Cyrhaeddiad addysgol Flashcards
(33 cards)
Cyrhaeddiad addysg ac dosbarth cymdeithasol
- cyswllt clir rhwng dosbarth a cyrhaeddiad
- plant o gefndir dosbarth canol yn tueddu i ennill cymwysterau gwell yn yr ysgol na phlant o gefndir dosbarth gweithiol
- un ffordd o fesur cyrhaeddiad addysgol plant yw cymharu canlyniadau plant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, a phlant nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim - mae’r duedd hon yn cael effaith ar fywydau unigolion ar ol iddynt adael yr ysgol ac ymuno a’r byd gwaith
Cyrhaeddiad addysg ac dosbarth cymdeithasol - Howard Becker (1952)
- wedi datblygu’r cysyniad o ddamcaniaeth labelu yn ei waeth i esbonio pam fod plant o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn cael canlyniadau amrywiol o fewn y system addysg
- yn ol Becker, mae plant o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn cael eu labelu gan athrawon, ar lefel isymwybydol yn blant galluog neu ddim, neu yn blant sy’n ufudd neu ddim.
- Gan adeiladu ar waith Becker, mae nifer o gymdeithasegwyr yn credu bod y system addysg yn labelu plant dosbarth gweithiol mewn modd negyddol, a bod hyn yn cyfrannu at eu perfformiad is o fewn y system addysg
- Mae marcswyr hefyd yn dadlau bod y system addysg yn trin plant o’r dosbarth gweithiol mewn ffordd lai ffafriol, a bod hyn yn ei dro yn paratoi plant o gefndiroedd dosbarth gweithiol at safle is o fewn y system economaidd,
- Yn y ddau achos hyn, gellir dadlau bod elfen o broffwydoliaeth hunangyflawnol ar waith, ble mae disgwyliadau athreawon o blant o’r dosbarth gweithiol yn dod yn wir, wrth i blant symud drwy’r system addysg i’r byd gwaith, ac i fywyd yn ehangach
Cyrhaeddiad addysgol a Rhywedd
- enghraifft o hyn yw bod merched, ar gyfartaledd yn perfformio’n well na bechgyn o fewn y system addysg
- mae hyn yn wir am gymru a hefyd yn berthnasol mewn nifer o wledydd ledled y byd. Er hynny, mae bechgyn a merched yn tueddu i astudio technoleg gwybodaeth a dylunio a technoleg, thra bod merched yn fwy tebygol o astudio ieithoedd a lletygarwch ar arlwyo
- mae’n bosib dadlau fod y gwahaniaethau hyn mewn pynciau ysgol yn deilio o’r hen arfer o annog bechgyn i astudio pynciau a fyddai’n gymorth iddynt wrth chwilio am waith, tra byddai merched yn cael eu hannog i astudio pynciau a fyddai’n eu paratoi at fywyd tu allan i’r gweithle
- mae hyn yn cael eu adlweyrchu yn astudiaeth Sue Sharp, Just a Girl (1994) a gymharodd ddisgwyliadau merched ysgol yn y 70au a’r 90au, tra oedd gan ferched ysgol y 70au yr uchelgais o briodi a chael plant, roedd merched y 90au yn llawer mwy hyderus ac uchelgeisiol gan osod eu bryd ar yrfa ac ennill cyflog dda
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd
- yn ol adroddiad diweddar i lywodraeth prydayn (2021), mae lefelau cyrhaeddiad addysgol yn y DU yn dueddol o amrywio yn ol cefndiroedd ethnig disgyblion e.e. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at berfformiad is plant o gefndiroedd du carbiiaidd o’i gymharu a phlant o gefndir gwyn prydeinig ar lefel TGAU
- mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod plant indiaidd, bangladeshaidd a Du Affricanaidd yn perfformio’n well ar lefel TGAU na phlant gwyn prydeinig
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd - Pwy daeth i’r casgliad fod:
- hiliaeth sefydliadol yn broblem o fewn y system addysg yn brydain, ble roedd plant o gefndiroedd gorllwein india yn cael eu trin yn llai ffafriol na phlant o gefnidroedd gwyn
- tuedd diarwybod (unconcious bias) sydd tu cefn ir modd y mae plant o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cael eu trin yn wahanol o fewn y system addysg
Bernard coard (1971)
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd - Tate a Page (2018)
- dadlau fod y cysyniad o tuedd diarwybod (unconcious bias) yn cael e defnyddio fel esgus i esbonio hiliaeth o fewn y system addysg
- dadleua Tate a Page fod hiliaeth o fewn y system addysg yn deillio, nid o arferion athrawon yn unigol, ond o strwythurau addysgol a chymdeithasol sydd yn cael eu rheoli drwy bwer pobl wyn
Cyrhaeddiad addysgol ac Hunaniaeth Rhywiol
- yn hanesyddol, roedd deddfau a pholisiau addysg yn aml wedi canolbwyntio ar normau heterorywiol tra’n gwahardd normau cyfunrhywiol
- enghraifft bwysig o hyn oedd adran 28 o ddedf llywodraeth lleol (1988) a oedd yn gwahardd hyrwyddo cyfunrhywioldeb o fewn awdurdodau addysg lleol a chynghorau sir
- roedd hynny’n golygu nad oedd modd i aelodau o’r gymuned LHDTC fyw bywydau agored o fewn y system addysg
- noda ymchwil Carlile (2019) fod angen gwaith pellach o fewn ysgolion cynradd er mwyn cydnabod a dathlu perthnasau LGBTQ+ a sicrhau addysg gynhwysol i bawb
Cyrhaeddiad addysgol ac hunaniaeth rhywiol - Judith Butler (1993)
- ysgrifennu am yr hegemoni heterorywiol a’r matrics rhywedd sy’n cymryd yn ganiataol mai perthnas heterorywiol yw’r norm cymdeithasol ac felly’n ymyleiddio unigolion o’r gymuned LGBTQ+
Cyrhaeddiad addysgol ac hunaniaeth rhywiol - ymchwil pwy oedd wedi adrodd y canlynol:
- adrodd ar homoffobia yn system addysg y DU
- rhaid i nifer o deuluoedd LGBTQ+ dod o hyd i strategaethau amgen er mwyn ceisio delio a disgwrs homoffobiaidd mewn ysgolion
Cocker et al (2019)
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - cyrhaeddiad TGAU
- pobl o grwpiau ethnig ‘chinese’ a gafodd y sgor cyrhaeddiad uchaf o’r holl grwpiau ethnig (65.5)
- disgyblion swyn sipsiwn (white gypsy) oedd a’r sgor isaf (20.3)
- y sgor cyfartaledd yn 2022/2023 oedd 46.3
- ym mhob grwp ethnig heb law am ‘travellers’, roedd y ferched yn perfformio’n well na’r fechgyn
- ym mhob grwp ethnig, roedd gan ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sgor cyfartalog yn is na’r rhai nad oeddent yn gymwys (eligible)
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - addysg bellach
- 82% o bobl gwyn = gweithio ar ol addysg pellach (y canran mwyaf o bob grwp)
- pobl chinese (£31,000) ac Affricanaidd (£26,000) yn wneud y mwyaf o arian ar ol addysg bellach na weddill y grwpiau ethnig
- pobl pakistani a gwyn = wneud y lleiaf o arian
- chinese = y grwp mwyaf o ddisgyblion cafodd AAA yn lefel A
- Black carribean = y grwp gyda’r lleiaf o AAA yn lefel A
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Cecile Wright
- ymchwilio i fewn i 4 ysgol dinal mewnol gynradd a chanfyddodd dystiolaeth fod athrawon yn trin plant o grwpiau ethnig lleiafrifol yn wahanol i blant croenwyn
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - David Gillborn
- credu fod tangyflawni ymysg grwpiau ethig lleiafrifol yn dod o ganlyniad i hiliaeth
ACyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Bourne et al
- Mae gwaharddiadau afro-garebeaidd bedair gwaith yn uwch na disgyblion gwyn
- dywed Bourne et al fod hyn oherwydd fod athrawon yn teimlo dan fygythiad
- awgryma eraill ei fod yn deillio o ymddygiad gwael o ganlyniad i rwystredigaeth hiliaeth h.y. Panig moesol yn y cyfryngau e.e. The Sun
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Tony Sewell
- pwysau cyfoedion a diwylliant stryd fel ffactor allweddol i egluro pam fod cyrhaeddiad ddisgyblion affro-garebeaidd yn dirywio yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd
- cred sewell fod y ffaith fod gymaint o fechgyn yn cael eu magu mewn teuluoedd un rhiant yn ffactor, gan ei fod yn gwneud y bechgyn yn agored i bwyse cyfoedion a diwylliant stryd
- denir bechgyn at diwylliant o wyryweidd-dra sy’n tanseilio gwerth addysg a chymhwysterau
- mae affro-garebeaid yn fwy tebygol o gael eu rhoi yn y setiau isel a fel gwyddoch mae cael eich leoli yn y setiau gwaelod yn fwy tebygol o arwain at is-diwylliant gwrth-ysgol
- mae Sewell yn nodi fod yna 4 math o ddisgybl:
- Cydymffurfwyr (41%)
- Dyfeisiadwyr (35%) - derbyn gwerth addysg, dim eisiau cael ei gweld fel cydymffurfwyr
- Encilwyr (6%) - ‘loners’
- Gwrthrhyfelwyr (18%) - gwrthod ysgol ac cymhwysterau
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - pwy cafyddodd tystioleth fod hiliaeth dal yn ffactor allweddol mewn tangyflawni addysgol mewn astudiaeth o ddwy ysgol yn llundain (plant croenddu ar y lefel isaf o gyrhaeddiad)?
Gillborn a youdell
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - beth oedd Wright wedi canfu
- astudiaeth o ysgol ‘jayleigh’ fod canran uwch o blant croenwyn yn cael eu rhoi i wneud papurau haen uwch TGAU (roedd 41% o boblogaeth yr ysgol yn asiaidd)
- roedd plant croenddu yn fwy tebygol o gael eu rhoi mewn setiau isel ar ddechrau blwyddyn 7 serch fod asesiad athrawon ysgol gynradd yn eu hasesu ar lefel gyfartal a phlant croenwyn
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - effaith setio ar unigolion
- mae gan unigolion gallu cyfyngedig
- proffwyd hunan gyflawnol = pobl yn meddwl fod nhw’n twp
- gwahanu unigolion gan annog gwahaniaethu
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - problemau hiliaeth yn setiau
- DG ac pobl croenddu yn cael ei rhoi yn y setiau gwaelod
- set gwaelod = dim cymhelliant = arwain at barhad pobl DG
- gwneud yr un prawf yn ysgol gynradd ond mae pobl croenddu a canlyniadau waeth
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Athrawon croenddu yn ol Reach(2007)
- fwy o rolau model positif o fewn cymunedau y bechgyn e.e. Cyfreithwyr, meddygon, ac athrawon
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Trevor Phillips of the committee for racial equality
- dweud fod llawer o rieni croenddu yn dymuno gweld dosbarthiadau gwahanol i blant croenddu
- mae rhai athrawon afro-garebeaidd yn awgrymu byddai ‘ysgolion croenddu’ un helpu meithrin delwedd bositif o hunaniaeth ddu
- yn ur yn modd mae’r cymuned fwslimiaid yn dadlau dylai addysg fod wedi’i selio ar islam
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - modood et al
- pobl a’r lefelau isaf o gyrhaeddiad (bangladeshis, pacistanaidd a afro-garebeaidd) wedi’u lleoli ar y cyfan yn y dosbarth gweithiol
- llwyddiant pobl indiaid a tseiniaid yn dellio o’r ffaith eu bod yn fwy tebygol o fod yn y dosbarth canol
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - ystadegau a phatrymau incwm a tlodi yn ol grwp ethnig yn Cymru
- 50% o bobl sy’n dod o’r gefndir du, neu asiaidd yn fwy debygol o fyw mewn tlodi
- mae 2/3 o sipsiwn a theithwyr yn hawlio cinio ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd i gymharu gyda 18% ar gyfartaledd
- gwelir hefyd ganran uwch na chyfartalog a bangladeshi, pacistani, hil-gymysg a disgyblion afro-garebeaidd sydd a’r hawl i gael cinio ysgol am ddim