ADRAN B: ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU Flashcards

(5 cards)

1
Q

addysg a pholisi cymdeithasol yng nghymru

A
  • Mae addysg yn faes pwysig mewn polisi cymdeithasol yng Nghymru
  • adlewyrchu newidiadau cymdeithasol, economaidd, a gwleidyddol cyson o fewn y cymdeithas
  • gellid dadlau bod addysg yn fater craidd i lunwyr polisi (policy makers) ac mae’n faes sy’n cwmpasu nifer o elfennau amrywiol
  • mae addysg yn cwmpasu nifer o feysydd sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ymhlith disgyblion a myfyrwyr yn seiliedig ar rywedd, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, a hunaniaeth rhywiol
  • cynnwys darpariaeth addysg amrywiol h.y. Darparu addysg yn y cyfnodau meithrin, cynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch
  • mae addysg hefyd yn un o’r meysydd datganoledig yn Nghymru ac yn y ddau degawd ers datganoli mae polisiau addysgol yng Nghymru wedi dilyn trywydd ychydig yn wahanol i weddill gwledydd Prydain
  • mae systemau addysg hefyd yn amrywio o wlad i wlad ac o fewn wledydd penodol hefyd
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Rhaglen rhyngwladol asesu myfyrwyr (PISA)

A
  • ystadegau rhyngwladol yn cymharu cyrhaeddiad addysgol disgyblion ysgolion ledled y byd
  • adrodd ar feysydd darllen, mathemateg, a gwyddoniaeth
  • PISA 2018 = canolbwyntiwyd ar ddarllen, ac cyflawnodd disgyblion yng Nghymru sgor gymedrig o 483 mewn darllen - roedd hyn yn ystadegol debyg i gyfartaledd yr OECD (487) am y tro cyntaf
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

addysg a pholisi cymdeithasol yng nghymru - addysg yng Nghymru

A
  • mae’r system addysg yng Nghymru wedi profi cyfnodau amrywiol ar hyd ei hanes
  • yn hanesyddol, gwelwn fod crefydd wedi chwarae rhan hollbwysig mewn cynnig addysg i drigolion Cymru cyn sefydlu system addysg ffurfiol y wladwriaeth.
  • gwelwn fod cyfrwng iaith addysg yn nodwedd amlwf o’r system yng Nghymru gydag adroddiad y Comisiynwyr yn 1847 yn sefydlu’r saesneg yn brif iaith addysg yng Nghymru
  • cymerodd 100 mlynedd yn union i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg drwy sefydlu’r ysgol gymraeg gyntaf dan nawdd awdurdod addysg lleol, sef Ysgol Dewi Sant yn 1947
  • mae addysg yn aml yn ymateb i newidiadau cymdeithasol amrywiol ac mae’r system addysg yng Nghymru wedi dilyn llwybr unigryw sy’n cynnwys datblygiadau arloesol gyda datblygiad pwysig i ddod cyn hir gyda dyfodiad cwriwcwlwm newydd Cymru
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

ffactorau diwylliannol addysg yng Nghymru - ffactorau diwylliannol

A
  • cyfrwng iaith addysgu yn elfen unigryw o\r system addysg yng Nghymru sydd yn wahanol i’r ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig yn Lloegr
  • Mae’r iaith gymraeg wedi bod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion Cymru ers ‘deddf diwygio addysg’ ym 1988 lle rhoddwyd y cwricwlwm cenedlaethol ar waith
  • mae ysgolion yn dilyn modelau addysgu gwahanol yng Nghymru - mae addysg yn cael ei chyfflwyno drwy’r cymraeg, saesneg ac yn ddwyieithog sy’n adlewyrchu polisiau awdurdodau addysg lleol a’r amrywiaeth ieithyddol sydd yng Nghymru
  • hanes hir o brotestio ac ymgyrchu sydd wrth wraidd sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru a brwdfrydedd ac angerdd rhieni oedd yn aml yn cyfrannu at ddewisiasau addysg i’w plant
  • addysg yn cymraeg ac dwyieithog yn creu siaradwyr cymraeg newydd sy’n cynyddu’r niferoedd sy’n medru’r cymraeg yng Nghymru.

Mae addysg yn elfen greiddiol o strategaeth iaith Gymraeg llywodraeth cymru, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr (Llywodraeth 2017) lle’r nod yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

ffactorau diwylliannol addysg yng Nghymru - ffactorau materol

A
  • dengys ymchwil bod dosbarth cymdeithasol a chefndir sosio-economaidd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion ysgol yng Nghymru
  • Yn ol StatsCymru (2019) roedd cyrhaeddiad addysgol plant yng Nghymru a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim yn is ym mhob grwp oed na phlant nad oeddent yn derbyn prydau ysgol am ddim
  • Mae’r data llywodraeth prydain (2018) hefyd yn awgrymu bod hyn yn cael dylanwad ar lefelau cyflogadwyedd oedolion, gan nodi bod oedolion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim 23% yn llai tebygol o fod mewn gwaith o gymharu a’u cyfoedion nad oeddent yn derbyn prydau ysgol am ddim
  • Joseph Rowntree Foundation (2018) = cyrhaeddiad addysgiol disgyblion o’r cyfnod allweddol 2 o gefndiroedd difreintiedig 16% yn is na’r rhai hynny o gefndiroedd nad oedd yn difreintiedig (deprived) - er hynny, adrodda’r ymchwil bod y bwlch wedi lleiahu o 26% yn 2004/2005
  • Gruffudd et al (2017) = nodi’r berthynas rhwng cyrhaeddiad addysgol a thlodi mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac dengys yr ymchwil bod ffactorau fel diwylliant budd-daliadau, uchelgais a rhieni sy’n gweithio oriau hir am dal isel yn aml yn dylanwadu ar brofiadau a llwyddiannau disgyblion ysgol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly