Damcaniaeth ôl-foderniaeth Flashcards
(3 cards)
1
Q
A
2
Q
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth ol-foderniaeth - Beth mae’r damcaniaeth yn dweud?
A
- mae damcaniaeth ol-foderniaeth yn cydnabod y newidiadau mawr sydd wedi digwydd i gymdeithas
- cred ol-fodernwyr fod y gymdeithas ‘fodern’ wedi dod i ben, ac rydyn ni bellach yn byw mewn cymdeithas ‘ol-fodern’
- dyma gyfnod lle mae amrywiaeth yn ganolog i brofiad o fyw o fewn cymdeithas
- rhaid i’r system addysg felly gynhyrchu disgyblion sydd a nifer o sgiliau ac all ailhyfforddi a newid gyrfaoedd yn rhwydd
- mae ol-fodernwyr hefyd yn credu fod ysgolion fel busnesau bach sy’n trio denu disgyblion fel ‘consumers’, ac felly o ganlyniad mae ol-fodernwyr yn credu bod y system addysg yn mynd drwy broses o farchnadoli (marketisation)
3
Q
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth ol-foderniaeth - Pierre Bourdieu
A
- cred Bourdieu fod rhieni dosbarth canol a dosbarth uwch yn defnyddio eu gwybodaeth am y system addysg er mwyn dewis yr ysgolion gorau i’w plant
- datblygodd bourdieu y syniad fod gan unigolion (gan gynnwys rhieni a phlant) wahanol fathau o gyfalaf, a’u bod yn gallu defnyddio’r gyfalaf hwn i’w helpu i llwyddo o fewn y system addysg
- nid cyfalaf economaidd yn unig sy’n bodoli, medd bourdieu, ond cyfalaf diwylliannol, cymdeithasol a symbolaidd
- Cyfalaf diwylliannol - y ffordd mae plant yn siarad a gwybodaeth plant am ddiwylliant
- Cyfalaf cymdeithasol - rhwydweithiau cymdeithasol y plant a’r rhieni
- Cyfalaf symbolaidd - statws uchel unigolion a theuluoedd o fewn cymdeithas a’r pwer dros eraill sydd yn dod o hynny
- canlyniad hyn yw bod y plant yn derbyn cymwysterau da o ysgolion a prifysgolion da ac o ganlyniad yn gadael y system addysg ac yn derbyn y swyddi gorau o fewn cymdeithas
- o ganlyniad cred bourdieu fod y system addysg yn ail-greu haeniad cymdeithasol ble mae’r cyfoethog yn aros yn gyfoethog, a’r tlawd yn aros yn dlawd