Damcaniaeth swyddogaethwyr Flashcards
(4 cards)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - Durkheim
- durkheim yn dweud fod prif rol addysg yw i drosglwyddo normau a gwerthoedd cymdeithas i’r disgyblion
- yn ol durkheim, yr ysgol yw’r gymdeithas ar raddfa fechan h.y. Mae’r sgiliau, y normau a gwethoedd a ddysgwyd yn yr ysgol yn hanfodol i ddisgyblion pan fyddant yn gadael yr ysgol
- mae’r system addysg yn sicrhau ddisgybliaeth drwy gosbi ymddygiad sydd yn torri rheolau
- mae addysg yn gofyn i ddisgyblion i barchu awdurdod a rheolau gan ddysgu sit i gydweithio = sgiliau hollbwysig er mwyn sicrhau bod yna gonsensws gwerthoedd o fewn y gymdeithas
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - Parsons
- adeiladwyd Parsons ar waith Durkheim a chredai mai addysg yw un o’r prif gyfryngau gymdeithasoli sydd gan gymdeithas
- yn ol parsons, y teulu sy’n gyfrifol am gymdeithasoli cynradd a’r ysgol sy’n gyfrifol am gymdeithasoli eilaidd
- addysg yn ol parsons yw’r bont rhwng y teulu a’r gymdeithas ehangach
- roedd parsons o’r farn fod llwyddiant y gymdeithas yn dibynnol ar lwyddiant yr unigolyn, a hynny’n aml iyn cychwyn o fewn y system addysg
- credai parsons mewn meritocratiaeth = lle mae pawb yn cael yr un cyfleoedd i lwyddo gan eu bod yn cael eu trin yn gyfartal yn yr ysgol
- cred swyddogaethwyr fod aelodau’r cymdeithas yn cael eu dyrannu i swyddi ‘pwysicaf’ y cymdeithas yn ol eu teilyngdod
- ym marn y swyddogaethwyr, mae hynny’n beth cadarnhaol i’r gymdeithas gyfan
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - David Hargreaves (1975)
- Bu damcaniaeth Durkheim a Parsons yn ddylanwad ar David Hargreaves (1975)
- beirniadodd hargreaves y system addysg yn ysgolion prydain am orbwysleisio gwerth yr unigolyn
- mae’n nodi fod athrawon yn labelu disgyblion yn wahanol yn seiliedig ar ba ardal lleol mae nhw’n dod o
Pa fath o gymdeithasoli yw addysg?
Pwrpas addysg yn ol nifer o gymdeithasegwyr yw cymdeithasoli disgyblion i ddeall pa ymddygiad sy’n derbyniol o fewn gymdeithas
- yn ol damcaniaeth strwythurol swyddogaethol mae sefydliadau cymdeithas yn cyfrannu at gynnal y gymdeithas honno a sicrhau consensws gwerthoedd ac mae’r teulu a’r system addysg yn enghreifftiau pwysig o’r fath o sefydliadau
- teulu = cymdeithasoli cynradd
- addysg (a gyfryngau cymdeithasoli arall) = cymdeithasoli eilaidd
- yn ol rhai damcaniaethwyr, rol y system addysg yw i rhannu unigolion i rolau penodol o fewn y gymdeithas ac mae cymdeithasoli eilaidd yn y system addysg fel dysgu cydweithio ag eraill a pharchu awdurdod yn rhan bwysig o’r broses paratoi ar gyfer byd gwaith