nac is-diwylliannau eraill
yr hipi
- cafodd ferched fynediad i’r diwylliant hwn drwy fynychuu prifysgolion yn y 1960’au hwyr a’r 70au cynnar
- drwy ryddid bywyd coleg roedd merched yn gallu datblygu eu personoliaeth eu hun
- ond, canolbwyntiodd y cyfryngau ar bethau gwael yr isdiwylliant e.e. Cyffuriau
- fodd bynnag, cynrychiola’r hipis bwer cynyddol a rhyddid cymdeithasol merched
diwylliant ieuenctid a rhywedd a oedd gan ferched his-ddiwylliant eu hun heb fynediad i fechgyn?
- mae McRobbie hefyd yn gysylltiedig gyda’r syniad o diwylliant yr ystafell gwely
- ym marn mcrobbie, mae merched yn gwrthsefyll dominyddiaeth gwrywol trwy fabwysiadu isdiwylliant ieuenctid sy’n pwysleisio rol ddomestig
- mae merched dosbarth gweithiol yn gwella eu benyweidd-dra trwy siarad am gariadon a smygu
- roedd hyn yn diwylliant saff oherwydd gelid ei ddilyn o’r cartref
- mae rhieni yn aml yn peidio caniatau i’w ferched mynd allan yn fwy na’u bechgyn, gan fod nhw mewn mwy o risg o berygl
diwylliant ieuenctid a rhywedd benyweidd-dra mwy diweddar - merched mewn cyfnod ol-fodern (ladettes)
- o’r 1990au ymlaen gwelwyd ffurf newydd i ferched fynegi eu benyweidd-dra a hwn wedi delio yn agos at y diwylliant ‘laddish’
- heddiw ceri ffurf fenywaidd i’r agwedd ‘ladish’ yma sef y ‘ladette’, yn debyg i’r ‘lads’ mae’r ladettes yn digon fodlon meddwi, rhegi, a chael bywyd rhywiol llac
- wrth i’r diwylliant ladette datblygu, creodd y cyfryngau modelau rol newydd i ferched arall edmygu
- ond, rydym wedi gweld panig moesol yn diweddar bod merched yn datblygu isdiwylliant mwy treisiol, ond mae’r tystiolaeth yn wan neu gymysg
- Bathurst = yn nodi fod modd defnyddio bwlio, galw enwau, a siarad fel arf i ddinistrio hunan hyder dioddefwr
- Valerie Hey = dweud fod merched yn defnyddio geirfa fel ‘ugly’, ‘slag’, a ‘dyke’ i gosbi merched sy’n gwyro o’r norm benywaidd
diwylliant ieuenctid a rhywedd gwryweidd-dra newydd - y dyn newydd 1980au
- gwryweidd-dra newydd ymddangosodd cyntaf yn yr 1980au i ddisgrifio dyn sy’n hapus i wneud gwaith domestig, dangos balchder yn ei ymddangosiad a sy’n cytuno a chyfartaledd i ddynion a merched
- yn ol yr Oxford English Dictionary, roedd y dyn newydd yn rhywun oedd yn:
- ‘rejects the traditional male role
- caring, sensitive, and non-aggressive
- not drinking alcohol and looking after his pecs and six pack’
- roedd dynion yn colli eu swyddi diwydiannol traddodiadol a’r sector gwasanaethau yn datblygu’n gyflym a’r swyddi hyn yn bennaf yn gweddu merched
- Whannel = dangos fod David Beckham ar y cyfnod yn cynrychioli hunaniaethau gwrywol (pel droed a thatws) AC fenywaidd (newid steil gwallt, gemwaith, gofalu am ei blant)
diwylliant ieuenctid a rhywedd ‘Lads’ (term ol-foderniaeth)
- cyflwynodd y term yn gyntaf yn 1993 gan Sean O’Hagan am ymddygiad ‘brash’ a ‘boisterous’ dynion ifanc
- cafodd ei weld fel rhan o’r trawsffurfiad ol-fodernaidd o wryweidd-dra ac yn ymateb heriol i’r ‘dyn newydd’
- gwelwyd y ‘lad’ yn ymateb i gynnydd dylawad ffeministiaeth a’r twf mewn ‘girl power’ h.y. Fod merched yn mynd i ‘gymryd drosodd’
diwylliant ieuenctid a rhywedd argyfwng mewn gwryweidd-dra - Adrienne Katz (1997)
- Adrienne Katz (1997) wedi cynnal arolygon ar samplau mawr o blant 13-19 oed ym mhrydain, roedd hi’n trafod yn ei chanlyniadau canran uchel o ferched ‘cam-do’ oedd yn fyrlymus a hyderus, yn barod i gystadlu ar lefel gyfartal a bechgyn
- ond, dadlea Katz fod y cynnydd yn hyder y merched wedi arwain at lleihad yn hyder rhai bechgyn e.e. Dywedir iddynt ‘actio fel dyn’
- ar y llaw arall, dadleua rhai ymchwilwyr fod dynion ifanc yn croesawu yb rhyddid newydd o fod mewn cymdeithas a llai o ystrydebau rhyw
- hefyd, mi allant ymlacio eu delwedd ‘macho’ a mynegi eu teimladau heb boeni am gael eu difrio